r :' 'f-
]^AES A MOR.
ïï|fWi: ,,
â A
-ocr page 5- -ocr page 6- -ocr page 7- -ocr page 8- -ocr page 9- -ocr page 10- -ocr page 11- Cesglwch eioh telynegion ynghyd. Bhaid i bawb addef yn ddiwarafun na welodd Cymru,nbsp;erioed eu bath.
Gwylfa,
Mewn Ilythyr, 1902.
Yn ol fy marn i, ni ysgrifennwyd yng: Nghymru na Ffrainc nar Almaen, ers blynydd-oedd bellach, hafal ich telynegion ir Misoedd.Y^
W. J. Geüfftdd,
Mewn Ilythyr, 1906.
Os rhoed cynneddf arbenig i mi, y gynneddf i ganu yw honno. Na feier finbsp;am ei harfer; nac, ychwaitb, am Itd-gredu yn nyfarniad dau or un oes ac ornbsp;un ddawn.
Ganwyd fi ym mis blodau a chan; bedyddiwyd fi gan Emrys ; mynnwn Ie yngnbsp;nghof a sereh fy nghemedl fel bardd y telynegion hyn.
Cyhoeddir y llyfr dan ofal Mr. Owen Edwards, noddwr caredicaf lien Cymru.
Eifion Wyn.
Mai, 1906.
-ocr page 12- -ocr page 13-1. TELSNEGION BYWYD.
Tudden.
Hwiangerdd Sul y Blodau ................... 9
Flower Sunday Lullaby1 .................... 11
Llawhaiam Bendefig ........................... 13
Gwylau ....................................... 16
Priodas Hun ...................................... 18
Ora Pro Nobis ..................................... 20
quot; Ora Pro Nobis 1 .......... 22
Mun ac Oenig .................................... 24
Nadolig Llawen ............................... 26
Gobaith .......................................... 27
Credo ........................................... 28
Gwen y Marw ................................. 29
Yn Erw Duw ................................ 30
II. TELYNEGION MEN.
Men ............................................. 33
Hyd fin y maes, ym min yr hwyr ...... 34
Bob nos oleu leuad ............................... 35
Cartref Haf yw Deffrobani ............... 37
Pe bai gennyt sereh .......................... 38
Hoffais di yn ieuanc, Men ..................... 39
Dan dy lewyrch, leuad ieuanc ............. 40
III. TELYNEGION SERCH.
Y Blodyn Glas .................................... 41
Blodau a Sereh .................................... 42
Caru Haf ........................... 43
Hollt y Fell ten ................................ 45
Yr Afal Melyn ........................... 47
Sereh .......................................... 48
Cynnyg Galon .................................... 49
Hiraeth .......................................... 50
Merch y Felin ................................. 51
Cyfieithiad ir Saeeneg gan y Parch. J. W. Wynne-Jones, M.A., Caernarfon.
-ocr page 14-|
IV. TELYNBGION Y MISOEDD. Tuda/en. | ||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||
|
V. TELTNEGION ï MAES. |
Trioedd y Mynydd ............................... 70
Y Ser ............................................. 71
Briallen Sul y Blodau ...................... 72
Ystyriwch y Lili (Llyn y Garreg Wen) 75
Cytarch y Llinos (I blant fy mro) ...... 77
Mabinogi .......................................... 78
Liw Dydd, liw Nos .............. 80
Perthi Mad ........................................ 81
VI. TELÏNEQION Y MOR.
85
96
Y Llanw . Yr Alon
VII. TELYNEGION CYMBIT.
Y Forth Prydferth .............................. 99
Os wyt Gymro .................................. 100
Gwyl a Gwaith ..................................... 101
Coeloerthir Bannau .......................... 102
O cadwn uchelwyl ........................... 104
Ochain y Clwyfawg ..................... 105
0r Deffroad .................................... 107
Cymrur Diwygiad ............................... 109
Paradwys y Bardd ...................... 111
(1 fy Mam.)
Tan y garreg las ar blodau,
Cysga, berl dy fam;
Gwybod mae dy dad a minnau Na dderbyni gam :
Gwn nad oes un beddrod bychan Heb ei angel gwyn;
Cwsg, fy mhlentyn, ymath hunan-Cwsg, Qeronwy Wyn.
Cofior wy, pan oeddit gartren Cysgu gyda ni,
Oadw fynnwn blant y pentre Rhag dy darfu di :
Ond boddlonwn iddynt heno, Gydau miri lach,
Pe bal obaith iddynt ddeffro Fy Ngoronwy bach.
-ocr page 16- -ocr page 17-II
Telynegion Bywyd.
Where the flowrs and gray stone hide thee, Sleep, my pearl, below ; a, ''
That no harm shall eer betide thee,
I and father know :
Little graves are never lonely,
Angels guard their kin ;
Sleep, my child, thyself there only
Sleep, Goronwy Wyn.
Well I mind, when thou wert sleeping In our home with me.
Village boys Id fain be keeping From disturbing thee :
Would to-night our rest were shaken By their mirthful din.
If, ah! if they could awaken Thee, Goronwy Wyn.
Sleep, my child, without thy mother.
In Gods acre rest;
We, this Flower Sunday, gather Posies for thy breast :
Six small primroses unfolding Tell of summer mild;
Sleep beneath them, none beholding. Sleep, my rose, my child.
What are months and years to mothers,-Sleep, my darling so;
Thou alone, unlike the others,
Dost not older grow :
-ocr page 18- -ocr page 19-13
Tdynegion Bywyd.
Gwrandawem riddfaniad y deri, Gwrandawem ystori fy nhad
Bood melldith ar gastell Llawhaiarn, Ar felldith yn fendith iw had!
Boed melldith, griddfanai y deri, Ail-gofiai y nefoedd y cam;
Yn Ilygad fy nhad yr oedd mellten, Ond Ileithior oedd Ilygad fy mam.
Fy mhlant, meddai, dyma ystori Yr anghyfanedd-dra a wnaed ;
Hyd heddyw mae cofio yr ormes Ar adfyd yn poethi fy ngwaed ;
Gs wyf yn oedrannus a musgrell,
Nid wyf mor anghofus a hyn,
Nad wn i pa bryd y dechreuodd Fy marf a fy ngwallt droi yn wyn.
Adwaenoch y goed wig helwriaeth Ymestya ir mynydd or cwm;
XJn waith yr oedd honnon dyddyndir, A ohernau y mynydd yn llwm:
Nid oedd y tyddynod ond bychain,
A gwyrog gan oedran, ond O!
Yr oent yn dreftadaeth i rywrai,
A cherid y brwyn ar eu to.
Yn fore llafuriair tyddynwyr, Gan dyfu eu gwenith au haidd;nbsp;Au chwiban a glywid or mynydd,nbsp;Fin nos, wrth gorlannu en praidd;
-ocr page 20-Pan ganai y fwyalch ddyhuddgloch, Hwy aent i noswylio bob un;
A both roddai segur bendefig Y castell am noson ou bun?
Chwareuai en plant ar yr aelwyd,
Eu chwareu, fel wyn ar y ffridd;
Eu hoffder oedd torri eu henwau Ar wyneb y pantlawr o bridd;
A mynych ar hirnos o aeaf,
Y clywech eu canu fin hwyr ;
Ac yna tawelwch gweddio Ar bopeth^y nefoedd a wyr.
Cyfannedd, £y mhlant, oedd y mynydd Gan rywrai, cyn plannu y coed,
Hyd angladd hen Yswain y castell,
Ar dydd daeth Llawhaiarn iw oed;
Mhen mis ar ol hynny, uaeth rhybudd Ymadael, ar wys ac ar fant;
Aeth tadau a mamau i wylo,
A safodd ohwareuon y plant.
Tan ergyd y gwae, y nos honno Bu eiiiiol wrth ddrysau y nef;
A thrannoeth wrth ddrysau Llawhaiarn, Ond byddar fel tynged oedd ef :
Ni fynnai fod mwy mewn cyfiawnder Na gwneuthur a fynnai ei bun;
CyjiawndfiT yw chwalu cartrefi.
Os gwell yw petrisen na dyn.
Mi gofiaf i medd yr ymadael
Ar nos Galangaeaf bu hyn;
-ocr page 21-15
Edryohai y lloer yn dosturiol Ar ddaear gan farrug yn wyn
Edrychai ar gaethglud yr ormes Yn symud, fel angladd y byw!
Heb do, ond y nef wrth eu pennau Heb gyfaill yn unman, ond Duw.
Ymlaen elaiV wiedd yn y castell,
A gwinoedd Llawhaiam yn waed;
Ymlaon elair ddawns, a chalonnaur Tyddynwyr yn ysig dan draed;
O Dduw! pam goddefir i fympwy A thrais gael diffeithio y byd ?
Ai byth y bydd bywyd mor ddibris ? Ai byth y bydd Bhyddid mor ddrud ?
Yr ydych yn teimlo, fy mechgyn.
Mi welaf eich dial yn fflam,
Yn cynneu yn wyllt yn eich llygaid, Wrth wrando ystori y cam;
Mynegwch hir nos i fy wyrion,
Gan ddweyd fel y dwedai eich tad
Bood melldith ar gastell Llawhaiam, Ar felldith yn fendith iw had!
-ocr page 22-i6 Telynegion Maes a Mor.
Yn ymyl y mor y mae caban, ün caban yn ymyl y mór;
Ed gerrig yn Ilyfn ac yn wynion,
Ar gwymon yn bêr wrth ei ddor :
Ac yno mae merch elwir Gwylan leuengaf a thecaf ei thad;
Gwylanod y mór ei llateion,
Ac erwau y mór ei hystad.
Un Ion fel chwerthiniad yw Gwylan, Chwareus, a pheryglus o ffraeth;
Nid dwyrudd liwr ewyn sydd iddi, Ond dwyrudd liw tywod y traeth :
Chwiorydd ywr awel a hithau
Hin felus, ar awel yn hallt:
Mae glesni y mór yn ei Ilygad,
A chrychni y mór yn ei gwallt.
Os serchus ei henw yw Gwylan,
Mwy serchus yw Gwylan ei hun;
Ni ellir ei gweld heb ei charn,
Ond ni eill hi garu ond un:
Os Llion y cychwr ym gelwir,
Waeth gennyf pa swynwr a ddaw
Myfi bia gusan ei gwefus,
Myfi biai chalon ai llaw.
Ar ddistyll y trai, pan ollyngaf Fy nghwch oi fordwyfa yn rhydd;
Bydd Gwylan yng nghysgod y caban, Yn sefyll ai Ilygad yn brudd :
-ocr page 23-17
Maer eigion yn Sals, meddai wrtbyf, A llithiwr hudolns ywr trai;
0, Llion, ni fedraf ei garu,
Heb garu fy Llion yn llai!
Ond pan gydar llanw dycbwelaf Ir gilfaoh, er gwell ac er gwaeth,nbsp;Bydd Gwylan, ai llygad yn llonnach,
Yn sefyll ar leithder y traeth :
Gwna gymod diwrnod ar eigion,
A geilw ei hofn yn betb ffol
Mae Gwylan yn cam y llanw,
Maen dyfod a Llion yn ol.
-ocr page 24-i8 Telynegion Maes a Mor.
Ah fwsog lawr Mehefin,
Yng nghysgod onnen las, Breuddwydiai rhian ieuancnbsp;Freuddwyd am sereh a chas.
Ai merch y lloergaa ydoedd, Neu dylwyth teg y gwyddnbsp;Yn flin ar ol y nosddawns,
Ac wedi cysgu ir dydd?
Koedd ganddi fysedd gwynion, Ac ar y gwynnaf unnbsp;Roedd modrwy dyweddïad,
Fel pkth oi gwallt ei hun :
Y gwallt ddisgynnain felyn Ddiofal, ar wahannbsp;Dros las ei Ilygad cauad,
Yn fil pelydrau man.
-ocr page 25-19
Gwrandawair clychaun cana, Fel gwnaethent lawer tro;
A gwyddai fod ei henw Ar fin cariadaur fro.
Air cerbyd gwynfeirch heibio, Yng nghanol Ilygaid syn ;
Hi glywai sibrwd rhywbeth Ai gwnaeth yn wyn, yn wyn.
Arafai gear yr aller,
Arafai yn ei braw
Nid oedd priodfab yno Yn disgwyl am ei llaw.
0 Aled, Aled, meddai Mewn syndod, trwy ei hun ;
Tydi, fy mhopeth puraf,
Yn earn mwy nag un !
Breuddwydiai fod y galon Oedd ar ei modrwyn ddwy ;
A thoriad yn ei chalon Ei hunan oedd yn fwy.
Ni wybu ddim ond hynny
0i hun deffrodd, oi braw
lïoedd modrwy sereh yn gyfa, A mab ei sereh gerllaw.
-ocr page 26- -ocr page 27-21
A hed y gylfinhir Fel cri trwy y nef,nbsp;Gan ofn y rhyf©rthwy,nbsp;Ai ddigter ef.
Ein Tad, cofia'r morior, Rhwng cyfnos a gwawr,nbsp;Maei long ef ¦m.or fechanfnbsp;A'th for Di mor fawr.
-ocr page 28-22 Telynegion Maes a Mor.
My windows are daj'kened By rain-storms without,
The gale of November Is raising its rout;
The stalwarts of oak-forests Shake to their base,
The sheep and the oxen Crave sheltering place
Our Father, remember The birds in their woe,nbsp;So far is Thy summer.nbsp;So near is Thy snow.
In flood oer the valley The river gleams bright;
The clouds are swept onward. Like legions in flight;
My cot feels the buffet Of squalls as they smite,
Yet, better the hearth-side Than street such a night
Our Father, remember The arah out there.
So thin is his garment.
So biting Thy air.
The white foam is fringing The edge of the sand.
As white as the leaflet I hold in my hand :
-ocr page 29-23
The curlew above us Is whirled, like a cry,
Id fear of Gods tempest And anger on high.
Our Father, rememher The sailor by night,
So vast is Thy ocean.
Bis vessel so slight.
Oyfieithydd
J W Wtnnb-Jones, M.A.,
Ficer Caernarfon.
-ocr page 30-24 Telynegion Maes a Mor.
Gwelais hi ar fin y traeth,
Yn y mis blodeuair peithi;
Geneth fwyn a llygad ffraeth,
Ar gwefusau cochaf ganddi.
Cawsai, pe fel llawer tnun,
Gymaint araJl o fodrwyau
Ag oedd yn ed gwallt ei hun,
Gan gynnifer o gariadau.
Yn ei chanlyn fel peth hofï,
Pleth o flodau am ei gwddw,
Yr oedd oenig fechan gloff,
Elwid ganddi wrth ei henw.
Pethau ieuaino oedd y ddwy,
A chwareuent mor ddiniwed
Fel yr oedais beth yn hwy
Haws oedd oedi nag oedd myned.
Safair oenig faoh yn gall,
Bhedai, safai am gydymaith ;
Brefair oenig, chwarddair Hall Yna rhedair ddwy ar unwaith.
Nd fu chwarae gwell erioed.
Na dedwyddach, nes ir oenig
Golli ei hanafus droed Ar y gwymon Ilyfn a llithrig.
Heibior greiglan dacw hi Yn diflannu yn yr ewyn
Clywais fref, a chlywais gri,
A bur don yn fwyfwy brigwyn.
-ocr page 31-25
Crjrunair enebh ar y lan,
Yn y llif y crynnwn innan;
A rhyw fywyd ofnus, gwan Hwnnwn crynnu yn fy mreichiau.
Gwnes beth difraw, gwnes beth ffol, Ond yr oedd y fun mor brydferth;nbsp;A chyn mynd or traeth yn ol,
Cefais fwy na gwerth y drafferth.
-ocr page 32- -ocr page 33- -ocr page 34- -ocr page 35-29
Telynegion Bywyd.
Ie ystafell aem yn ddistaw, Un ao un,
Heb ddywedyd dim i dorri Ar ei bun.
Yno Haw amddifad blentyn,
Tan ei graith,
Dynnair caead ar llieiniaur Olaf waith.
Gwelem tanynt mewn tangnefedd Wyneb tad;
Syllem, synnem ar ei degwch Heb nacad.
Wylair ieuainc gan y dwyster, Wylair hen;
Ar wynepryd nn yn unig Yr oedd gwên.
Cannaid weddnewidiad angau Ydoedd hi;
Gwên arosai i oleuon Gofid ni.
Gwyn eu byd y llygaid hynny Oedd ynghau;
Tlws gan wawrddydd anfarwoldeb Oedd y ddau.
Fyrred, ac mor ddiflanedig Gwên y byw;
Gwên yr archgwên olaf, hwyaf, Byw'yd yw.
-ocr page 36- -ocr page 37- -ocr page 38- -ocr page 39-JelvncgioK JVCeii.
-ocr page 40-i
-ocr page 41-ÏN yr allt ar lannau Dwyfor Y cyfarfum a fy Men,nbsp;Clychaur gog oedd yn ei dwylo,nbsp;Gwallt fel beulwen ar ei phen;nbsp;Tecach oedd na neb a welswnnbsp;Yn rhodianna yn y coed
O, mi deimlais yn fy nghalon Beth na wnes erioed.
Yn yr allt ar lannau Dwyfor Ar foreuau wedi hyn,
Bum yn un o ddau yn casglu Clychau glas i ddwyjo gwyn;nbsp;Onid oedd yn drafferth felus,nbsp;Hedfan fel rhyw loyn haf?
0, ni fum erioed mor llonned,
Nac erioed mor glaf.
Yn yr allt ar lannau Dwyfor Tyf y glaslwyn fel or blaen;
A chwedleuar don barablus Chwedlau sereh wrth ró a maen;nbsp;Hoff gen innaur eneth honnonbsp;A gyfarfum yn yr allt;nbsp;Gydar clychau yn ei dwylo,nbsp;Gydar heulwen yn ei gwallt.
-ocr page 42-34
Telynegion Maes a Mor.
Htd fin y maes, ym min yr hwyr, Rhodiannai dau yn wyn eu byd;
Ao iddynt, carur oedd y ser,
A charur oedd ysgubaur yd :
Gwna sereh erioed bob dau yn ffol,
Gwna sereh erioed bob dau yn ddall;
Pwy rodiair maes ym min yr hwyr ?
Myfi oedd un, a Men y Hall.
Y mis pan oedd y berth yn las,
Ar mis pan oedd gan eiran wen,
Rhodiannair wenlloer gydar ser, Rhodiannwn innau gyda Men :
Rhy fyr i sereh yw hirddydd haf,
Rhy hir ywr disgwyl byrra erioed;
Ac am y ddau pwy wyddain well Nar liane ar eneth ddeunaw oed?
Cynhaeaf arall welais i¦
Roedd chwerthin yn y llwyni enau
Ond Men, ai dwyrudd fel y Hoer,
Yn son am fedd a chartren cau;
Hyd fin y maes, ym min yr hwyr, Rhodiannai dau yn fud, yn fud ;
Ac iddynt, wylor oedd y ser,
Ac wylot oedd ysgubaur yd.
-ocr page 43-35
Telynegion Men.
Bob bos oleu leuad.
Fel deuain ei thro ; Rhodianna i garu
Wnai deuoedd y fro; Mordwyo wnaem ninnaunbsp;0 gilfach y gro;
Mordwyo, mordwyo,
0 gyrraedd, o glyw, Myfi wrth y rhwyfau,
A Men wrth y llyw.
Eoedd cariad yn ieuanc A ffol ar y pryd,
Y mór oedd ei degan, Ar cwch oedd ei gryd.nbsp;A difyr oedd chwaraenbsp;Hyd wyneb ei fyd;
Mordwyo, mordwyo, Ar galon yn llon ;nbsp;Ar lloergan fel barrugnbsp;Y mór ar y don.
Mwy hofï na chwedleua Ac eistedd tan bren,nbsp;Oedd gwrando chwerthiniadnbsp;Y tonnau gan Men,
Neu gri y gylfinhir Ar wylan uwchben;
-ocr page 44-Mordwyo, mordwyo,
0 olwg y tir,
Ar rhwyfau ar brydian Yn sefyll yn hir.
Rhyw nos ol«u leuad A ddaeth yn ei thro,nbsp;Rhodianna i garu
Wnai denoedd y fro; Mordwyo wnaem ninnaunbsp;0 gilfach y gro;
A gwnaethom cyn dychwel Y llw i gyd-fyw,
Myfi wrth y rhwyfau,
A Men wrth y llyw.
-ocr page 45-Telynegion Men. nbsp;nbsp;nbsp;37
Cartrer haf yw DeSrobani,
O na ddenit, Men,
Gyda mi i chwilio am dani,
Yn fy rhwyflong wen :
Hwnt i for y mae yr ynys,
Hwnt i lawer tir;
Ond gwnai sereh y siwrnain felus.
Er yn siwrnai hir.
Gardd y byd yw Deffrobani,
Wennaf Ynys Wen;
Tyr y wawr yn ei ffenestri,
Cod dy angor, Men :
Oni hoffet fyw ar ddiliau Gwell na breuddwyd barddT
Cysgu ar welyau blodau,
Heb i neb wahardd ?
Glas yw daear Deffrobani,
Glasach yw ei nen;
Glas ywr don syn euro arni
O na ddeuit. Men :
Caem fordwyo byd y glannan Tan oleuach ser;
Gydag awel yn yr hwyliau Oddiar lysiau per.
Tyf y palm yn Deffrobani,
A pbob prydferth bren;
Haf o byd sydd yn ei llwyni
Gwnar adduned. Men :
Pe na bai o fewn yr ynys Neb ond ni ein dau,
Byddet ti a minnann hapus,
Forypaid nacau.
-ocr page 46- -ocr page 47-39
Telynegion Men.
Hoffais di yn ieuanc, Men,
Gwyr fy nghalon ath un dithau : Cyn ith Ebrill lithro, Men,
Gyn ith flagur dorrin flodau ; Onid fi, tan gauad bren,
Gafodd gyntath gusan felus,
Cyn ir gwenyn gwylltion. Men, TJnwaith ddisgyn ar dy wefus ?
Hoffais di yn hoffach. Men,
Forer dydd yth welais lonnaf ;
Yn dy wyn yr oeddit. Men,
Yn dy flodau, fel Gorffennaf; Glasliw oedd y nef uwch ben,
Fel dy lygadd llaith, teimladwy; Ger yr allor gwridet. Men,
Ond dy chwaer oedd biar fodrwy.
Hoffais din dynerach. Men,
Pan oedd craith ar y dywarchen; A phan safet tithau. Men,
Yn y fynwent gydar ywen; Gwelais ynoth wefus wennbsp;Oedd gynefin a thrallodion ;nbsp;Wylet fel y gawod. Men,nbsp;Wylwn innau yn fy nghalon.
Hoffais di yn ieuanc. Men,
Cyn ith flagur dorrin flodau; Hoffais di drwy bopeth. Men,
Drwy dy wên a thrwy dy ddagrau. Doed a ddel ohonot. Men,
Ni edll neb dy garu eto Fel y gwnaeth dy Alun, Men,
Fel y gwna dy Alun heno.
-ocr page 48-40 Telynegion Maes a Mor.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc, Yn nhawelwch min yr hwyr,
Y seliasom, Men a minnau,
Lwr cyfamodDuw a wyr :
Ti a fydd fy mhriod bellach, Meddwn wrthi, doed a ddel;nbsp;Boed y lloer yn dyst or amod,nbsp;Dymar fodrwydymar sel.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc,
Ar ol misoedd blin i Men,
Y siglasom law ddiweddaf.
Fin wrth fin, dan frigog bren; Clywem chwerthin y medelwyrnbsp;Yn y maes cynhaeaf draw;
Ond aid chwerthin oedd ar galon Dau mor hoff wrth siglo Haw.
Tan dy lewyrch, leuad ieuanc, Ydwyf heno habddi hi,
Fel aderyn heb ei gymar Menna am gadawodd i;
Nid i garu rhywun arall,
Wrth y llyn, na than y pren; Ar y garreg medraf ddarllennbsp;Tair llythyren enw Men.
-ocr page 49-41
Telynegioii Sereh.
Hoffder bardd a üatair galon, Tlws gan Natur a chan Sereh;
Gal want ef yn Nad-fin-anghof, Enw taerni mwynaf merch.
Glasach yw nar nefoedd lasaf, Glasach yw nar mor ei hun:
Sut y miedraf lai nai garu?
Llygad glas sydd gan £y mun.
Pe ibair ddaear heb friallu, Byddair haf yn haf i mi;
Byddad lliw y mór ar nefoedd Yn ei lygad ef a hi.
O, ni fedraf lai nai garu,
Flodyn glas yn anad un;
Oni wn am gymar iddo ?
Llygad glas sydd gan fy mun.
Digon yw o lythyr earu,
Pan ar ddalen wen y daw,
Os bydd tano enw Bhywun Wyf yn adwaen wrth ei llaw.
Gall fed rhywrain beio arnaf
Ni waeth gennyf fi pa un;
Gwn nas gwnaent pen cofio unpeth-Llygad glas sydd gan fy mun.
-ocr page 50-42 Telynegion Maes a Mor.
Gwïnnodd yr afallen,
Lawer tro, fy march,
Er pan safem dani Yn ieuenctid sereh;
Heno blodau ereill Welaf uwch fy mhen,
A chariadon ereill
Chwarddant dan y pren.
Er ein cariad cyntaf
Gwelsom ddeuddeng Mai, Eto yn y galon
Nid yw sereh yn llai:
Er heneiddior blodau Ceidwr pren yr unnbsp;Gwreiddia sereh yn ddyfnachnbsp;Fel yr elon hyn.
-ocr page 51- -ocr page 52- -ocr page 53-45
Telynegion Sereh.
Mi wn am dderwen yn y ddól,
A hollt y felHen ynddi;
Mi wn am graith blynyddaun ol Sy dd dan y dail eleni;
Maer gangen ddringwn gynt yn ddwy, Ar rhisgl wedii ddoifio;
Ac ni ddaw mesen ieuanc mwy 0r gaine ddolurus honno.
Fe saif y dderwen wrthii hun, Ai brig yn araf grymu,
A gwyr y plant na bydd yr un Aderyn ynddin nythu;
Tan awel fwyn a haul yr haf, A thyner wlith yr hwyrnos,nbsp;Dihoeni mae y dderwen glaf,nbsp;Ar graith, ar graith yn arcs.
Myli ywr pren a welais ti Ai gangen wedi dryllio ;
Mae gofid yn fy mywyd i Na wyr y byd am dano ;nbsp;Maer blwyddin awr yn amlhaunbsp;Ar fellten wedi diffodd,
Ond da] yn hir, yn hir heb gau, Maer galon a anafodd.
-ocr page 54-Ni chaua mwydywedaf pam,
O lygad fy anwylyd Y daeth y fellten, wedi cam,
O gwmwl ei gwynepryd.
Maer graith yn arcs, am fy mai, Ond dim aderyn liawen,
A minnau sydd, o Fai i Fai,
Tn marw gydar dderwen.
47
Mae pren afalau yng nghoed fy ngardd,
Ac arno un af al, mor felyn, mor felus; Ma«r adar fun nythu ym mherllan y bardd,nbsp;Yn canu eu hoffedd ir af al cariadus;
Ond caned yr adar ar ben y brigyn,
Myfi bia galon yr afal melyn.
Gwelais yr afal yn flagur glas,
Ac nid oedd yr adar yn canu bryd hynny; Gofelais am dano drwyr barrug ar ias,
Cyn dddo felynu, cyn iddo felysu; nbsp;nbsp;nbsp;/
A chaned yr adar ar ben y brigyn, /
Myfi bia galon yr afal melyn.
Ma.er ferch a garaf yn deg o bryd,
Ac unig yw hithau ar frigyn y teulu ;
Mae nghyfoed yn hoffi ei thegweh i gyd,
A phawb yn ymryson am gael ei ohusanu; Ond caned a gano glod fy anwylyd,nbsp;Myfi bia galon fy nghariad hefyd.
Gerais hi gyntaf yn rhian fach,
Yn nhlysni plentyndod, ym mlagur ieueng-oed ;
Bnm iddi yn gysgod yn glaf ac yn iach
Ar ereill bryd hynny roedd llygaid fy nghyfoed :
A chaned a gano glod fy anwylyd,
Myfi bia galon fy nghariad hefyd.
-ocr page 56- -ocr page 57- -ocr page 58- -ocr page 59-51
Telynegion Sereh.
Geellaw y bompren, ddoe,
Mi sefais i enweirio;
Ac fel tywyniad haul
Daeth merch y felin heibio.
Arafodd i fy ngweld,
Gan bwyso ar y canllaw,
A swp o flodau maes
A rhedyn rhwng ei dwylaw.
Ni welais ddim erioed Mor las a than ei haeliau;
Ni welais ddim erioed Mor felyn ai llywethau.
Meddyliais am y mor,
Ond uid oedd tonn cyn lased-
Ar tywod ar y traeth,
Ond nid oedd cyn felyned.
Wrth syllu ar eii Hun,
Yn nwr y llyn o tani.
Mi deimlwn fel pe bai Fy nghalon bron a boddi.
Ni wyddwn, gan fy sereh,
Ller oeddwn i yn sefyll;
Ac ni ofalwn ddim Am eog nao am frithyll.
Ergydior dwr wnair plyf,
A glynu yn y cangau;
Ergydio wnai fy ngwaed,
A glynu wnelwn innau.
-ocr page 60- -ocr page 61- -ocr page 62- -ocr page 63-JelYnegion y Misoedd.
-ocr page 64- -ocr page 65-55
Telynegion y Misoedd.
Wyt lonawi yn oer Ath farrug yn wyn;
A pha ibeth a wnaethost I ddwr y llyn?
Mae iar fach yr hesg Yn cadwn ei thy,
Heb Ie i fordwyo Na throchi i phln.
Wyt lonawr yn oer Afch farrug yn wyn;
Ac nid oes ucbedydd Na grug ar fryn ;
0 liaws y lawnt,
Ni welaf ond un,
Or pridd wedi oodi Fel pe drwy i hun.
Wyt lonawr yn oer Ath farrug yn wyn;
A sigli yr adar O frig yr ynn;
Ni cheir ar y coed Griafol fel bu
Maer fröngoch ar fwyalch O dy i dy.
Wyt lonawr yn oer Ath farrug yn wyn;
Ac ni fedd pawb aelwyd Ar hin fel hyn;
Mae rhywrai heb d^,
A rhywrai heb dan,
A rhywrai heb fara,
Na chwsg na chan.
-ocr page 66-56
Telynegion Maes a Mor.
Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, Cryn fy ffenestr a fy nor;
Plyg y deri fel mieri
Dyro ddawns i longaur mor;
Byr yw dydd a dyddiau Chwefror, Cynt y del yr hwyr nar wawr;
Chwyth y crinddail hyd y cwmwl, Chwyth y oeinciau hyd y llawr.
Yn dy rwysg ac yn dy ryddid Tros y Cnicht ar Moelwyn chwyth;
Cadwr moethus yn ei gaban,
Cadwr neidr ar ei nyth ;
Car y wennol awel feddal,
Car y gloyn glaiar si,
Caraf finnauth ruad idithau
Edn y ddrycin ydwyf fi.
Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, Cladd y mynydd dan y lluwch,
Cladd y mor o dan yr ewyn,
Chwyth, aeafwynt, eton uwch;
Ond pe clywit ar ryw dalar Oenig cynnar yn rhod bref,
Tro oddiwrth y dalar honno.
Paid a chwythu arno e/.
-ocr page 67- -ocr page 68-58 Telynegion Macs a Mor.
Medd y bardd yn wyn ei fyd
Wele Ebrill glas ei lygad
Wele Ebrill/ medd y byd,
Trwy ei flodau hanner-cauad.
Ti, freuddwydiwr, gwrando, saf,-Medd aderyn yn y berllan;
Cana lawen garol haf,
Wedi gwyl o flwyddyn gyfan.
Fardd y blodau, wele fi,
Medd briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawb ei hwyneb hi,
Blentyn llonnaf haul a ohawod.
yn y galon, yn y pridd,
Nid yw bywyd fud na byddar;
Bywed cdn a Ilygaid dydd Deimlad dyfnaf dyn a daear.
Pwy fu neithiwr hyd y ddól, Mewn sandalau aur ao arian ?nbsp;Pwy fun galwr dail yn ol,
Ac yn llithior blodau allan ?
Gydai dylwyth teg y daeth Heibio eleni fel y Ilynedd;nbsp;Gwyn ei Iwybr fel y llaethnbsp;Mwyn ei dymer fel rhianedd.
J ':i
-ocr page 69-59
Can mwyalchen yn yr ardd Rhwng y blagur ar y perthi ;nbsp;Gydag Ebrill pwy na chwardd?
Berr ywr gawodbwy ywr glesni.
Gad dy do, y wyneb cul,
Tro i wrando cainc mwyalchen; Onid gwell yw can na ohnul ?nbsp;Galon lach yw calon lawen.
Cyfod, hauwr, dos i ban, Oni well seithliwr enfys ?nbsp;Ni ddaw bendith o nacau,nbsp;Ni ddaw bara i esgeulus.
Gwr el allan cyn y wawr Pan for briall yn en tymor,nbsp;Fed ed faes ar decach awrnbsp;Gasgl ei wenith iw ysgubor.
Glas yw wyibyr Ebrill, Glas fel Ilygad Mennbsp;Mae enfys ar y cwmwlnbsp;A blagur ar y pren;nbsp;Croesaw fis diferionnbsp;A phelydr bob yn ail;nbsp;Tyred gydath flagur,
A thyred gydath ddail.
Gwyn yw wyneb Ebrill, Gwyn gan lygaid dydd ;
A pha sawl llwyn briallu Ym min y ffordd ymgudd ?
-ocr page 70- -ocr page 71-Telynegion y Misoedd. 6i
Gwn ei ddyfod, fis y mei,
Gydai firi yn yr helyg,
Gydai flodau fel y barrug
Gwyn fy myd bob tro y dêl.
Eis yn fore tuar waen Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,nbsp;Ond yr oedd y gwersyll cynnarnbsp;Wedi codi o fy mlaen.
Eistedd wnes tan brennaur Glog,
Ar ddyfodiad y deheuwynt;
Edn glas ddisgynnodd arnynt Gan barablu enwr gog.
Ni rois gam ar lawr y wjg Heb fod clychaur haf o tano.
Fel diferion o ryw lasfro Wedi disgyn rhwng y brig.
Gwn ei ddyfod, fis y mei,
Gydai firi, gydai flodau,
Gyda dydd fy ngeni innau
Gwyn fy myd bob tro y dêl.
-ocr page 72-Telynegion Maes a Mor.
Melus rhodianna Hyd faes Mehefin,
Pan ddychwel rhegen Yr yd iw chynefin;nbsp;Melus lluestunbsp;nbsp;nbsp;nbsp;gt;!
Tan onn a bedwen,
Pan for dail fel cwmwl Ehwng gallt ao wybren.
Melyn ywr banadl Ar draeth y Laslyn,
Teced ag enfys
Ar lawr y dyffryn;
Cyfyd y llinos
Ei thyn yr eithin ;
A deftly uchedydd Ym mrwyn Mehefin.
Nwyfus gan fywyd Yw nant ac awel,
O wawr ar tynydd,
Hyd hwyr ar orwel;
Gwrendy y weirglodd Am lais bladur,
A phrennau y berllan Nid ydynt segur.
Eirin ar Iwyni
A phlant yn chwerthin;
Pa fis ddifyrred A mis Mehefin?
-ocr page 73-63
Cynnes ei hirddydd,
A mwyn ei gawod; Hoffus ei enwnbsp;Ar fin rhianod.
Onid ywr caeau yn wyrdd, yn wyrdd, A melyn eithinnbsp;Tan haul Mehefinnbsp;Hyd fin afonydd a min y ffyrdd ?
Onid ywr suon yn fwyn, yn fwyn, A beth mor dirionnbsp;A thrydar cywionnbsp;O behyll adar yng nghoed y llwyn ?
Onid ywr wennol, fu cyd ar ffo,
Yn ei chynefin Yn nhes Mehefin,
Wedi anghofio fod tecach bro?
Onid ywr blodau yn hardd, yn hardd, Yn y gwelyau
Ar frig y prennau
Au harogl esmwyth yn llenwir ardd ?
Onid ywr ddaear i gyd, i gyd,
Fel pe yn chwerthin Tan haul Mehefin,
A phwy ohwenychai ddifyrrach byd ?
Maer fron llifeirio o gan a mei,
Y bardd mewn breuddwyd Am ardd a gollwyd,
A Duw ym mhopeth ir sawl a wel.
-ocr page 74-64 Telynegion Maes a Mor.
Un ohonoch, adar cerdd,
Yw fy nghalon innau
Pan y cwsg y glaswyrdd Iwyn Uwoh «i fil cysgodau;
Pan fo wyneb mor a nef Pel pe am y glasaf
Gwae aderyn gan cyn pryd, Gwae na chan Gorffennaf.
Oni wnaed y fro yn ardd Hcb yr un diffaethwch ?
A phob gardd o fewn y fron WylH-dir o brydferthwch ?
Pel y gloyn, claf o sereh Yw fy nghalon innau;
Gwn pa both yw cael fy nal Yn nyrysnir blodau.
Chwa Gorffennaf ddaw im ty Yn y bore melus,
Gyda nedthdar maes a mor Ar ei lleithiog wefus;
Onid merch y mor ar maes Yw fy nghalon innau?
Cir fugeilior gwenith gwyn, Cir gyfeillach tonnau.
-ocr page 75- -ocr page 76-66 Telynegion Maes a Mor.
Cboesaw Medi, fis fy sereh,
Mis y porffor ar y ffriddoedd;
Pan y cenith glychau mel
Casgl y gwenyn or dyffrynnoedd :
Os yw blodau cyntaf haf Wedi cauad yn y dolydd,
Oniid blodau eraill sydd Etonghadw ar y mynydd?
Croesaw Medi, fis fy sereh.
Pan for mwyar ar y llwyni.
Pan for cnaun melynur cyll.
Pan fon hwyr gan ddyddiau nosi ;
Tlws ywth loergan ar y mor,
Yn ymsymud ar y tonnau :
Tlws ywbh loergan ar y maes Ym mhriodas yr ysgubau.
Croesaw Medi, fis fy sereh,
Clir fel grisial ywth foreuau
Clir fel grisial er fod Duwn Arogldarthu ar y bryniau ;
Nid oes gwmwl ar y grug,
Nid oes gysgod ar y rhedyn;
Pan y cenith glychau mel,
Cyrehaf finnau gydar gwenyn.
-ocr page 77-67
Telynegion y Misoedd.
Cadwaf fy ngwyl, medd bywyd, Gal waf fy ngwyrdd yn ol;nbsp;Casglaf fy mlodau adref
0r mynydd, yr ardd, ar ddól Clybu y maes ar prennau,
A rhywbryd rhwng hwyr a gwawr Cyfododd y gwersyll blodau
Maer pebyll yn llwyd hyd lawr.
Caua y dydd ei lygad Cysglyd yn gynt a chynt;
Clywir 11e bur uchedydd Eyferthwy y gwlaw ar gwynt :nbsp;Cryn y binwydden ieuanc,
Cydian y mynydd mawr
Ni ellir goroesi gaeaf
Heb wreiddio yn ddwfn i lawr.
Cyfyd y mór ei donnau,
Cyfyd yn uwch ei ru ;
Tybed ddawr llong i borthladd, Ar morwr yn ol iw dy ?
Diolch i Dduw am aelwyd,
A diolch i Dduw am dan;
Mae rhywrai heb dan nac aelwyd Na chalon i ganu cSn.
-ocr page 78-68 Telynegion Maes a Mor.
PwY sydd yn dyfod fin nos i lawr,
A chuwoh ar ei ael, dros y Moelwyn Mawr ? Gwyntyll y corwynt sydd yn ei law,
A thrwy ei lawrdymu yfory y daw;
Cauaf fy nor nes dywedor wawr Pwy syfl dylathau y Moelwyn Mawr.
i
Chwardd yn ei afiaith fel cawr mewn gwin, Ai fantell am dano fel enfys grin;
Casgl y crinddail wrth swn ei droed Ir aelwyd aniddos ym murddyn y coed :nbsp;Pwy sydd yn crechwen yn droiog flin,
Ai fantell symudliw fel enfys grin?
Cwsg yn anesmwyth a sang bob bryn Cyn diosg ohono i sandalan gwyn
Ehian ei sereh ywr gelynen werdd,
Ac adai y ddrycin ei adar cerdd :
Pwy sydd yn cerdded o fryn i fryu,
Cyn diosg ohono i sandalan gwyn?
-ocr page 79-6g
Telynegion y Misoedd.
(Bu Tachwedd 1902 yn fis priidd i mi ; torrodd fedd i fy nhad).
Casgl y nifwl, chwal y nifwl Ei lywethan uwch y dre£ ;
Nid oes swn ym mrig y morwydd
Nid oes belydr yn y nef ;
Acw ar ei gorsen ysig
Gwelaf un blodeuyn claf
Bu fy nhad fel yntaun edwi,
Bdwin dlws fel ffarwel haf.
Cryn yr eira, syrbh yr eira Ar yr heol, ai y coed,
Nes ywr ddaear fel y Ddinas Na lyohwinodd neb erioed :nbsp;Cudd y graith ar y dywarchen,nbsp;Fel na welwyf moni hi;
Ond ui chudd yr eira gwynnar Graith sydd ar fy nghalon i.
Can y clychau, chwardd y clychau Yn eu dawns yn nhwr y drefnbsp;Ai fel hyn y ceidw rhywrainbsp;Heddy w Ei Nadolig Ef ?nbsp;Heddyw wedi gwyl a defodnbsp;TJgain canrif namyn un,
Os yw Duw yn caru dynion,
Nid yw dyn yn caru dyn!
-ocr page 80-70 Telynegion Maes a Mor.
TICHEDXDD.
Cebir glas a cherir twyn,
Codd a disgynni eilchwyl;
Rhaid fod rhywun yn y brwyn Yn dy garu, yn dy ddisgwyl;nbsp;Gydath gan gadewi hi,
Gydath sereh doin ol ir ddaear-Canwn innau, fel tydi,
Pe had gennyf finnan gymar.
Onid wyt, i mi, fel deigryn, Gyll y mynydd mawr?
Cwsg y byd,defnynni diithau Ddydd a nos i lawr ;
Wyr y mynydd unig yntau Am ryw ofid cudd?
Mae ei galon fel fun innaun Wylo nos a dydd.
Gwyn dy fyd di, rug y mynydd, Gwyn dy fyd o wydd y dref;nbsp;Er dy fwyn mae haul a chwmwl,nbsp;Gwlith y wawr a ser y nef ;nbsp;Gwyn dy fyd di, rug y mynydd,nbsp;Heb yn ymyl un oth ryw :
Ni ofeli dros yfory,
Gwyddost y gofala Duw.
71
Telynegion y Maes.
Eis n«ithiwr heibior llyn,
Gan edrycb dan y feisdon;
Ac yno gwelais fil a mwy O berlau gloewon, gloewon.
Eis heibio gydar wawr,
Gan feddwl casglur perlau;
Ond nid oedd drannoeth berl ar ol, Nac ol neb ar y glannan.
T
-ocr page 82-72
Telynegion Maes a Mor.
Un fechan, croesaw, croesaw,-Ai ti ywr unig un I gofio Sul y Blodau,
A defiro o dy hun?
Ni welais i un arall
Ar hyd y llwybr troed; Briallen Sul y Blodaunbsp;Heb gymar yn y coed.
Un fechan, aros, aros Yn hwy heb droi yn wyw;
Yr wyfc rhy dlws i farw,
Os wyt rhy wan i fyw;
Eleni oer yw Ebrill
Dy Ebrill cynta rioed,
Heb lesni yn yr awyr,
Heb lesni ar y coed.
Un fechan, gwywanst, gwywaist, 0 hiraeth cyn y wawr;
Dy galon dyner dorraist,
A dymath ben ar lawr ;
Mi daenaf fwsog drosot,
A gwyliaf ar fy nhroed;
Briallen Sul y Blodau Yn farw yn y coed.
-ocr page 83-Tdynegion y Maes. nbsp;nbsp;nbsp;73
Canodd bardd o gnedl arall Gtan i t i;
Yn ei ysgol, Ilai nar Ileiaf Ydwyf fi.
Eto canaf finnau ganig,
Pyrred fydd,
Gan dy alw wrth dy enw,
Lygad Dydd.
Leied wn i o dy hanes Fywyd tlws!
Tithau yn gymydog agos,
Ger fy nrws.
Ym mhle gwelwyd dy wynepryd Gyntaf un?
Drowyd dithau o baradwys Gyda dyn?
Sut y gwyddost ddyfod gwanwyn Heibior ffridd ?
Eilw rhywun Oyfod bellach,
Yn y pridd ?
Byddin oau dy lygad, meddir,
Yn yr hwyr;
Ai i gysgu a breuddwydio
Pwy a wyr?
Ovvt
A wyt ti yn bod, un bychan. Fel myfi ?
Ynte cysgod ar fy meddwl Ydwyt ti ?
-ocr page 84-A oes deimlad gan flodeuyn,
Fel gan fardd ?
Lonnir ef gan haul a ohawod Nes y chwardd ?
Pe bai rhywun yn dy fathru Mynn neu oen;
Dwed, a feddi galon fechan Deimlai boen?
Gyrraedd ymson bardd hyd atat, Wyn wrandawr?
Wyddost ti ryw beth am enaid Yna i lawr?
A ! nid ydwyf er dy holi Ddoethach ddim;
Gweni arnaf, ond ni roddi Ateb im.
Cadw i siglo ar dy gorsen,
Lygad Dydd;
Mae yn Faitydi yn llawen, Minnaun brudd.
-ocr page 85- -ocr page 86- -ocr page 87-77
Telynegion y Maes.
(I blant fy mro)¦
Canai llinos benddur eithin Neithiwr, ar y Morfa Mawr;
Uwch ei haelwyd fach o fwsog, Gydai Chrewr yn wrandawr;
Beth mor ber a chan aderyn,
Pan for haf yn glasur byd?
Beth mor bur a sereh aderyn,
Pan for Morfan aur i gyd ?
Ewch, fy mhlant, i wrandor llinos, Ond na thorrwch ar ei chan;
Ac na thorrwch galon llinos
Na rowch dy y dlos ar dan :
O, fy mhlant, pe baeeh yn gwybod Fel gall llinos garui nyth,
Gwn nad aech ag wy ohono,
Gwn na thynnech mono byth.
-ocr page 88-78 Tdynegion Maes a Mor.
Ab blygain ym mis Ebrill Neu Fai,^ni wn pa un
A md dxwyr dellt yn syllu, Ehwng trwmgwsg a dihun,
Mi welwn Rywun cynnar Yn rhodio yn yr ardd,
Mor deg a duwies ieuanc,
Neu rian sereh y bardd.
Pwy oedd i fod mor gynnar A hynny, tan y coed,
Ni wyddwn,pwyn fwy gwisgi Nag 01 wen ar ei throed;
Am dani yr oedd mantell O bali gwyrdd hyd lawr;
Ei gwallt fel cwmwl gwlithog, Ai llygad fel y wawr.
Edrychais amin rhodio Y llwybr ol a blaen,
Gan fwrwi thrysor disglaer,
0i chauad law ar daen :
0 dan y prennau safai,
Gan gyffwrdd 3m ei brys Ar gwiail, heb eu sigio,
Mor ysgafn oedd ei bys.
Mi fynnaf wybod, meddwn, Pwy yw y Rhywun harddnbsp;Agorais ddrws fy mwthynnbsp;Agorais ddrws yr ardd :
Bu yn edifar gennyf Fy myned gam or ty;
Ni welais ddim ond bronfraith, Cyn canun trwsioi blu.
-ocr page 89-79
Ond euthum hyd y rhodfa,
He ceirddai ol a blaen,
Gan fwrwi thrysor disglaer 0i chauad law ar daen ;
Ac yno gwelwn flagur 0 felyn, gwyn, a rhudd;
Dau wely rhos a briall,
A dau o lygaid dydd.
A sefais 11e y safai,
Gan gyffwrdd yn ei brys Ar gwiail, heb eu siglonbsp;0 dan ei hysgafn fys ;
Ac ar y prennaur ydoedd,
Lie cyffyrddasair Ehith,
Ryw ddwylaw bychain gwyrddion Yn dal y gawod wlith.
-ocr page 90-Telynegion Maes a Mor.
Ai hoff gennyt fyned, liw dydd,
I ddeffror ehedydd i ganu ?
Ad hoff gennyt gyffro, liw dydd,
Y grug lie maei gymar yn nythu?
A welaist ti ef,
Ai aden yn wlithog yng nghanol y nef ?
A glywaist tii gan,
Trar cwmwl oedd rhyngoch yn wyn fel gwlan ?
Ai hoff' gennyt fyned, liw nos,
I ddisgwyl y ser i dywynu?
Ai hoff gennyt wrando, liw nos|)
Ar fydoedd soniarus yn canu ?
A welaist bi Dduw,
0r ser ir ehedydd ym mhopeth byw?
A glywaist ti lef
Gyfriniol, yng nghan a distawrwydd y nef ?
-ocr page 91-8i
Telynegion y Maes.
Wedj mynd o blu yr eira,
EreiU ar y perthi gryn;
Onid ydynt fel breuddwydion Maboed, gydan golud gwyn ?
TIws ywr dail fel gwerdd phylacter, Bddi gwisg o lian main;
Tlws ywr blodau yn eu gwynder,
Fel o sereh yn cuddior drain.
Hoff yw gennyf flodanr perthi Onid oedd eu brodyr hynnbsp;Yn blodeuo fis fy ngeni ?
Blodyn Mai wyf fi fy hun.
-ocr page 92- -ocr page 93- -ocr page 94-Arcs, lanw, ar y draethell, Paid a gwrando ar y gwynt.
-ocr page 95- -ocr page 96- -ocr page 97-Tdynegion y Mor. nbsp;nbsp;nbsp;85
Beth ywr llanw ? Swyn y Hoer Ar y dyfnfor yn ymsymud;
Yntaun carur Wen yn ol,
Ac yn oeisio ei anwylyd;
Unwaith, dwywaith yn y dydd,
Tyr ei galon ar y morfin;
Oni wyr y gwymon erin ?
Oni wyr y gro ar cregin?
Beth ywr llanw i dydi.
Pan fon torri ar ei dywyn ?
Nid yr un i bob gwrandawr
Ywr gyfrinach yn yr ewyn : Gwrendy un ar lais y llif
Clyw y tonnaun chwerthin, chwerthin Gwrendyr Hall, a beth a glyw ?nbsp;Mabinogi nos y ddrycin !
Chwery plentyn ger fy mron, Marchog bychan un diwrnod ;nbsp;Gerllaw eddi gwyn y don,nbsp;Cyfyd Gastell yn y tywod.
Crug o dywod, mur a thwr, Caer o dywod iw amddiffyn;nbsp;Pyrth o wymon Ilyfn y dwrnbsp;0, gadernid Gastell plentyn!
-ocr page 98-Casgl y cregin iw decau
Oni chlyw y llanwn dyfod ?
Her iw Gastell gael ei gau
Gan y mor, fel Cantrer Gwaelod.
Ofer fur saernio hir,
Newid bryd wnar arglwydd bychan ;
Myn ir llanw ennill tir
Ar y Gastell wnaeth ei hunan.
Chwardd y marchog, cymer ffon,
A thyr gamlas yn y draethell,
Er mwyn gollwng llif y don,
Fel Seithenyn, at ei Gastell.
Beth ywr mór, y glasfor maith, Beth yw llanwr mór i blentyn ?
Onid tegantegan llaith?
Cymar chwarae rhwng dau gyntun !
Nawnddydd arall, ger y mór, Eistedd brenin yn ei gadair;
Corsen teyrnas yn ei law,
Uwch ei arlais dalaith ddisglair :
Chwardd y feisdon oddi idraw,
Chwardd yr haul ar emaui goron;
Yntau gan ei ddoethed chwardd Chwardd y brenin yn ei galon.
Saif sidanog wyr ei lys
Ar y traeth, gan sisial wrtho,
Rhaid ir llanw, pan yth wel, Gilion ol cyn banner llifo:
-ocr page 99-Nid ywr mor yn fwy nath ar,
Nid yw Duw yn fwy nan brenin,
Yntau gan ei ddoethed chwardd Chwardd y llanw yn y cregin.
Uwch a nes y del y llif,
Tros y tywod, tros y gwymon;
Ac ni chymer amo weid
Corsen aur a gemaur goron :
Eber brenin wrthoi hun,
quot; Min y traeth a ddysg ddoethineb ;
Os mai ftals yw gwyr fy llys,
Nid ywtr mor dderbyniwr wyneb.
Paid y sisial ar y traeth,
Ond ni phaid y tonnau lifo,
Hyd nes gylch y nawfed ton Odreur brenin, gan ei leithio :
Gwelwch, ©be yntaun ddoeth,
Gan ostegur mwynder seithug,
Nid ywr Llanwn ofni teyrn,
Nid yw mawredd ond dychymyg.
IV.
Geilw y llanw ym mhorth y mor,
A ohlywir ohoian yni mrig y dydd :
Codwch yr angor i fwrdd y llong,
Gollyngwch garcharor y trai yn rhydd; Taenwch y lliain i gyd ar led,
Maer awel, fy mechgyn, ar llif on tu
A dring yr angor i fwrdd y llong,
A dacwr banerin cyhwfan fry.
-ocr page 100-Cenir y clychau ym mhorth y mór,
A mwy yr ohoian na glywwyd cynt :
Gwthiwch, fy mechgyn, y Hong ir Ilif, Ni erys y Uanw, a bhamp;g ywr gwynt;
Acwn y golwg maer dyfmfor Uaes, Gwrandewch arnon gwahodd, er gwaethnbsp;neu well
Ac etyb yr hwyliau i dro y llyw; Yfory, hwy fyddant yrahell, ymhell.
Geilw y llanw fel sereh y mor,
Ar Hong a iw ganlyn^briodferch hardd
Gwynned ei delw yn nrych y dwfr,
A chysgod yr alaroh ynghan y bardd :
Cenwch yn iach i bererin y Ilif,
I long y marsiandwr, ei llwyth ai da;
Mordwyed yn esmwyth, a dood yn ol 0 Ynys y Trysor a Thir yr la.
-ocr page 101-89
Aml dro yn ei mabandod y cwch fu iddin gryd ;
Y tonnau yn ei siglo,
A minnaun wyn fy myd.
Liw nos, pan fwy yn cychwyn I gynnull maes y don,
Bydd Meinir ger y caban,
Ai grudd mor wen ai bron :
Un ofnus yw ei chalon,
A chas yw ganddir trai;
Nis gall, medd hi, ei garu. Heb garui thad yn llai.
Ond pan tom cwch yn dychwel, Liw dydd, at Graig y Llain,
Bydd Meinir yn fy nisgwyl,
Ai gwên fel gwên ei m^am ;
A beth mor fwyn ai cnroeso. Ar ol y cyfnos hir?
Mae 'mherl yn carur llanw, Maen dwyn ei thad i dir.
Cyffrous yw crir ystopm.
With geuddor fy ystafell;
A dyna dwrf y Iluwch Yn dymohwel ar y draethell.
Mae llawer mam a mun Yn dweyd ei gweddi heno;
Ond byddar yw y mor,
Ac nid ywr gwynt yn gwrando.
-ocr page 102- -ocr page 103-91
Cof gan sereh eu gweld yn cychwyn, Gan fy nghyfarch dros dy li ;nbsp;Down yn ol ymhen y flwyddyn,-Mordaith hir im golwg i;
Ond ni ddaethant o fordwyo,
Er eu disgwyl lawer dydd;
Llanw arall syn eu suo,
Yn eu peil welyau cudd !
Gorwedd maent o dan y tonnau,
Yn Nhawelfor mawr y De;
Hunon ddwfn ymysg y perlau Llygad Duw sydd ar y 11e :
Na wahardder im eu cofio,
Yn y ganig ysig hon,
Hyd nes delont adref eto,
Gydar llanw, dros y don !
Gadewais wlad fy nhad am mam,
0 hiraeth pur yn wysg fy nghefn ;
Ediychais ar ei glannaun hir,
Rhag ofn na welwn hi drachefn :
Pan aeth om golwg, yr oedd un Yn glaf o galon ar y bwrdd ;
Ble mae y gwr nas car ei wlad.
Pan fo ei long yn mynd i ffwrdd ?
Om hol yr oedd fy Ynys Wen,
Ar mor oi chylch yn gan i gyd;
O mlaen yr oedd yr Eidal deg.
Lie mae yr haf yn haf o hyd;
Om hol yr oedd cyfandir byw Cyfandir bywyd newydd dyn;
O mlaen yr oedd yr Aifft, mor hen Nas gwyr yn iawn ei hoed ei hun!
-ocr page 104-Ond beth i mi, ar galon glaf,
Oedd tesnir Aifft ar Eidal dlos ?
Nid arnynt hwy yr oedd fy mryd, Yngoleu dydd, na breuddwyd nos :
Fel Gwenffrwd a Goronwy Mon,
Am Gymru yr hiraethwn i;
Tan awyr las a haul y de,
Ni cheisiwn decach bro na hi.
Cyrhaeddais lannau Cymrun ol,
Or hiroedd hud, bros ©rwau llaith;
Yn ol hob golli dim om sereh,
Na cholli sill om hen, hen iaith :
Malt;en worth troin alltud ambell dro, A mynd o Gymru fach ymhell,
Eir mwyn cael dod i Gymrun ol,
A medru earn Cymrun well.
-ocr page 105-93
Ambell fin nos.
Ar berlewyg bydt Clywir ei chlychaunnbsp;Canu ynghyd;nbsp;Clychau soniarusnbsp;Nas clybu dynnbsp;Eu mwynach erioed,nbsp;Mewn llesmair na hun.
Glasnef y cwmwd Ywr mór uwch ben,nbsp;Cysgod y llongannnbsp;Gymylaui nen;
Tlws yw yr ieuainc Ar hen i gyd,
Y Nghantref y Gwaelod Y ddinas fud.
Saif henuriad wrth y mór, Neilltuedig broffwyd lor,
Gyda gwallt mor wyn ar gwlan, Gyda Ilygaid fel y tón
Ei ddoethineb fel ei ddydd,
Ai welediad fel ei ffydd.
Gwel y diluw dwfr ar daen. Fel yn toi y mór oi flaen ;nbsp;Yntau ysgrifenna i lawr,nbsp;Megis un a wel y wawrnbsp;Fel y llanw, yn ei bryd,nbsp;Taen Cyfiawnder tros y byd.
-ocr page 106-94
Gwel y traethaun mynd yn llai, Ac yn darfodblant y trai;nbsp;Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wel y wawr
Derfydd cyfundraethau dyn^ A Gwirionedd fydd yn un.
Cudd dylifiad gwyn y don Greibhiaur tywod ger ei frorv;nbsp;Yntau ysgrifenna i iawr,
Megis un a wel y wawr
Pan orffenno Duw Ei waith, Ni bydd ar Ei ddaear graith.
Gwel y mor yn for o hedd,
Yn llonyddu yn ei wedd;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wel y wawr
Wedi i gamwedd fynd ar goU Erys Cariad oil yn oil.
Beth yw'r mor, ei drai ai lanw Creadigaoth gyntaf Duw?
Onid dameg fawr yr oesau?
Onid drych tragwyddol yw ? Pel ei lesni dv/fn, nas dichonnbsp;Fod yn llonydd yn ei gryd,nbsp;Onid ydyw bywyd, yntau,
Yn dygyfor drwyddo i gyd ?
Nid ywr Ysbryd fun ymsymu(r Unwaith ar y dyfnder maith,nbsp;Wedi llaesu Ei adenydd,
Na gorffwyso yn Ei waith :
-ocr page 107-95
Nerth Ei fywyd annherfynol Perffaith rym Ei Berffaifch Fryd,nbsp;Sydd yn creu yr anniddigrwyddnbsp;Deiimlir ym mhob oes a byd.
Mae y Cread yn ymestyn At berffeithrwydd, at y wawr;nbsp;Ac yn nhrai a llanwr oesau,nbsp;Cwblheir Un Amcan mawr ;
Creir nef a daear newydd,
Ac fel mellten rhwng y ddwy Ehed angel, gan ddywedydnbsp;Na bydd mor na llanw mwy.
-ocr page 108- -ocr page 109- -ocr page 110- -ocr page 111- -ocr page 112- -ocr page 113-99
Telynegion Cymru.
(Ar ddechreu Canrif).
Gbe y porth maeth Fardd yn canu, Byw, fy nghenedl, fo dy lên;
Cenir it farddoniaeth newydd,
Cystal ath farddoniaeth hen;
Cyfod dithau.n swn y delyn,
Fel y dydd pan wnaed dy frad ;
Ni ddaw eto Forfa Bhuddlan Ar dy ymdrechfeydd, fy ngwlad.
Ger y ^porth maeth Athrawn galw, 0 fy nghenedl, canlyn fi ;
Yng nghymanfa y cenhedloedd Cedwir heddyw Ie i ti;
Goloh dy lygad 5 goleuni
Eiddot y meddylfyd mawr;
Bydd yn Roeg y ganrif newydd,
Wlad marchogion Arthur Fawr.
Ger y porth ma/eth Broffwyd yntau, Gwrando, Gymru, ar ei lef,
Croes y Grist fo yn dy galon,
Cerdd, fy nghenedl, tuar nef :
Gwell yw Dysg na golud lawer,
Gwell nar ddau yw sanctaidd foes;
Glyn, fy ngwlad, fel disgybl anwyl, Ganrif arall wrth y Groes.
-ocr page 114-Telynegion Maes a Mor.
Os wyt Gymro hoff oth wlad,
A hoS oth dadau dewrion,
Cadw wyl er mwyn dy had
Ni waeth beth ddywed estron,
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon,
Os wyt Gymro hoff oth iaith,
A hoff oi bardd ai phroffwyd;
Heddyw twng y filfed waith Iw chadw fel ei cadwyd :
Boed yn amlaf ar dy fin,
Boed olaf ar dy aelwyd.
Os wyt Gymro hoff oth Sant,
A hoff or cysegreddg;
Cadw wyl, er mwyn dy hlant,
I Ddewi, wyr Ceredig;
Oas ywr gwr na char ei wlad, Boed dlotyn neu bendefig.
-ocr page 115-Telynegion Cy^nru. nbsp;nbsp;nbsp;loi
Maen ddydd uchelwyl o Went i Fon,
Maer hen alawon ar fin a thant;
Ac is ei nennawr pob Cymron son Am liwr genhinen, am Ddewi Sant;
Ond nid gwladgarwch yw cynnal dydd, Undydd mewn blwyddyn, i ganu can
Gwnewch Gymru heddywn lan ac yn rhydd, A gwnewch hi yfory yn xhydd ac yn lan.
Maen ddydd uchelwyl, yn llawen ddydd, Mewn tre a phentref, pentref a thre;
Ac er yn llawer, un enw sydd Ar fin y Gogledd, ar fin y De;
Ond nid gwladgarwch yw cynnal gwledd,
A dweyd Fy nghenedl, fy iaith, fy ngwlad,
Glanhewch y byrddau or gwin ar medd, Ac na foed wehelyth i Drioedd Brad.
Maen ddydd uchelwyl, a phawb yn son Am Idwr genhinen, am Ddewi Sant;
Cenir alawon o Went i Fon,
Gan wyr a mamau, mamau a phlant;
Ond gwell gwladgarwch yw bod yn un Mewn tref a phentre, pentre a thref,
Gwneyd Cymrun buraoh iddi ei hun,
Ai gwneyd yn ffyddlonach iw Sant ar Nef.
-ocr page 116-102 Telynegion Mass a Mor.
(Hwyr yn lonawr; goddeithio oedd ; hynnyn awgiymu
lynydd-
ar y m; r gan).
Dacw goeloerth ar Eryri,
Gwenfflam lygad yn y gwyll!
Chwiliwch, dadau, am y gwayw, Chwiliwch, lanciau, am y cyll;
Doed a ddelo, rhaid yfory Gadw erwaun bro ai braint.
Hawl gwladgarwch fyth yw gofyn Gwaed y byw dros Iwch y saint.
Dacwr Moelwyn Mawr yn galw, Dacw ftlam yn ateb fflam!
Mae pob mynydd yn deimladwy,
Oni ddial Cymrur cam?
GaifE yr allfro ffordd yr elo Gwympon cestyll hyd y llawr?
Beth a wnewch chwi yn yr ogof Fintai segur Arthur Fawr?
Dacw goelcerth gwyr Ardudwy Fel yn troi y mor yn waed!
lorwerthHarripwy ywr brenin? Pa ddyhirwch ganddo wnaed ?
A wnawn ni, a ni yn Gymry Oddef hyn heb ei wahardd?
Drodd y delyn yn fradwrus,
Neu a wywodd Haw y bardd ?
Dacw dafod gwahanedig Eto ar yr Eifl yn Lleyn!
Rhaid in dwylaw fod yn llawer, Rhaid in hergyd fod yn un ;
-ocr page 117-103
Na foed neb yforyn fradwr
Rhag iw blant felldithior dydd;
Gwell na byw yn ddynion arwerth, Pyddai syrbhdon ddynion rhydd.
Cynneu allan naaer coelcerthi Llosgin llwch o un i un;
Ond ni chlywaf heno gyffro Gwyr rhyfelgar ar ddihun,
Ac ni ddilyn hirllais udgorn Neb i gasglur dewi ynghyd,
Maen goleuo ar ein Hanes,
M ae yn nosi ar y byd.
-ocr page 118-Telynegion Maes a Mor,
0 CADWN uchelwyl A thelyn a thant;
Boed annerch a oherdd Yn nhafodiaith y Sant.nbsp;Ond cadwn o'r ddefodnbsp;Y cwpan aW gwiriynbsp;Ar Cymro un diwrnodnbsp;A ff ug ar ei fin.
0 hyd y mae Dewi Yn dyfod am dro,
I weled ei hil
Ac i weled ei fro. Mae'n dda ganddo genedlnbsp;Yn gwisgo ei gwi/rdd,nbsp;Ond gwell ganddo genedlnbsp;Yn dilyn ei jfyrdd.
-ocr page 119-105
Telynegion Cymrti.
Moes ddafn or gostrel, gymrawd, Mi WTi mai marwr wyf,
Gan fel y syrth bargodion Fy nghalon o fy nghlwyf;
Mae 'ngwefus fel y marwor,
Ond heno, dan y Hoer,
Hi fydd mor wen ar barrug,
Ar lloergan arnin oer.
Fy nghymrawd, fy hen gymrawd Cydymaith llawer cadnbsp;O gas at fradwyr Oymru,
O sereh at lyw a gwlad
Bydd un yn Ilai yfory Yn ymladd gyda thi;
Ac un yn Ilai dros Gymru
Beth ddaw ohoni hi ?
Ond cyn dy ollwng, gymrawd,
A chyn im ganun iach,
Am byth !gofynnaf gennyt Ryw un gymwynas fach;
A gwn na wnei warafun Cyn Ileied pethi unnbsp;Syn marw wrth ei ofyn,
Ymhell oi fro ei hun.
Fy nghymrawd, pan ei adref,
Ac adref hebof fi,
Dos. galw gydam Creirwy
Ti wyddost pwy yw hi;
A dywed iti glywed Ei henw ar fy min.
Ar ddwthwn ola 'mywyd,
Gerllaw y farwol ffin.
-ocr page 120-A dos a nghleddyf iddi
Y bylchog banner llafn Syn weddilldos a hwnnw,
Ond sych y gwaed bob dafn : Bydd Creirwyn falch ohono,
A gwyr, pan wel y dam,
Mai nid deheulaw llwfrddyn A gydiai yn ei garn.
A dywed imd syrthio,
A ngwaed Cymreig yn llif, Ller oedd yr ornest boethaf,
Ar meirwn fwyau rbif.
A syrthio fel gwnaeth Arthur,
A gw^ yr hen Ford Gron, Fy wyneb at y taner,
A nghlwyfau ar fy mron.
-ocr page 121-107
Telynegion Cymru.
Bu Tom Ellis farw yn Ffrainc : ni fydd byth farw yng Nghymru.
Ennwch imi or Deffroad Ei ladmerydd ef,
Hwnnw safodd buraf drosto,
Safodd dros y nef;
Ennwch ddewin a thywysog,
Ennwch lawer mwy
Enwaf innaur marw ietianc Oedd yn nes na hwy.
Tuar Cynlas, bore-deimlodd Enedigaeth-wawr
Cenedl bnrach Cymru fyddai Yn ei feddwl mawr ;
Credodd yn y weledigacth,
Credodd yn ei Dduw ;
Credodd Cymrur ddau, ai hunan,
A deohreuodd fyw.
Ysbryd tanllyd rhy angerddol Oedd i losgin hir;
Trwyr Deffroad, cerdda allan Gan oddeithior tir :
Bydd yn yimi ar y bryniau,
Rhjngddynt ym mhob cwm;
Bydd ei enwn ysbrydoliaeth Mewn bythynod llwm.,
Y Deffroad, onid bywyd Goreu Cynlas yw,
Gan un galon genedlaethol Eton cael ei fyw ?
-ocr page 122- -ocr page 123-109
Tdynegion Cymru.
Ardaloedd ai eu deulin !beth yw hyn ? Gobaith oes ddilychwin;
Eneddiaun troi : Duw yn triu Agoriad oalon gwerin.
Bedyd'd Duw fedyddiodd Gymru, Pentecost yr Ysbryd Glan ;
Nid oes ardal heb ei hallor,
Nid oes allor heb ei than; Cwmwl goleu gweddnewidiadnbsp;A gysgododd dros y wladnbsp;Gwelwyd dyn i Dduw yn blentyn,nbsp;Gwelwyd Duw i ddyn yn Dad.
Clybu cenedl farn a chariad Yn cynniwair trwy ei bro;
Ysodd tan or nef Gwm Ehondda, Oed'd ai galon fel y glo ;
Mynwy dduGomorra Cymru Gwyrth o ras ar honno wnaed;nbsp;Cadd gydwybod wedii channunnbsp;Ddisglaer yn y Dwyfol waed.
TJn yw Cymrnn nghwlwm gweddi, Un, er gwahaniaethau oes ;
Gydar nef a chydai hunan Fei cymodwyd wrth y Groes;
Nid oes son am Wyddfa mwyach Onid ydyw Calfari
Wedi mynd goruwch y bryniau Pennaf yn ei golwg hi ?
-ocr page 124-Gwnaed o Gymru berth yn llosgi,
Heb ei difa gan y tan;
Ac yn fflam eii phuredigaeth,
Cafodd ddawn a gwefus Ian :
Hen emynnaur gwaod ar dioloh Maent i gyd ar lafar gwlad;
Rhai fun fudion syn clodfori Duw, am iachawdwriaeth rad.
Nid oes ardal heb ei bailor,
Nid oes allor heb ei than
Gydai dysg y cafodd Cymru Bentecost yr Ysbryd Gian :
Os mai marwi thywysogion,
Byw ei Phentywysog hi
Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y Hi.
-ocr page 125-Ill
Telynegion Cymru.
Cymbu fach i mi
Bro y llus ar llynnoedd, Corlan y mynyddoedd,nbsp;Hawdd ei charu hi.
Son am diroedd hud Tecach nar rhai hynnynbsp;Ydyw erwau Cymru,
Gwell na broydd byd.
Yn ei hanes hen Enwir mil o arwyr,
Llin marchogion Arthur, Cedym cad a lien.
Mag rai ereill mwy
Gwyr fon olud daear,
Na bun llys Gwenhwyfar Hafal iddynt hwy.
Cymru faoh i mi
Cartre crwth a thelyn,
Cysegr salm ac emyn,
Forth y nef yw hi.
-ocr page 126-m
8!V