-ocr page 1- -ocr page 2- -ocr page 3-

T



F (rj ^0!^ ^


-ocr page 4- -ocr page 5- -ocr page 6-

Y FÓR-FORWYN


rijksuniversiteit utrecht


1554 5167


-ocr page 7-

CHWEDLAU GWERIN CYMRU 1

\i WEDl EU DETHOL A’U HADDASU

CAN

WILLIAM ROWLANDS. vWA

YSÜÜL RAMADEG, ABERTAWE




-ocr page 8-

instituut voor

Keltischs taal — en ietierkunde der Rijksuniversiteit ie Utrecht

GWASG PRIFYSGOL RHYDYCHEN Llundain Edinburgh Glasgow Copenhagennbsp;New York Toronto Melbourne Cape Townnbsp;Bombay Calcutta Madras Shanghainbsp;HUMPHREY MILFORDnbsp;C3’hoeddwr i’r Brifysgol

Printed in England

-ocr page 9-

RHAGAIR

Ysgrifennwyd y chwedlau hyn ar gyfer plant o ddeuddeg i bedair ar ddeg oed. Gwnaed ymdrechnbsp;arbennig i gadw’r gystrawen yn syml, ac i ysgrifennunbsp;brawddegau byrion er mwyn y plant sy’n fvvy cynefinnbsp;êi Saesneg na Chymraeg.

Ychydig o gyfle a gaifF plant Cymru i ddarllen hen chwedlau’r werin yn y famiaith. Y mae bron y cwblnbsp;o’r rhain wedi ymddangos eisoes yn Saesneg, ac ymgaisnbsp;yw hon i roi’r chwedlau mewn diwyg Gymraeg syml.nbsp;Ni cheir yma ddim ond ychydig iawn o chwedlau Tylwythnbsp;Teg Cymru: devviswyd yn unig y rhai byrraf a’r rhainbsp;mwyaf diddorol i blant. Os caiff y rhain dderbyniad,nbsp;bwriedir ysgrifennu cyfrol arall, yn cynnwys chwedlaunbsp;hwy, a cheisio felly ennyn sereh y plant yn nhraddod-iadau Cymru yn iaith y wlad.

Cafwyd defnyddiau un neu ddwy o’r chwedlau o draddodiadau a geir mewn hen gylchgronau a hen lyfrau,nbsp;megis Cambrian Superstitims, Howells; ond caed ynbsp;mwyafrif o Celtic Folklore Sir J. Rhys, a dymunafnbsp;ddiolch i Wasg Rhydydlie^i^fn g^niatad i ddefnyddio’rnbsp;llyfr, ac am bob hwyliplod^^nglyrt ag argraffu’r rhain.nbsp;Er nad yw’r chwedlau t'^g.^^'*fel y’u ceir yn Celtic Folklore, nid oes dim ynddynt nad yw’n seiliedig arnbsp;draddodiad. Ceisiwyd eu hadrodd yn syml fel y gallnbsp;pob plentyn a fedr ddarllen Cymraeg eu deall a’u mwyn-hau. Hyderaf y caiff y llyfr groeso ymhob ysgol yngnbsp;Nghymru.

-ocr page 10- -ocr page 11-

CYNNWYS

I.

Y For-forwyn

Tud.

• 9

II.

Y Bachgen a’r Cawr

• 13

III.

Y Telynor

• 17

IV.

Y Blwch Eli.

. ao

V.

Yr Efeilliaid .

• 25

VI.

Mab Llecli y Deri

. 38

VII.

Mab yr Ystrad

• 33

VIII.

Guto Bach .

• 37

IX.

Nant yr Ellyllon .

. 40

X.

Rhys a Llywelyn .

• 43

XI.

Llyn Tegid .

• 45

XII.

Pali Gian Teifi

. 48

XIII.

Sion Siencyn

• 51

XIV.

Y Gist Aur .

• 53

XV.

Hen Wraig Hafod Rugog

• 56

XVI.

Y Gors Goch

• 58

XVII.

lanto .

. 60

XVIII.

March Amheirchion

• 63

XIX.

Y Marchlyn Mawr

• 65

XX.

Rhita Gawr .

. 67

-ocr page 12- -ocr page 13-

Y FOR-FORWYN

Un bore braf ym mis Medi ers llawer blwyddyn yn ól aeth liane ieuanc o Ben Cemes allan i bysgota mewnnbsp;cwch. Pergrin oedd ei enw.

Pan oedd yn rhwyfo yn araf heibio Ogof Cemes gwelai fór-forwyn yn eistedd mewn agen yn y graig. Yr oeddnbsp;wedi clywed són am fór-forwyn lawer gwaith, ond nidnbsp;oedd wedi gweled un erioed o’r blaen.

Yr oedd Pergrin wedi dychryn ychydig ac yn methu gwybod beth i’w wneud.

‘ Os af yn agos ati meddai, ‘ efallai mai fy budo dan y d^r a wna.’ Ond er hynny i gyd ni fedrai droi ynnbsp;ól. Ac wedi aros ychydig aeth yn nes ati.

Yn awr yr oedd yn ddigon agos i’w gweled yn iawn, ac yr oedd yn sier mai dyma’r eneth dlysaf a welsainbsp;erioed. Yr oedd yn edrych yn ieuanc iawn, a chanddinbsp;wallt hir modrwyog yn disgyn dros ei hysgwyddau.nbsp;Yn ei Ilaw yr oedd ganddi grib aur hardd. Ac o’inbsp;blaen yr oedd llyn o ddwr llonydd, a gwelai Pergrinnbsp;yn awr mai cribo ei gwallt yr oedd. Ac yr oedd ynnbsp;eistedd ar gwrr y llyn er mwyn gweled ei Hun yn ynbsp;dwr.

Nid oedd hi wedi gweled Pergrin eto gan ei bod yn syllu i’r dwr, ac aeth yntau ychydig yn nês ati.nbsp;Yn awr clywai hi’n mwmian canu. A chyn gyntednbsp;ag y clywodd Pergrin hi’n canu, dyna’r rhwyfau’n arosnbsp;a’r cwch yn sefyll yn ei unfan. Ar hynny cododdnbsp;hithau ei phen ac edrychodd i gyfeiriad y cwch.

-ocr page 14-

lo Chwedlau Gwerin Cymru

Cyn gynted ag y canfu hi ef dyna hi’n dechreu canu’n uwch. Nid oedd Pergrin erioed wedi clywed y fath ganunbsp;peraidd, ac yr oedd wedi ei swyno’n fawr. Ac nid oeddnbsp;arno eisiau mynd o swn y fath ganu melys i hwnnw.

Ymhen ychydig dyna hi’n codi ac yn llithro dros y graig, ac yn neidio i’r dwr.

‘ Wel, dyna’r eneth dlysaf a welais i erioed ebe Pergrin wrtho’i hun, ‘ ond dyna fi wedi ei cholli hi.’

Ond yn y man dacw hi’n codi ei phen o’r dwr wedyn ac yn nofio’n araf at y cwch,

Yr oedd Pergrin yn awr yn methu gwybod beth i’w wneud. Yr oedd wedi clywed y byddai’r fór-forwyn ynnbsp;hudo rhai i’r mór.

‘ Os na ddywedaf rywbeth wrthi, mae hi’n sier o droi’r cwch a’m denu dan y dwr,’ ebe Pergrin. ‘ Ond beth ynnbsp;y byd a gaf fi i’w ddweyd ? ’

Cyn iddo gael amser i feddwl llawer, yr oedd y fór-forwyn yn ymyl y cwch. Cododd ei phen o’r dwr a gosododd ei Ilaw wen esmwyth ar ymyl y cwch. A channbsp;wenu’n siriol arno meddai: ‘ Pergrin, Pergrin, Pergrin, anbsp;gaf fi ddod atat i’r cwch ? ’

A chyn iddo gael amser i ateb llamodd dros ochr y cwch ac eisteddodd yn y pen ól.

Syllai Pergrin yn syn arni a cheisiodd siarad. Ond ni fedrai ddweyd gair. Yr oedd yn ei hedmygu’n fawr gannbsp;ei bod mor hardd a Iluniaidd.

Ymhen ychydig dyma hi’n gwenu’n siriol arno wedyn ac yn dechreu canu fel o’r blaen, a dechreuodd Pergrinnbsp;rwyfo’r cwch drachefn. Ac yn awr llithrai’r cwch ynnbsp;esmwyth fel pluen dros y tonnau. Nid oedd raid iddonbsp;ond prin gyffwrdd y rhwyfau yn y dwr.

Yn awr yr oedd Pergrin yn ei charu a’i holl galon, ac yn credu y deuai hi adref gydag ef i fod yn wraig iddo.

-ocr page 15-

Y Fór-forwyn nbsp;nbsp;nbsp;ii

Rhwyfai’n gyflymach nag erioed. Yr oedd mewn brys mawr i fwi w ei rwydau er mwyn cael mynd adre gyda’rnbsp;fór-forwyn.

Ond cyn ei fod wedi mynd ymhell iawn oddiwrth y creigiau dyna hi’n peidio canu wedyn. Ac ymhennbsp;ychydig dechreuodd wylo’n chwerw dost. Nid oeddnbsp;Pergrin wedi gweled neb erioed yn wylo fel hon. Yrnbsp;oedd ei dagrau yn llifo fel afon dros ei gruddiau, anbsp;hithau’n awr yn erfyn yn daer am gael mynd yn ól atnbsp;ei chwiorydd o dan y tonnau.

‘ Pergrin, Pergrin, Pergrin,’ ebe hi, ‘ os caf fynd yn ól at fy nheulu, fe roddaf dair gwaedd i’th achub pan fonbsp;fwyaf dy berigl.’

Yr oedd Pergrin eto yn methu gwybod beth i’w wneud. Nid oedd am ei cholli’n awr ac yntau’n ei charu hinbsp;gymaint. Ond yr oedd wedi clywed són am ddial ynbsp;mór-forwynion.

‘Efallai’, meddai wrtho’i hunan, ‘mai troi fy nghwch a fy moddi a wnant eto os gwrthodaf adael iddi hi fynednbsp;yn ól.’

Felly, er gofid mawr i’w galon, gadawodd iddi ddych-welyd at ei theulu o dan y dwr. Ac ar hynny, llamodd y fór-forwyn dros ochr y cwch, a diflannodd o’i olwg i ganolnbsp;y mór.

Aeth misoedd lawer heibio cyn iddo ei gweled drachefn. Ni soniodd air am dani wrth neb. Nid oedd yn deallnbsp;ystyr ei geiriau yn iawn, ac nid oedd am i neb wybodnbsp;iddo fod yn siarad gyda’r fór-forwyn.

Yr oedd Pergrin yn mynd allan i bysgota bob dydd fel arfer, ac aeth heibio’r un agen yn y graig lawernbsp;gwaith. Ond er edrych ac edrych nid oedd dim golwgnbsp;o’r fór-forwyn yn unman.

-ocr page 16-

12 Chwedlau Gwerin Cymru

‘ Nid oedd hynny ond esgus i gael mynd yn ol i’r mór ebe Pergrin. ‘ Ni welaf mo honi byth mwy. Fe’mnbsp;twyllodd yn iawn.’

Un prynhawn braf ymhen rhai blynyddoedd yr oedd Pergrin yn pysgota fel arfer, ac yr oedd y mór yn hollolnbsp;lyfn a thawel. Nid oedd dim arwydd storm yn unman.nbsp;Yr oedd llawer iawn o bysgotwyr eraill ymhell yngnbsp;nghanol y mór, ac nid oedd nac ofn na phryder ar neb.

Ond yn sydyn dyma’r fór-forwyn yn codi ei phen o’r mór yn ymyl cwch Pergrin, ac yn gweiddi mewn llaisnbsp;uchel:

‘ Pergrin, Pergrin, Pergrin, cód dy rwydau, cód dy rwydau, cód dy rwydau.'

Ac yn y fan diflannodd o’i olwg o dan y tonnau.

Ufuddhaodd Pergrin ar unwaith. Cododd ei rwydau a rhwyfodd am y Ian. Yr oedd y mór yn berffaithnbsp;dawel o hyd. Ond cyn gynted a bod Pergrin wedinbsp;mynd heibio i Ogof Cemes dyma storm yn dechreu codinbsp;o’r mór.

Yn awr rhuai y gwynt yn groch, a chodai y tonnau yn uchel. Ond erbyn hyn yr oedd cwch Pergrin ynnbsp;y Ian.

Yr oedd llawer iawn o gychod eraill ar y mór y diwrnod hwnnw, ond ni ddaeth dim un o honynt i’rnbsp;Ian. Nid oedd neb ond Pergrin wedi clywed gwaeddnbsp;y fór-forwyn.

-ocr page 17-

II

Y BACHGEN A’R CAWR

Yn yr hen amser yr oedd cewri yn byw yng Nghymru. Mevvn ogof y byddai’r cawr yn byw fel rheol, ac yr oeddnbsp;ar bawb ofn mynd yn agos at ei gartref. Byddai ynnbsp;lladd llawer o ddynion a merched, ac yr oedd yn hoffnbsp;iawn o ddwyn plant.

Anaml y byddai neb yn gweled y cawr. Ond byddai rhai yn gweled goleu ei dan weithian, a byddai yn dodnbsp;allan yn ainl yn y nos i ladd ac i ddifetha.

Un o’r cewri creulonaf oedd Cawr y Gilfach. Creadur rhyfedd iawn oedd hwn ! Yr oedd yn wyth droedfedd onbsp;daldra, ac yr oedd ganddo nn Ilygad yng nghanol einbsp;dalcen ac un yn ei gorun. Felly yr oedd yn gallu gwelednbsp;i bob cyfeiriad, ac amhosibl ydoedd i neb fynd yn agosnbsp;ato heb iddo ef ei weled.

Yn y gaeaf byddai fel creadur gwallgof, yn enwedig pan fyddai rhew ac eira ar y llawr. Nid oedd yn gwisgonbsp;dillad gan fod blew mawr yn tyfu drosto. A phannbsp;fyddai’n oer iawn byddai’n tynnu coed niawr o’r gwraidd,nbsp;ac yn eu cario i’w ogof i wneud tan.

O’r diwedd penderfynodd bachgen ieuanc geisio ei ladd. Bachgen amddifad ydoedd. Yr oedd wedi colli ei dadnbsp;a’i fam, a chredai ef mai y cawr oedd wedi lladd y ddau.

Bu am wythnosau lawer yn meddwl sut y medrai ladd y cawr. Byddai’n cerdded wrtho’i hun am ddyddiaunbsp;hyd ochrau’r mynydd yn ceisio ei weled. Yr oeddnbsp;rhywun wedi ei weled o bell un diwrnod, ac yr oedd

-ocr page 18-

14 Chwedlau Gwerin Cymru

ganddo bastvvn mawr yn ei law. Ond er crwydro a chnvydro, nid oedd y bachgen amddifad byth yn einbsp;weled yn unman.

Un diwrnod, wedi blino crwydro, eisteddodd ar ben y Graig Lwyd. Craig fawr oedd hon ar ochr ynbsp;mynydd, ac nid oedd cartre’r cawr ymhell iawn o’rnbsp;fan honno.

Wedi eistedd yno am ychydig gwelai ddyn bychan mewn hollt yn y graig. Dyn bychan bach ydoedd, anbsp;golwg garedig arno.

‘ Mae’n sicr mai un o’r Tylwyth Teg yw hwn,’ ebe’r bachgen.

‘ Holo! ’ ebe’r gwr bach, ‘ Beth wyt ti’n wneud yma ? ’

‘ Edrych am y cawr a laddodd fy nhad a fy mam,’ ebe yntau.

‘ Sut y gwyddost ti mai y cawr a’u lladdodd hwy,’ ebe’r gwr bach.

‘ Dywedodd fy mam wrthyf mai efe a laddodd fy nhad,’ ebe’r bachgen, ‘ a’r dydd o’r blaen collal.s fy mamnbsp;wedyn. Ac ’rwy’n sicr mai’r hen gawr sydd^wedi einbsp;lladd hithau eto.’

‘ O, y mae hwnnw wedi lladd llawcr o honom ninnau hefyd,’ ebe’r gvvr bach.

‘ Fe’i lladdaf finnau yntau rhyw ddiwrnod,’ ebe’r bachgen ‘ ond nid wyf wedi ei weled eto.’

‘ A glywaist ti’r gwdihw yn hen dderwen fawr y Plas,’ ebe’r gwr bach.

Do, y mae hi wedi bod yno er pan gollais fy mam,’ ebe’r bachgen.

‘ Y gwdihw yn unig fedr ladd y cawr,’ ebe’r gwr bach.

‘ Sut felly ? ’ ebe’r bachgen.

‘Yr wyf fi’n medru iaith yr adar,’ ebe’r gwr bach; ‘ clywais mai’r gwdihw fedr ladd y cawr.’

-ocr page 19-

Y Bachgen a’r Cawr nbsp;nbsp;nbsp;15

‘ Rhaid i li osod bwa saeth cryf ar ben y dderwen fawr,’ meddai vvedyn ; ‘ y gwdihw fedr ladd y cawr.’

Yna diflannodd y gvvr bach ac aeth y bachgen adref.

'Wedi cyrraedd adref chwiliodd am y bwa saeth cryfat oedd ganddo. Ac wedi ei gael aeth ag ef, a gosododdnbsp;ef ar ben hen dderwen fawr y Plas, yn 61 gorchymyn ynbsp;gwr bach.

‘ Mae’n sier mai un o’r Tylwyth Teg oedd y g\\n‘ bach,’ meddai, ‘ ac efallai y gwyr ef hanes yr hen gawr.’

‘ Paham yr oedd yn rhaid i mi ei osod ar ben hen dderwen fawr y Plas, tybed! ’ meddai wrtho’i hun. Anbsp;dechreuodd feddwl mai cellwair yr oedd y gwr bachnbsp;wedi’r cyfan.

Ond yr oedd y gwr bach wedi bod yn gwylio symud-iadau’r hen gawr am amser maith. Gwyddai y byddai’n arfer mynd i orwedd o dan yr hen dderwen. Ac ymnbsp;mrigan’r dderwen y byddai’r gwdihw yn cysgu.

Un noswaith, gan ei fod wedi blino, aeth yr hen gawr i gysgu o dan y goeden, a chyn gynted a’i fod wedinbsp;cysgu daeth y gwdihvv uwch ei ben. Cydiodd yn ynbsp;saeth oedd yn y bwa gyda’i chrafanc, a saethodd hi i bennbsp;y cawr, gan ei ladd yn y fan.

Yna ehedodd y gwdihw a disgynnodd o dan y dderwen, a churai ei hadennydd o lawenydd fod y cawr o’r diweddnbsp;wedi ei ladd.

Yna daeth y g\vr bach yno. Tarawodd y gwdihw S,’i hudlath, ac wele pwy ydoedd ond mam y bachgen am-ddifad oedd wedi gosod y bwa saeth ym mrigau’r hennbsp;dderwen.

-ocr page 20- -ocr page 21-

Ill

Y TELYNOR

Ar y mynydd rhwng Ysbyty Ifan a’r Bala y mae cors o’r envv Y Gors Fawr. Ffordd unig unig oedd drosnbsp;y mynydd hwnnw yn yr hen amser. Ac os collainbsp;rhywun y ffordd wrth deithio yn y nos, nid oedd dim i’vvnbsp;wneud ond cysgu yn y grug ar ganol y mynydd. Nidnbsp;oedd goleuni ty yn unman i helpu dyn ar noson dywyll.

Yng nghanol y Gors Fawr yr oedd y Tylwyth Teg yn byw, ac weithiau gvvelid eu goleuni hwy yn y nos.nbsp;Goleu bach gvvan ydoedd, yn symud yn chwim drwy’rnbsp;grug. Ac yr oedd ofn hwnnw ar bawb bron. Pannbsp;fyddai niwl ar y mynydd yr oedd teithio’n anodd iawn.nbsp;Ond yn y niwl y byddai’r Tylwyth Teg yn dod allan.

Un tro yr oedd Telynor ieuanc yn croesi’r mynydd yma yn y nos. Ac yng nghanol y niwl fe gollodd einbsp;ffordd. Wedi crwydro’n hir cafodd ei hunan yngnbsp;nghanol y Gors Fawr. A gwyddai’n awr nad oedd dimnbsp;gobaith iddo gyrraedd y Bala y noson honno.

‘ Mae’n debig,’ meddai, ‘ mai cysgu yn y Gors Fawr fydd raid i mi heno. Nid oes dim i’w wneud ond rhoi’rnbsp;delyn i lawr a gorwedd yn y brwyn.’

Ond pan oedd ar roi i fyny, clywai swn rhywbeth yn symud drwy’r brwyn.

‘ Y mae rhywun yn dod o’r diwedd,’ meddai. ‘ Efallai y medr hwn fy arwain i’r llwybr.’

Ac yna gwelai ddynes fechan yn cerdded tuag ato.

‘ Pwy yw hon, tybed ? ’ meddai wrtho’i hun. ‘ Y mae hi’n od o fach. Ond efallai er hynny y medr fy helpu.’

-ocr page 22-

18 Chwedlau Gwerin Cymru

Ac wedi iddi gyrraedd ato, dyna’r vvraig fach yn cynnig ei Haw iddo. A gafaelodd yntau ynddi.

Yr oedd y niwl yn rhy dew, ac yr oedd yn rliy dywyll iddo fedru ei gweld yn eglur iawn. Gwyddai er hynnynbsp;ei bod hi’n od o fach, a thybiodd ar unwaith mai un o’rnbsp;Tylwyth Teg ydoedd. Yr oedd wedi clywed lawernbsp;gwaith mai pobl garedig iawn oedd y Tylwyth Teg, acnbsp;yn awr credai’n sicr mai un o honynt hwy oedd hon.

Cydiai y wraig fach yn dynn yn ei law, ond ni ddy-wedai air wrtho. Ac nid oedd yntau chwaith wedi yngan yr un gair eto. O’r diwedd, wedi cerdded am ysbaidnbsp;drwy’r brwyn, deuthant allan o’r gors, a gwelai’r Telynornbsp;yn awr ei fod ar y llwybr.

Teimlai’n awr fod yn rhaid iddo ddiolch iddi am fod mor garedig wrtho, a chan blygu i lawr ati, meddai,

‘ Diolch yn fawr i chwi am fy arwain o’r gors.’

Ar hynny gwasgodd hithau ei law a chusanodd ef. Ac er nad oedd y Telynor yn ei gweled yn iawn, yr oeddnbsp;ei chusan mor felys nes iddo syrthio mewn cariad a hi arnbsp;unwaith. Yna cydiodd yn ei law drachefn, ac arweinioddnbsp;ef ar hyd y llwybr.

Wedi iddynt gerdded am ysbaid, dyma hi yn aros o flaen drws rhyw dy. Ac heb guro’n y drws cerddodd inbsp;mewn i’r tya’r Telynor ar ei hól.

Dyma’r ty delaf a welsai erioed. Ty bychan bach ydoedd, ac yr oedd yn synnu fod yno ddigon o le iddo efnbsp;a’i delyn. Ond yr oedd yno ddigon o le, ac nid oedd ynnbsp;gweld ei hun na’i delyn fymryn llai nag arfer. Yr oeddnbsp;lamp fechan ar y bwrdd a honno mor oleu a’r haul. Anbsp;gwelai yn awr mai geneth ieuanc brydferth oedd wedi einbsp;arwain o’r gors.

Yn eistedd o ddeutu’r tan yr oedd gwr a gwraig,—tad a mam yr eneth. A phan welsant y ddau yn dod i

-ocr page 23-

Y Telynor nbsp;nbsp;nbsp;19

mewn codasant, a rhoesant bob croeso i’r Telynor i’w ty. Ymhen ychydig o amser yr oedd yr eneth a’i mam wedinbsp;gwneud y swper yn barod. Y bvvyd wedi ei osod arnbsp;fwrdd crwn o flaen y tan a lliain cyn wynned a’r eiranbsp;arno. Ac ni chafodd y Telynor erioed y fath swper anbsp;hwnnw.

Wedi iddynt orfifen bwyta’u swper, gofynnodd mam yr eneth iddo ganu ei delyn. A chanodd yntau rai onbsp;alawon melysaf Cymru. A phan oedd ef yn canu’r delynnbsp;yr oeddynt hwythau’n dawnsio. Nid oedd y Telynornbsp;wedi gweled neb erioed yn dawnsio fel hyn o’r blaen.nbsp;A mawr yr hoffai’r eneth gan mor chwim ac ysgafn ynbsp;dawnsiai, ac nid oedd erioed wedi gweled geneth cynnbsp;dlysed a hon.

Pan oedd y canu a’r dawnsio drosodd, trefnodd y ferch wely iddo, a dywedodd wrtho, ‘ Dós i gysgu yma, a thi anbsp;gei fynd ar dy daith bore yfory.’

Yna aeth y Telynor i’w wely, ac wedi gosod ei delyn wrth droed y gwely, cysgodd yn dawel, gan freuddwydionbsp;am y ferch a garai.

Bore drannoeth deffrowyd ef, nid gan gusan yr eneth, ond gan gi Plas Drain yn Ilyfu ei wyneb. A phannbsp;edrychodd o’i gwmpas, gwelodd ei fod yn gorweddnbsp;wrth ddrws corlan y mynydd, a’i delyn wrth ei draednbsp;mewn llwyn o frwyn. Ac nid oedd dim hanes o’r ferchnbsp;na’r teulu yn unman.

Ar ól hyn bu’r Telynor yn chwilio lawer gwaith am y ty hwnnw ar ochr y mynydd. Ond ni welodd bythnbsp;wedyn neb o’r teulu caredig a roddodd groeso mornbsp;gynnes iddo’r noson y collodd ei ffordd yn y Gors Fawr.

-ocr page 24-

IV

Y BLWCH ELI

Unwaith aeth geneth ieuanc am dro i’r ffair. Yn y flair hot! y byddai’r bechgyn a’r merched yn cyflogi.nbsp;Ond nid oedd hi wedi meddwl cyflogi; dim ond myndnbsp;yno i weld y fifair yr oedd.

Ond wedi iddi fod yn cerdded o gwmpas yno am ychydig, daeth boneddwr bychan ati, a gofynnodd iddinbsp;a ddeuai hi yn forwyn ato.

‘ Ni fydd raid i ti wneud dim ond chware gyda’r plant,’ meddai wrthi.

‘ Na,’ ebe hithau, ‘nid dyfod yma i gyflogi yr wyf fi, ond i weld y flair.

Yna cynigiodd y boneddwr gyflog mawr iddi; mwy o lawer nag oedd neb arall yn gael yn unman. Acnbsp;addawodd hithau fynd ato.

‘ Cei ddyfod adref gyda mi’n awr ar gefn fy ngheffyl,’ ebe’r boneddwr, ‘ ond rhaid i mi gael rhoi gorchudd arnbsp;dy lygaid cyn cychwyn.’

Yna, wedi rhoi gorchudd tywyll ar ei llygaid, cododd hi ar gefn ei farch ac ymaith ê. hwynt fel y gwynt.

Wedi teithio am amser disgynnodd y gwr bach oddiar ei farch, a rhoddodd help iddi hithau i ddisgyn. Ac ynanbsp;gafaelodd yn ei Haw ac arweiniodd hi ar hyd llwybr culnbsp;am amser maith.

O’r diwedd, safodd y ddau a thynnodd yntau y gorchudd oedd ar ei llygaid, ac er ei syndod gwelai ei bod yn sefyll mewn plas hardd. Nid oedd hi wedi gwelednbsp;plas tebig i hwn erioed. Yr oeddynt yn sefyll yn awr

-ocr page 25-

Y Blwch Eli nbsp;nbsp;nbsp;21

mewn neuadd fawr. Ar y murlau yr oedd miloedd o ganwyllbrennau aur, ac yti y rhain yr oedd canhwyllaunbsp;yn llosgi nes goleiio’r holl Ie.

Yna gwelai fod yno lawer iawn o foneddigion a boneddigesau yn y plas; ac ymhen ychydig casgloddnbsp;llawer o blant o’i chwmpas. Plant bychain bach oeddynt.nbsp;Yr oedd eu dillad wedi eu gwneud o ddail man fel dail ynbsp;bedw. Ac ar eu pennau yr oedd capiau melyn tebignbsp;i flodau’r eithin, a sandalau am eu traed tebig iawn inbsp;adennydd chwilen.

Edrychai’r plant yn llawen iawn pan welsant hi, a rhoddasant bob croeso iddi i’r plas.

‘ Dyma’r plant,’ ebe’r gwr bach, ‘ byddant yn awr o dan dy ofal di.’

Ac yna dechreuodd hi a’r plant chware. Yr oedd ganddynt bob math ar degannau, a chware eu goreunbsp;y byddent bob dydd o fore dan nos.

Bore drannoeth daeth y gvvr bach ati a rhoddodd iddi flwch o eli.

‘ Bob bore,’ meddai, ‘ y mae’n rhaid i ti iro llygaid y plant a’r eli hwn; ond gwylia rhag rhoddi dim onbsp;hono ar dy lygaid dy hun. Rhaid i ti olchi dy ddwylo’nnbsp;Ian ar 61 ei ddefnyddio.’

Gwnaeth hithau yn 61 ei orchymyn, ac yno y bu yn byw yn hapus iawn am amser hir.

Byddai’n synnu’n ami eu bod yn byw o hyd wrth oleu cannwyll. Yn y plas hardd y byddent drwy’r dydd, acnbsp;ni fyddai neb byth yn mynd oddiyno ond y gwr bach.nbsp;Byddai ef yn mynd a dod o hyd, ond ni fyddai byth ynnbsp;aros yn hir oddiyno.

Un bore wedi bod yn iro llygaid y plant anghofiodd yr eneth olchi ei dwylo. Yna digwyddodd rwbio einbsp;llygad chwith, ac aeth peth o’r eli i gongl ei llygad.

-ocr page 26-

22 Chwedlau Gvverin Cymru

Yna a chongl y llygad chwith gwelai ei bod yng nghanol fflamau o dan. Yn awr yr oedd y bobl oeddnbsp;yno yn edrych fel ellyllon, a’r plant y corachod bachnbsp;hyllaf a welsai erioed. Ond a’r llygad de, a rhan o’rnbsp;chwith, gwelai’r plas hardd fel o’r blaen. Yr oedd wedinbsp;dychryn yn awr, ac yr oedd yn methu gwybod beth i’wnbsp;wneud.

‘ Mae’n sicr mai y Tylwyth Teg yw y rhain,’ meddai.

‘ O, beth a wnaf i gael mynd adre’n ol! ’

Yr oedd arni ofn dweyd wrth ei meistr ei bod wedi anghofio golchi ei dwylo.

‘ Y mae’n sicr o fy nghosbi,’ meddai, ‘ os y caiff wybod hynny.’

Felly penderfynodd gau y llygaid chwith, a bu yno am rai dyddiau heb edrych ar ddim ond drwy’r llygad de.nbsp;Ond cyn gynted ag yr agorodd y llygad chwith gweluinbsp;hwy fel o’r blaen, a dechreuodd wylo’n chwerw.

Yna penderfynodd ofyn i’r gwr bach a gai hi fynd adre’n ol.

‘ Y mae hiraeth mawr arnaf,’ meddai wrtho. ‘ Os caf fynd adref am ychydig dóf yma yn ól wedyn.’ Anbsp;rhoddodd yntau ganiatad iddi i fynd.

‘ Ond,’ meddai wrthi, ‘ Cyn i ti gychwyn, y mae’n rhaid i mi gael rhoi gorchudd ar dy lygaid.’ Ac wedi rhoi gorchuddnbsp;arnynt fel o’r blaen, arweiniodd hi allan o’r plas. Ynanbsp;cododd hi eilwaith ar ei farch, ac aeth k hi ar garlam inbsp;ymyl ei chartref.

O mor falch ydoedd ei bod wedi cyrraedd adref! Ac yr oedd ei mam a’i thad yn falch hefyd ei bod wedi dych-welyd. Yr oeddynt wedi pryderu llawer yn ei chylchnbsp;gan na wyddent i ba le yr oedd wedi mynd.

‘Nid M byth yn ol eto,’ ebe hi. ‘ Yr wyf yn sicr mai y Tylwyth Teg oedd yn byw yn y Plas hwnnw.’

-ocr page 27-

Y Blwch Eli nbsp;nbsp;nbsp;23

Ac er ei bod wedi addaw niynd yn ól, penderfynu aros adref a wnaeth.

Yn awr nid oedd arni eisiau mynd i’r fïair o gwbl, a bu am amser maith heb fynd yn agos i’r dref.

Ond ymhen rhai blynyddoedd aeth hi a’i mam i’r ffair un tro. A phan yn sefyll wrth un o’r byrddau mewnnbsp;siop yno, gwelai ddyn bychan yn lladrata rhywbethnbsp;oddiar y bwrdd, ac yn ei ddodi yn ei boced. A thyb-iodd yr eneth ar unwaith mai ei hen feistr ydoedd.

Nid oedd hi wedi bwriadu siarad ag ef, ond heb feddwl dim tródd ato, ac meddai:

‘ Helo ! meistr, sut yr ydych chwi ? Sut mae’r plant ? ’ A thródd y gwr bach ati mewn dychryn mawr.

‘ Sut yr wyt ti’n medru fy ngweld ? ’ ebe ef yn swta.

‘Yr wyf yn medru eich gweld a chongl y Ilygad chwith,’ ebe hithau.

Ar hynny cymerodd y gwr bach frwynen a thynnodd ei Ilygad chwith ymaith. Yna diflannodd o’i golwg, anbsp;bu’r eneth druan fyw ar hyd ei hoes heb ddim ond unnbsp;llvgad.

-ocr page 28- -ocr page 29-

YR EFEILLIAID

Er’s llawer blwyddyn yn ól yr oedd gan wraig Corwrion efeilliaid, a’r ddau yn blant bach hynod onbsp;ddel.

Pan fyddai hi allan yn gweithio yn y caeaii, byddai’n gadael y ddau blentyn yn y crud yn y ty. Ac yr oedd ynbsp;ddau yn cysgu’n ddiddig bob nos.

Ond un diwrnod, pan aeth yn ól i’r ty yr oedd y ddau blentyn yn wylo’n dost, ac er ceisio popeth ni fedrai eunbsp;tavvelu. Er cynnig popeth iddynt nid oedd dim yn tycio.nbsp;Ac ymhen rhai wythnosau canfu hefyd nad oedd y plantnbsp;yn cynhyddu dim, a’u bod yn mynd yn fwy anniddig anbsp;hagr bob dydd.

‘ Nid wyf yn gwybod beth i’w wneud gyda’r plant yma,’ ebe’r fam druan, ‘ os nad af i ofyn cyngor gannbsp;Mari Huws, yr hen widdon sy’n byw yn y pentref.’

Yn Nhyddyn y Barcud yr oedd Mari Huws yn byw. Yr oedd yn hen iawn, a chanddi lawer o straeon am ynbsp;Tyhvyth Teg, Yr oedd y fam wedi clywed- Mari ynnbsp;dweyd lawer gwaith y byddai’r Tylwyth Teg yn arfernbsp;dwyn plant, yn enwedig plant bach tlws oedd teb eunbsp;bedyddio. A bob amser byddent yn gadael rhai hyllnbsp;yn eu 11e. Felly aeth y fam druan i weid yr hennbsp;Fari Huws.

‘ Nid wyf yn gwybod beth i’w wneud gyda’r plant acw,’ ebe hi. ‘Y mae’r ddau yn llefain drwy’r dydd.nbsp;Nid ydynt yn tyfu dim ac nid oes dim byd yn eunbsp;boddhau.’

-ocr page 30-

26 Chwedlau Gwerin Cymru

‘ A wyt ti’n sicr mai dy blant di ydynt ? ’ ebe’r hen vviddon. ‘Nid oes dim un o’r ddau yn debig i ti onbsp;gvvbl.’

‘ ’Rwy’n ameu hynny fy hunan vveilhiau,’ ebe hithau.

‘ ’Rvvy’n sicr,’ ebe’r hen widdon, ‘ mai plant y Tylwyth Teg yvv y rhain. Y mae’n rhaid dy fod wedi eu digio rywnbsp;fifordd neu gilydd, a hwythau er mwyn dial arnat wedinbsp;newid dy blant.’

‘ O, tewch, Mari Huws’, ebe hithau gan vvylo’n chwerw. ‘ O ! fy nau blentyn bach druan ! Ni welafnbsp;mo honynt byth mwy.’

‘ O, gweli’n ddigon hawdd ’, ebe Mari Huws. ‘ Fe wn i am rai o driciau’r Tylwyth Teg yn lied dda.’

‘Fe roddaf unrhyw beth i chwi os dywedwch wrthyf sut i gael fy mhlant yn ol,’ ebe’r fam druan.

‘ Dos adre,’ ebe’r hen widdon, ‘ a gwna beth hollol ffol pan fo’r ddau yn edrych arnat, a gwrando beth ddywednbsp;y naill wrth y Hall.’

‘Ni wn i ddim yn y byd mawr yma beth i’w wneud,’ ebe’r fam. ‘ Beth fuasech chwi yn wneud ? ’

‘Wei,’ ebe’r hen Fari Huws, ‘y peth goreu i ti yw cymryd pHsgyn wy a darllaw cwrw ynddo mewnnbsp;ystafell o’r neilltu, a gadael i’r ddau dy weld. Ynanbsp;tyrd yma i ddweyd wrthyf fi beth ddywed y ddau amnbsp;beth felly.’

Ac aeth y fam adref, a phan gafodd gyfle, gwnaeth yn ol cyngor yr hen widdon. Ymhen ychydig gwelai ynbsp;ddau yn ei gwylio, gan godi eu pennau i fyny yn y crud,nbsp;ac edrych arni’n ceisio darllaw y cwrw. Ac ebe’r naillnbsp;wrth y Hall yn ddistaw bach :

‘ ’Rwy’n coho gweld y dderwen acw’n fesen, ond ni welais i neb erioed o’r blaen yn darllaw cwrw mewnnbsp;plisgyn \vy.’

-ocr page 31-

Yr Efeilliaid nbsp;nbsp;nbsp;27

‘Ac ’rvvyf finnau’n cofio’r iar acw’n wy’, ebe’r Hall, ‘ Ond nid wyf fi ddim yn cofio neb o’r blaen yn ceisionbsp;darllaw cwrw fel yna.’

Ar hynny aeth y fam ar ei hunion at Mari Huws ac adroddodd wrthi beth oedd yr efeilliaid wedi ei ddweydnbsp;vvrth ei gilydd.

‘ Dos adre’n awr,’ ebe’r hen vviddon, ‘a chym’er y ddau blentyn, un dan bob cesail, a dos a hwy at y bomprennbsp;sydd dros yr afon yng ngwaelod Cae’r Pant, a gollwng ynbsp;ddau dros ganllaw y bont i’r afon. Plant y Tylwyth Tegnbsp;yw y ddau, fel y dywedais wrthyt ar y cyntaf.’

Yna aeth y fam adref drachefn a gwnaeth yn ól gorchymyn yr hen widdon. Gollyngodd y ddau dros ynbsp;bompren i’r dwr, a phan ddaeth adre’n ól y tro hwn,nbsp;canfu er ei syndod ei dau blentyn ei hun yn cysgu’nnbsp;dawel yn y crud.

-ocr page 32-

VI

MAB LLECH Y DERI

Dim ond un mab oedd yn Llecli y Deri. Hywel oedd ei enw, ac efe wrth gwrs oedd etifedd y tyddyn. Yrnbsp;oedd ei dad yn hoff iawn o hono, ac yr oedd fel cannwyllnbsp;llygad ei fam.

Wedi iddo dyfu'n ddyn daeth ef a’r hwsmon yn gy-feillion mawr. Yr oeddynt yn union fel dau frawd. Bydd-ent yn cysgu gyda’i gilydd bob amser, ac yn bwyta ar yr un bwrdd bob pryd. A byddai’r fam yn wastad ynnbsp;darparu dillad i’r gwas yr un fath yn hollol ag i’w mabnbsp;ei bun. A thybiai’r rhan fwyaf o’r bobl mai brodyrnbsp;oeddynt.

Pan oeddynt tua thair ar hugain oed syrthiodd y ddau mewn cariad a dwy eneth ieuanc o’r ardal, a’r rhain oeddnbsp;y ddwy lanaf yn yr boll wlad. Pan ddaetb y newyddnbsp;am byn i Lech y Deri yr oédd pawb yno wrth eu bodd.nbsp;Ac ymhen ychydig fisoedd priodwyd y ddau, a bunbsp;llawenydd mawr drwy’r boll ardal ar ddydd y briodas.

Yn Llech y Deri yr oedd y mab a’i wraig yn byw, a chafodd y gwas hefyd dy cyfleus ar dir Llech y Deri.nbsp;Ac fel o’r blaen yr oedd y ddau yn parhau’n gyfeillionnbsp;o hyd. Ymha le bynnag y byddai’r naill byddai'r Hallnbsp;yn sicr o fod yno hefyd.

Ymhen rhyw banner blwyddyn ar 61 y briodas aeth y ddau allan i hela un diwrnod ar dir Llech y Deri. Acnbsp;wedi iddynt gerdded am ysbaid trodd y gwas o’r neilltunbsp;i gilfach dawel yn Hawn o ddrain a drysi i chwilio amnbsp;helwriaeth, Ac wedi bod yno am ychydig amser daethnbsp;yn 61 at el gyfaill. Ond er ei syndod nid oedd dimnbsp;golwg o hono yn unman. A bu yno yn chwilio am dano

-ocr page 33-

Mab Llech y Deri nbsp;nbsp;nbsp;29

am amser maith. Gwaeddai a chwibanai dros y lie ond nid oedd neb yn ateb o gwbl.

‘ Mae’n rhaid ei fod wedi blino’n aros wrthyf, ac wedi mynd adre,’ ebe’r gwas. ‘ Mae’n well i minnau fyndnbsp;adre’n awr hefyd.’

Ac aeth yn 61 i Lech y Deri, gan ddisgwyl gweld y mab yno. Ond nid oedd neb yno yn gwybod dim onbsp;hanes Hyvvel, ac adroddodd y gwas fel yr oedd ef wèdinbsp;troi o’r neilltu i’r gilfach ac wedi ei golli.

Bu disgwyl mawr am Hywel yn 61 y noson honno, ond nid oedd dim golwg o hono yn unman. A bu galarnbsp;mawr yn Llech y Deri drwy’r nos. Wylai ei fam a’inbsp;wraig yn chwerw dost, ac yr oedd ei dad bron a mynd ynnbsp;wallgof.

Bore drannoeth aethant i gyd i’r lie yr oedd y gwas wedi colli Hywel, ac yno y buont yn chwilio ac ynnbsp;gweiddi am hir amser. Wedi chwilio’n fanwl am oriaunbsp;gwelent gylchoedd bychain ar y ddaear heb fod ymhellnbsp;o’r lie yr oedd y gwas wedi ei adael.

'Mae’n sicr mai cylchoedd y Tylwyth Teg yw y rhain ’, ebe’r gwas. ‘ Ac ’rwy’n cofio’n awr i mi glywednbsp;canu swynol yn rhywle pan oeddwn yn y gilfach acw.’nbsp;‘ le ’, ebe ei wraig dan wylo, ‘ yr wyf finnau’n sicr mai ynbsp;nhw sydd wedi ei hudo.’

Ac aeth pawb adref yn drist iawn gan gredu fod Hywel wedi ei ddenu i fro’r Tylwyth Teg.

Aeth wythnosau a misoedd heibio, a ganwyd mab i aer Llech y Deri, ond nid oedd ei dad druan yno i’wnbsp;groesawu. Yr oedd yr hen bobl yn Hawn gofid o hyd,nbsp;ac yr oedd ei wraig yn avvyddus iawn i’w phlentyn gaelnbsp;gweled ei dad. Ond aeth blynyddoedd heibio heb air onbsp;són am dano.

Tyfodd ei fab i fyny’n ddyn, ac yr oedd yr un ffunud

-ocr page 34-

30 Chwedlau Gwerin Cymru

a’i dad, a phawb yn hoff iawn ohono. Efe oedd popeth gan ei daid a’i nain, ac yr oedd gan yr lien hwsmon,nbsp;cyfaill ei dad, feddwl mawr iawn o hono.

O’r diwedd priododd im o ferched ieuanc glanaf yr ardal, ond yn perthyn i deulu angharedig. A chyn hirnbsp;bu yr hen bobl farw, ac ni bu ei fam druan fyw yn hirnbsp;iawn ar eu holau.

Erbyn hyn yr oedd pawb bron wedi anghofio am Hywel. Mynnai rhai fod rhyvvun wedi ei ladd neu einbsp;fod wedi ei ladd ei him, ac nid oedd neb yn disgwyl einbsp;weld byth mwyach.

Rhyw brynhawn gwyntog ym mis Hydref, ymhen 11awer o flynyddoedd, safai gwraig ieuanc Llech y Derinbsp;ar ben y drws, ac un o’r plant ar ei braich. Yn cerddednbsp;i fyny’r buarth, gwelai hen wr tal, teneu, a’i farf a’i walknbsp;cyn wynned ar eira. Cerddai’n araf, araf, ac edrychai’nnbsp;syn a gwelw, a thybiodd y wraig mai crwydryn ydoedd.nbsp;Edrychai’r morwynion arno drwy’r ffenestr, a chwardd-ai’r plant am ei ben, gan gredu mai tlotyn yn dyfod inbsp;chwilio am gardod ydoedd.

Daeth yr hen vvr ymlaen at y drws, ac ar ei union i’r ty, gan ddechreu holi am ei wraig a’i rieni.

‘ Eich gwraig, yn wir,’ ebe’r feistres, ‘ i beth y mae hen gerpyn meddw fel y chwi yn dod i’r ty yma i ofyn amnbsp;eich gwraig a’ch rhieni ? ’

‘ le, fy ngwraig a’m rhieni,’ ebe’r hen wr; ‘ ddoe yr euthum oddiyma i hela gyda Huw yr hwsmon. I blenbsp;y mae ef wedi mynd ? ’

Edrychai pawb yn syn arno erbyn hyn, a syllai yntau ar bopeth yn y ty, ac yn enwedig ar y plant bach. Ynanbsp;eisteddodd i lawr ac adroddodd ei hanes wrthynt. Ondnbsp;ni wrandawai’r wraig arno. Dywedodd wrtho iddi glywed

-ocr page 35-

Mab Llech y Deri nbsp;nbsp;nbsp;31

rhyvvbryd fod tad ei gwr wedi inynd ar goll wrth hela flynyddoedd cyn ei geni hi.

‘ Ond waeth i chwi heb na dweyd eich stori wrthyf fi,’ ebe hi; ‘ rhaid i chwi adael y ty yma ar unwaith.’

Ar hyn cyfifrodd yr hen wr, a safodd ar ei draed eilwaith.

‘ Myfi biau’r ty yma ebe ef, ‘ ac ni fedr neb fy nhroi i oddiyma.’

‘ Dyna’r hen goeden’, meddai eilwaith, ‘y bum yn eistedd tani ganwaith pan yn blentyn,’ gan gyfeirio atnbsp;hen goeden ar waelod y buarth.

Yna aeth allan o’r ty a cherddodd ymaith i dy yr hen hwsnion. Wedi iddo gyrraedd yno gwelai fod popethnbsp;wedi newid llawer. Ac wedi iddo fynd i mewn i’r tynbsp;gwelai hen wr oedrannus yn eistedd ar stól drithroednbsp;wrth y tan. Yna dechreuodd y ddau ymddiddan amnbsp;bethau mebyd; yr hen hwsmon yn adrodd stori’r hela,nbsp;ac fel y bu iddo golli Hywel.

Ac wedi iddynt eilwaith edrych ar ei gilydd, meddai’r hen hwsmon:

‘ Mae’n rhaid mai chwi yw Hywel Llech y Deri wedi dychwelyd o wlad y Tylwyth Teg. Y mae ymhell drosnbsp;banner can mlynedd er hynny, ac yr oeddwn bron wedinbsp;anghofio am danoch.’

‘ le,’ ebe’r hen wr, ‘ Hywel Llech y Deri wyf fi, ond y mae Llech y Deri wedi newid llawer er hynny.’

‘ Rhaid i chwi gael tamaid o fwyd,’ ebe’r hen hwsmon, ‘ ac yna fe awn yn 61 i Lech y Deri eto.’

Ond cyn gynted ag y dechreuodd fwyta, syrthiodd yn farw i’r llawr, ac nid oedd ond dyrnaid o ludw ar yrnbsp;aelwyd yn y lie y safai.

Ac am i’r wraig wrthod derbyn Hywel i’w hen gartref, bu melltith ar Lech y Deri am naw cenhedlaeth.

-ocr page 36-

VII

MAB YR YSTRAD

Yn yr hen amser byddai llawer o’r Tylwyth Teg yn byw yn Nant y Betws. Eyddai’r bobl yn clywed eunbsp;canu weithiau ac yn eu gweld yn dawnsio yn y caeau.nbsp;Ond ni fyddai neb byth yn mynd yn agos atynt.

Un tro yr oedd mab yr Ystrad wedi mynd am dro tua Llyn y Dywarchen. Ac wedi cyrraedd i ymyl ynbsp;llyn gorweddodd mewn llwyn ar gwrr y llannerch lienbsp;y byddai’r Tylwyth Teg yn arfer dawnsio.

Yr oedd yn dechreu nosi yn awr a’r lloer yn disgleirio ar y llannerch las. Yr oedd pob man yn hollol ddistaw,nbsp;heb ddim i’w glywed ond swn yr afon yn llithro’nnbsp;esmwyth dros y cerrig. Yr oedd y llanc wedi gweld ynbsp;Tylwyth Teg o bell lawer gwaith, ond nid oedd erioednbsp;wedi bod yn eu hymyl. A’r noson honno penderfynoddnbsp;arcs yno nes y deuent allan.

Cyn bo hir dyma amryw o honynt yn dechreu rhedeg ar draws y llannerch, ac ymhen ychydig funudau yrnbsp;oedd yno ddwsinau o honynt wedi ffurfio’n gylch, acnbsp;yn dawnsio oddiamgylch.

Wedi syllu arnynt am ysbaid canfu fod yn eu mysg un o’r genethod tlysaf a welsai erioed. Yr oedd einbsp;chroen cyn wynned a’r eira. Yr oedd ei llais cyn felysednbsp;amp; llais yr eos, ac mor dyner ag awel haf mewn garddnbsp;flodau. A dawnsiai cyn ysgafned i phelydrau’r haul arnbsp;Lyn y Dywarchen.

Syrthiodd y llanc mewn cariad d hi yn y fan, a phenderfynodd neidio i’r cylch a’i dwyn ymaith gydag

-ocr page 37-

Mab yr Ystrad nbsp;nbsp;nbsp;33

ef. A plian oeddynt ar ganol dawnsio, rhuthrodd i’w canol. Rhoddodd ei freichiau am dani, a chododd hi’nnbsp;dyner ar ei ysgwydd a rhedodd a hi adref bob cam.nbsp;Pan welodd y Tylwyth Teg hyn rhedasant hwythaunbsp;ar ei 61. Ond cyrhaeddodd y llanc y ty o’u blaenau,nbsp;a chaeodd y drws.

Yr oedd pawb yn synnu gweled geneth mor dlos a hon, ac yr oedd pawb yn dyner a charedig iawn wrthi.nbsp;Ceisiai y llanc yn awr ei denu i ddod yn wraig iddo,nbsp;canys yr oedd yn ei charu a’i holl galon. Ar y cyntafnbsp;ni wrandawai hi arno o gwbl, ac ai yntau yn fwy taernbsp;o hyd. Ac o’r diwedd, gan nad oedd gobaith cael myndnbsp;yn ol at y Tylwyth Teg, dywedodd wrtho :

‘ Ni wnaf addaw bod yn wraig i ti, ond os medri di ddyfeisio fy enw fe arhosaf yma yn forwyn os mynni.’nbsp;A chan gredu nad oedd hynny’n amhosibl derbynioddnbsp;yntau’r cynnig.

Ond yr oedd y gwaith yn anos nag y tybiai, a bu am ddyddiau lawer yn ceisio dyfalu. Cynigiodd bob enwnbsp;fedrai feddwl am dano, ond nid oedd dim un yn iawn.nbsp;Ac yr oedd y llanc ieuanc bron a digalonni.

Ond un noswaith, wi th ddod adref o’r farchnad, gwelai amryw o’r Tylwyth Teg, heb fod ymhell o’i Iwybr.nbsp;Tybiai y clywai hwy’n trafod rhywbeth, ac meddainbsp;wrtho’i hun:

‘Yr wyf yn sicr mai cynllunio i fynd acw i ddwyn eu chwaer y maent. Os medraf fynd yn agos atynt,nbsp;efallai y clywaf eu sgwrs ac y cdf wybod ei henw.’

Yna llusgodd drwy’r gwellt nes dyfod i’w hymyl, a chanfu ar unwaith ei fod yn iawn. Cyn gyntednbsp;a’i fod yno clywai un o honynt yn llefain yn uchel:

‘ O Penelop, Penelop, fy chwaer, paham yr aethost ti ymaith gyda’r dyn hwnnw.’

-ocr page 38-

34 Chwedlau Gweriii C3^mru

‘ Penelop/ ebe’r liane \vi tho’i hun, ‘ dyna ei henw; dyna ddigon i mi.’

Yna ymgripiodd yn ól heb i’r Tylwyth Teg ei weid, a rhedodd adref. Ac wedi cyrraedd y ty galwodd arninbsp;wrth ei henw:

‘ Penelop, fy anwylyd, tyrd yma ! ’

‘ O ddyn! pwy a fradychodd fy enw i ti ? ’ meddai hithau, a chan godi ei breichiau, gwaeddodd,

‘ Gwae fi ! Fy Nhynged ! Fy Nhynged ! ’

Ond yr oedd yn rhaid iddi aros yn yr Ystrad yn awr, a boddlonodd ar ei thynged. Dechreuodd weithio onbsp;ddifrif, a morwyn ragoral oedd hi hefyd. Yr peddnbsp;llwyddiant mawr ar bopeth a wnai, ac nid oedd morwynnbsp;lanach na chynilach yn unman. Byddai’n godro’r gwar-theg dair gwaith bob dydd, a rhoddent fwy o laeth iddinbsp;hi nag i neb arall. Ni chafwyd chwaith erioed gymaintnbsp;o fenyn o’r llaeth a’r adeg honno.

Ond nid oedd y liane yn fodlon iddi fod yn ddim ond morwyn yno, a cheisiai ei pherswadio i fod yn wraignbsp;iddo. Ac o’r diwedd, gan ei fod mor dyner a charedignbsp;wrthi, addawodd ei briodi.

‘ Ond,’ ebe hi, ‘ mae’n rhaid i ti addaw un peth i mi.’

‘Beth yw hynny?’ ebe yntau.

‘ Y mae’n rhaid i ti addaw na wnai di byth fy nharo a haearn. Os byth y tarewi di fi a haearn, fe ddychwelafnbsp;yn ól at fy nheulu.’

‘ Fe addawaf hynny’n rhwydd,’ ebe yntau, gan dybio na fyddai i hynny byth ddigwydd.

Yn wir buasai’n addaw llawer mwy na hynny. Yr oedd yn ei charu gymaint nes bod yn barod i addaw un-rhyw beth er mwyn ei chael yn wraig. Felly priodwydnbsp;hwynt y diwrnod hwnnw, a bu’r ddau fyw yn hapusnbsp;am flynyddoedd.

Ganwyd iddynt ddau o blant, bachgen a geneth.

-ocr page 39-

Mab yr Ystrad nbsp;nbsp;nbsp;35

Dyma’r plant tlysaf a’r goreu yn yr holl ardal. Ac nicl oedd teulu mor ddedwydd a theulu’r Ystrad yn unmannbsp;yn y wlad. Yr oeddynt yn llwyddo gyda phopeth, ac ynnbsp;fuan hwy oedd biau’r Ystrad, a holl dir Nant y Betwsnbsp;hyd ben y Wyddfa, a Chwm Brwynog yn Llanberis.

Un diwrnod yr oedd y gwr yn mynd i’r fifair i werthu ebol. A’r bore cyn cychwyn aeth i’r cae i geisio einbsp;ddal. Ond creadur ieuanc a gwyllt oedd hwn, ac wedinbsp;bod yno’n hir iawn methodd a’i ddal. Yna galwoddnbsp;ar ei wraig i’vv helpu, a rhedodd hithau ato ar unwaith.nbsp;Llwyddodd y ddau i yrru’r ceffyl i gornel y cae. Ondnbsp;pan aeth y gwr ato i roi ffrwyn yn ei ben, rhuthrodd yrnbsp;ebol heibio iddo. Yn ei wylltineb taflodd yntau’r ffrwynnbsp;ar ei ól, ac ar bwy y disgynnodd ond ar Benelop ei wraig.nbsp;Tarawodd darn o’r haearn hi yn ei boch, ac yn y fannbsp;diflannodd o’i olwg.

Ond er hynny i gyd nid oedd hi wedi llwyr anghofio ei gvvr a’i dau blentyn. Yr oedd yn amlwg ei bod hi’nnbsp;eu caru hwy o hyd. A rhyw noson oer yn y gaeaf, a’rnbsp;gwynt yn chwythu o’r gogledd, daeth at ffenestr ei ystafellnbsp;wely. Clywai y g\vr rhywun yn curo’r ffenestr a chod-odd o’i wely, a chlywai lais swynol ei wraig yn dweyd :

‘ Os bydd annwyd ar fy mab,

Rhowch am dano gob ei dad;

Os bydd annwyd ar liw’r cann,

Rhowch am dani bais ei mam.’

Yn ÓI cyfraith y Tylwyth Teg ni chai hi byth wedyn ddyfod i fyw i’r ddaear. Ond er mwyn cael siarad a’inbsp;gwr a’r plant, trefnodd hi a’i mam i gael tywarchen fawrnbsp;i nofio ar wyneb y llyn. Ac ar hon byddai’n trculionbsp;orian i siarad gyda’i gwr a’i phlant oddiar y Ian. Acnbsp;fel hyn y buont fyw gyda’i gilydd nes i’r gvvr a’r plantnbsp;farw. Y mae’r dywarchen eto’n nofio ar wyneb y llyn,nbsp;a dyna paham y gelwir ef yn Llyn y Dywarchen.

C %

-ocr page 40- -ocr page 41-

VIII

GUTO BACH

Wrtii droed uii o fynyddocdd Cymru yr oedd cartref Gulo Each. Byddai Guto yn crvvydro’n aml i ben ynbsp;mynydd i edrych ar ól defaid ei dad, ac ambell dronbsp;byddai’n hir iawn eyn dychwelyd.

Un tro, wedi bod yn hwy nag arfer, daeth yn ól gyda darnau o arian yn ei boced. Darnau tebig i goronau anbsp;hanner-coronau oeddynt, ac yr oedd ei fam a’i frodyr ynnbsp;methu gvvybod ym mha Ie yr oedd Guto wedi cael yrnbsp;arian.

‘ Ym mha ie y cefaist ti rheina Guto?’ ebc ei fam.

‘ Bum yn chware ar y mynydd gyda’r plant bach,’ cbe Gulo, ‘a hwy roddodd yr arian i mi.’

A thybiodd ei fam ar unwaith mai plant y Tylwyth Tcg oedd y rhain, a rhybuddiodd ef i beidio chware ^nbsp;hwynt byfh wedyn.

Ond rhyw ddiwrnod collwyd Guto drachefn, ac ni ddaeth yn ól am tua dwy flynedd. Yn ystod yr amsernbsp;hwnnw byddai ei frodyr a’i chwiorydd yn mynd i ben ynbsp;mynydd i chwilio am dano. A chawsant hwythau hefydnbsp;ddarnau o arian gwynion ar y cerrig lawer gwaith, ondnbsp;ni welsant ddim golwg o Guto.

Ymhen dwy flynedd fodd bynnag, pan agorodd ei fam y drws un bore, pwy oedd yn cistedd ar y rhiniog ondnbsp;Guto Bach, ac o dan ei gesail yr oedd ganddo fwndel onbsp;ddillad. Nid oedd wedi tyfu dim, ac yr oedd yr unnbsp;dillad am dano a phan adawodd ei gartref.

-ocr page 42-

38 Chwedlau Gwerin Cymru

‘Fy mhlentyn annwyl i!’ ebe ei fam. ‘ Ym mha Ic y buost ti cyhyd ? ’

‘ Dim ond ddoe yr euthum i ffwrdd, a bum yn chware gyda’r plant bach,’ ebe yntau.

‘ Ediychwch ar y dillad hardd a gefais ganddynt,’ meddai drachefn, gan agor y bwndel oedd dan ci gesail.

Yna edrychodd ei fam i’r bwndel, a gwelai mai dillad papur oedd y rhain. Yr oeddynt cyn wynnednbsp;a’r eira, ac nid oedd na phwyth na gvvnïad ynddynt ynnbsp;unman.

Gwyddai ei fam yn eithaf da mai dillad y Tylwyth Teg oedd y rhain, a thaflodd hwynt i’r tin, gan rybuddionbsp;Guto i beidio mynd yn agos atynt byth wedyn.

Ond yn fuan ar 61 hyn bu arian y Tylwyth Teg o help mawr i rieni Guto Bach. Yr oedd ci dad a’i fam wedinbsp;casglu tipyn o arian, ond drwy ryw anffawd collasant ynbsp;cwbl, ac ni wyddent i ble i droi i gael arian at fyw.

Ar ochr y bryn heb foci ymhell o’r ty yr oedd carreg fawr, ac yn 61 y traddodiad yr oedd trysor aur o dan ynbsp;garreg. Yr oedd llawer un wedi ceisio symud y garregnbsp;o dro i dro, ond nid oedd neb eriocd wedi llwyddo. Ynnbsp;awr penderfynodd tad Guto Bach geisio symud y garregnbsp;cr mwyn cael yr aur oedd o dani. Gwyddai pawb am einbsp;golled, a chydymdeimlai ei gymdogion ag ef yn fawr, anbsp;daeth llawer yno i’w helpu.

Ond er pob ymdrech ni fedrent symud y garreg yr un fodfedd o’i lie.

Yr oedd Guto’n gwybod bod ei dad wedi colli’r arian, a gwyddai hefyd ei fod yn prydcru yn eu cylch.

‘ Yr oedd gan y plant bach fyddai’n chware gyda mi ar y mynydd ddigon o arian bob amser,’ ebe Guto; ‘ fenbsp;ofynnaf iddynt hwy am fenthyg.’

Yna aeth Guto i’r mynydd fel o’r blaen i edrych am y

-ocr page 43-

Guto Bach nbsp;nbsp;nbsp;39

plant bach. A phan ddeulhant ato dywedodd yr hanes wrthynt, a gofynnodd a fedrent hwy helpu ei rieni.

‘ Na,’ ebe un o honynt, ‘ y mae digon o arian o dan y garreg fawr ar ochr y bryn yn y fan acw.’

‘ Oes,’ ebe Guto, ‘ ond ni fedr neb symud y garreg. Y mae holl wyr yr ardal wedi ceisio ac wedi methu.’

‘ O, fe wyddom hynny,’ ebe hwythau. ‘ A geisiaist Ti symud y garreg erioed ? ’

‘ Naddo,’ ebe Guto dan wenu, ‘ waeth i mi heb na cheisio wedi i bawb arall fethu.’

‘ Dos adre,’ ebe hwythau, ‘ a dos at y garreg gyda’th rieni, a cheisia ei chodi dy hunan.’

Ac aeth Guto Bach adref a dywedodd yr hanes wrlh ei dad a’i fam. Chwarddodd ei dad pan welodd fodnbsp;Guto mor selog i fynd i symud y garreg. Ond yr oeddnbsp;ei fam yn credu yn y Tylwyth Teg, a pherswadiodd einbsp;dad i fynd yno gydag ef, ac yno yr aethant.

Pan ddeuthant at y garreg rhoddodd Guto ei law arni, ac yn y fan dyna hi’n dechreu ysgwyd. Yna gwthioddnbsp;Guto yn ei herbyn, a chododd yr hen garreg o’r ddaearnbsp;gan ddechreu treiglo i lawr dros ochr y bryn.

Ac o dani yr oedd pentwr o aur,—mwy o lawer nag oedd rhieni Guto wedi golli. Ac yn awr teulu Gutonbsp;Bach oedd y bobl gyfoethocaf yn yr holl sir.

-ocr page 44-

IX

NANT YR ELLYLLON

Ar ochr y mynydd ihwng Llangollen a Chastell Dinas Bran y mae Nant yr Ellyllon. Un tro yr oedd bachgennbsp;o’r enw Tudur ab Einion Gloff yn bugeilio defaid yn ynbsp;nant hon, a byddai’n mynd é’r defaid adref gydag ef bobnbsp;nos.

Un noson pan yn cychwyn yn ól gwelai ddyn bychaii yn eistedd ar garreg wrth ymyl y llwybr a ffidil dan einbsp;gesail. Dyn bychan bach ydoedd—y Ileiaf a welsainbsp;erioed. Yr oedd ganddo got o ddail bedw, a helmet onbsp;flodyn eithin am ei ben. Ac am ei draed yr oedd ganddonbsp;esgidiau o adennydd chwilen.

Pan welodd ef Tudur rhedodd ei fysedd dros linynnau’r ffidil, a daeth swn mor rhyfedd o honi nes teimlai Tudurnbsp;fod ei wallt yn sefyll ar ei ben.

‘Nos da, nos da,’ ebe’r gwr bach.

‘ Nos da, syr,’ ebe Tudur.

‘ Credaf dy fod yn hoff o ddawnsio,’ ebe’r gwr bach; ‘ os arhosi yma am funud cei weid y dawnswyr goreu yngnbsp;Nghymru.’

‘ Y fi,’ ebe’r gwr bach gan sythu, ‘y fi yw’r pencerdd.’

‘Pa le mae eich telyn?’ ebe Tudur, ‘ni fedr Cymro ddim dawnsio heb y delyn.’

‘Telyn?’ ebe’r gwr bach yn ddirmygus. ‘ Gal laf fi dynnu gwell miwsig o’r ffidil yma nag o unrhyw delyn.’

Nid oedd Tudur erioed wedi gweld offeryn fel hwn o’r blaen, ac meddai:

‘ Ai ffidil ydyw’r llwy bren yna sydd yn eich Ilaw ? ’

-ocr page 45-

Nant yr Kllyllon nbsp;nbsp;nbsp;41

Ac yna gwelai filoedd o ysbrydion bychain yn dyfod i lawr dros ochr y mynydd, ac yn disgyn i’r nant Ile’r oeddnbsp;ef a’r gwr bach yn sefyll. Yr oedd rhai mewn dilladnbsp;gwynion, rhai mewn glas, rhai mewn pinc, a rhai yn carionbsp;pryf tan yn eu dwylo er mwyn cael goleu. Cerddentnbsp;mor ysgafn fel nad oedd yr un gwelltyn yn plygunbsp;danynt. A phob un yn ymgrymu with fynd heibio’rnbsp;gwr bach.

Yna dechreuodd y gwr bach ganu ei ffidil, a chanai mor swynol nes bod Tudur yn edrych yn syn arno.nbsp;Yna ffurfiodd y Tylwyth Teg eu hunain yn gylchoeddnbsp;gan afael yn nwylo ei gilydd a dechreu dawnsio. Ac nidnbsp;oedd Tudur erioed wedi gweled y fath ddawnsio a hyn.nbsp;Yr oedd awydd mawr arno i ymuno yn y ddawns, acnbsp;yr oedd ei draed a’i ddwylo’n cadw’r amser tra’r oedd ynbsp;gwr bach yn canu. Ond yr oedd arno ofn mynd i'rnbsp;cylch gan y credai’n awr mai y Tylwyth Teg oedd ynbsp;rhain. Yr oedd y miwsig yn mynd yn gyflymach onbsp;hyd, a hwythau’n dawnsio fel y gwynt.

‘ Paham na ddawnsi di Tudur,’ ebe’r gwr bach.

‘Na,’ meddai Tudur, ‘gadewch iddynt hwy ddawnsio, ac fe edrychaf innau.’

Yn wir, yr oedd tipyn o ofn ar Tudur yn awr, ond yr oedd ei draed a’i ddwylo’n mynd yn gyflymach o hyd.nbsp;Ac o’r diwedd neidiodd i ganol y cylch a gwaeddodd:nbsp;‘ Wel yn awr, yr Ysbryd Drwg chware dy oreu.’

Ac ar y gair dyma bopeth yn newid. Diflannodd y blodyn eithin oddiar ben y gwr bach, a daeth dau gornnbsp;gafr allan o’i ben. Aeth ei wyneb cyn ddued d’r huddugl,nbsp;a daeth cynffbn hir allan o dan ei gót. Ac yn 11e esgid-iau o adennydd chwilen yr oedd ganddo draed fforchognbsp;fel traed buwch.

Yr oedd Tudur wedi dychryn yn awr, ond daliai i

-ocr page 46-

42 Chwedlau Gwerin Cymru

ddawnsio o hyd. Yna trodd yr ysbrydion drwg yn bob llun a Iliw. Trodd rhai yn eifr, rhai yn gwn, rhai ynnbsp;llwynogod, a rhai yn gathod. Yr oeddynt yn un haidnbsp;o gwmpas Tudur druan, ac yn dawnsio’n gyflymachnbsp;gy fly mach o hyd. Yr oedd y cwbl yn troi o’i gwmpasnbsp;fel olwyn o dan, a’r gwr bach yn canu ei flfidil o hyd.nbsp;Ac felly y buont drwy’r nos.

Trannoeth daeth ei feistr i chwilio am dano. Cafodd y defaid yn pori fel arfer, ond er ei syndod gwelai Tudurnbsp;yn troi fel olwyn yng nghanol y nant.

‘O meistr, meistr, stopiwch fi ! ’ ebe Tudur.

‘ VVel, Rhad Duw amat,’ ebe yntau. A chyn gynted ag y dywedodd hyn dyna Tudur yn aros yn ei unfan.nbsp;Ac yr oedd wedi dychryn cymaint nes syrthio i freichiaunbsp;ei feistr, ac ni fu llawer o drefn arno byth wedyn.

-ocr page 47-

X

RHYS A LLYWELYN

Un noswaith yr oedd dau was ffarm yn dychwelyd o’u gwaith. Rhys ocdd enw’r naill a Llywelyn oeddnbsp;enw’r Hall. Pan oeddynt yn cerdded drwy goedwignbsp;gwaeddodd Rhys:

‘ Ust! a glywi di’r canu yna ? ’

Na chlywaf fi/ ebe Llywelyn, ‘ lyrd yn dy flacn.’

‘ Na,’ ebe Rhys, ‘ yr wyf wedi clywed yr alaw yna ganwaith ac wedi dawnsio iddi: rhaid i mi gael hydnbsp;i’r cantorion yna. Dos di adref os mynni. Fe ddof arnbsp;dy Ó1 cyn bo hir.’

Ac ymaith ê Rhys i ganol y coed, ac aeth Llywelyn adref i fwyta’i swper.

Ar ei ffordd adref credai Llywelyn mai wedi mynd am sbri i’r dafarn yr oedd Rhys ac y deuai’n 61 cynnbsp;y bore. Ond pan ddaeth y bore nid oedd dim hanes onbsp;Rhys yn unman. Yna chwiliwyd am dano ymhobman,nbsp;ond y cwbl yn ofer. Anfonwyd i’r dafarn i edrych anbsp;oedd ef yno, ond nid oedd neb wedi ei weld yn unman.

Yna dechreuodd ei feistr ameu Llywelyn, a chredai rhai mai efe oedd wedi lladd Rhys. Ond tystiainbsp;Llywelyn nad oedd hynny’n wir.

‘ Dywedai ei fod yn clywed canu swynol,’ meddai, ‘ a rhedodd i ganol y coed er mwyn cael dawnsio.’

‘ A glywaist ti’r canu ? ’ ebe ei feistr.

‘ Naddo,’ ebe Llywelyn, ‘ a thybiwn mai esgus oedd ganddo er mwyn cael rhedeg i’r dafarn.’

Ond nid oedd neb yn fodlon ar ateb Llywelyn, ac o’r diwedd carcharwyd ef am lofruddio ei gyfaill. Tystiainbsp;ef o hyd ei fod yn ddiniwed, ac un diwrnod aeth rhainbsp;o'i gyfeillion at ‘ wr cyfarwydd ’ yn y pentre i ofyn einbsp;gyngor.

-ocr page 48-

44 Chwedlau Gwerin Cymru

‘ O,’ ebe hwnnw, ‘ y Tylvvyth Teg sydd wedi ei hudo. Rhaid i chwi fynd yno ynihen blwyddyn a divvrnod.nbsp;Ewch yr un diwrnod a’r un amser ag y collwyd ef,nbsp;ac fe’i gvvelwch ef yn dawnsio gyda’r Tylwyth Teg.’

Ac ymhen y flwyddyn aeth nifer o bobl gyda Llywelyti i’r goedwig. Ac wedi cyrraedd i ymyl y lie, gvvelentnbsp;gylch o dan un o’r coed.

‘ Ust! ’ meddai Llywelyn, ‘ Gwrandewch ! Clywaf ganu swynol. Clywaf swn telynau’n canu.’

A gwrandawodd pawb, ond nid oedd neb yn clywed y canu.

¦ Rho dy droed ar fy nhroed i Dafydd,’ ebe Llywelyn wi th un o honynt.

Yr oedd troed Llywelyn ar ymyl cylch y Tylwyth Teg pan oedd yn siarad, a phan roddodd Dafydd ei droednbsp;yno clywai yntau’r canu. Yna rhoddodd y lleill eu traednbsp;yno y naill ar ol y Hall, ac yn awr clywai pawb y canu.nbsp;Ac yng nghanol y cylch gwelent nifer o bobl yn dawnsio.nbsp;Yr oeddynt yn hynod o fychain, ac yn eu canol yr oeddnbsp;Rhys yn dawnsio mor chwim a hwythau. A phan oeddnbsp;yn mynd heibio iddo gafaelodd Llywelyn yn ei got anbsp;thynnodd ef allan i’i holl nerth.

‘ Gad i mi orffen dawnsio,’ ebe Rhys. ‘ ’Does dim pum munud er pan ddechreuais i.’

‘ Pum munud wir,’ ebe Llywelyn, ‘ Bu bron i mi gael fy nghrogi o’th achos. Tyrd adre’n awr i ddweyd dynbsp;hanes.’

A gorfodwyd ef i fynd adref. Ond er iddynt ei holi nid oedd yn gwybod dim o hanes y bobl oedd yn dawnsionbsp;gydag ef. Dywedai nad oedd wedi mwynhau ei hunnbsp;cystal erioed, ac yr oedd am fynd yn ol atynt eilwaith.nbsp;Ac ni fu llawer o drefn arno ar ol hyn. Yr oedd ynnbsp;brudd a digalon iawn, a bu farw cyn pen llawoi' onbsp;ddyddiau.

-ocr page 49-

XI

LLYN TEG ID

Yn yr hen amser yr oedtl tref hardd yn y fan y saif Llyn Tegid neu Lyn y Bala. Ac yn y dref honno yr ocddnbsp;amryvv o blasau gvvychion. Yn y plasau yr oedd bren-hinoedd a thywysogion yn byvv, ac nid oedd plasaunbsp;tecach na’r rhain yn unman. Yr oedd eu tyrau ynnbsp;ugeiniau o droedfeddi o uchter.

Yng nghanol y dref yr oedd ffynnon fechan o’r enw Ffynnon Gywer. Yr oedd hon bob amser yn Hawnnbsp;o ddvvr gloyvv, a rhoddid caead arni bob nos rhag i’rnbsp;dwr redeg allan o honi a boddi’r dref.

Yn un o’r plasau godidog hynny yr oedd tywysog creulon yn byw. Yr oedd hwn yn galed iavvn withnbsp;y tiodion yn yr ardal ac yn gorthrymu pawb o’i gwmpas.nbsp;Ac o dro i dro yr oedd wedi lladd llarver o bobl ddi-niwed.

Un noswaith dawel pan oedd yn rhodio yn ei ardd, ac yn mwynhau ei hun, clywai lais isel yn sisial:nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;‘ Dial

a ddaw, dial a ddaw, dial a ddaw.’

Ond ni chymerodd ef unrhyw sylw; dim ond chwerthin a gwawdio popeth fel arfer.

Ymhen ychydig ar ol hyn gvvnaed gwledd fawr yn y plas. Gwledd oedd hon ar enedigacth ei fab cyntaf,nbsp;ac yr oedd llu mawr wedi dyfod yno. Yr oedd ynonbsp;frenhinoedd a brenhinesau ; tywysogion a thywysogesau,nbsp;arglwyddi ac arglwyddeeau. Ni fu yno y fath wledd

-ocr page 50-

46 Chwedlau Gwerin Cymru

a hon erioed; digon o ddanteithion a digon o win melys. Ac er mwyn cael canu a dawnsio yr oedd ynbsp;tywysog wedi gofyn i hen delynor o’r ardal ddyfodnbsp;yno gyda’i delyn. Ni fu y fath lawenydd yn un mannbsp;erioed, ac aeth y wledd ymlaen am oriau.

Tua banner nos darfu’r dawnsio, ac aeth yr hen delynor i eistedd i gornel yr ystafell ar ei ben einbsp;hun. Cyn bo hir clywai lais yn sibrwd yn ei glust:

‘ Daw dial, daw dial, daw dial! ’

Trodd yntau ar unwaith, ac wele aderyn bychan yn hofran uwch ei ben, ac yn amneidio arno i’w ddilyn.nbsp;Aeth yntau ar ei 61 ar unwaith.

Wedi mynd allan o’r plas dechreuodd yr hen delynor betruso. Ond daliai’r aderyn i ganu mewn llais lleddfnbsp;a thrist: ‘ Daw dial, daw dial, daw dial! ’

Yr oedd ychydig ofn ar yr hen delynor yn awr a brysiodd i ddilyn yr aderyn. Ac ymaith a hwy drwynbsp;gorsydd, gwrychoedd a llwyni. Ehedai’r aderyn o’inbsp;flaen gan ei arwain ar hyd y llwybrau hawsaf. Acnbsp;os safai’r telynor am eiliad clywai lais yr aderyn ynnbsp;sibrwd ganu; ‘Daw dial, daw dial, daw dial! ’

O’r diwedd cyrhaeddasant ben y mynydd rai militir-oedd oddiwrth y plas. Yr oedd yr hen delynor wedi blino'n awr, a safodd unwaith yn rhagor. Ac er einbsp;syndod ni chlywai lais yr aderyn mwyach. A chan fodnbsp;eisiau gorfifwyso arno, eisteddodd i lawr ar ymyl carregnbsp;fawr. Gwrandawodd yn astud eto, ond ni chlywai ddimnbsp;byd ond swn yr afonig yn llithro dros lethr y mynydd.nbsp;Gwrandawodd drachefn, ond nid oedd llais yr aderynnbsp;i’w glywed o gwbl.

‘ Oni fum yn ffol,’ meddai, ‘ yn cymryd fy nhwyllo fel yna. Mae’n sicr mai dychymyg oedd y cwbl. Fenbsp;df yn Ó1 i’r wledd eto.’

-ocr page 51- -ocr page 52-

XII

PALI GLAN TEIFI

Er’s llawer blwyddyn yn 61 yr oedd hen wraig o’r enw Pali yn byw mewn bwthyn bychan ar Ian yr afon Teifi.nbsp;Yr oedd ei bwthyn mewn lie unig iawn, ac anainl ynbsp;byddai neb yn galw i’w gweld. Ond ambell dro deuai’rnbsp;Tylwyth Teg yno i chvvilio am fenthyg rhywbeth neu’inbsp;gilydd, ac ni fyddai Pali byth yn gwrthod rhoddi dim.

Un tro deuthant ati i ofyn iddi ddyfod gyda hwynt i weini ar un o frenhinesau’r Tylwyth Teg ar enedigaethnbsp;plentyn.

‘ Os gwrthodaf fynd ebe Pall, ‘ efallai mai dial arnaf a wnant ac aeth ar unwaith.

Ac wedi iddi gyrraedd i wlad y Tylwyth Teg arweini-wyd hi i bias mawr hardd. Yn hwn yr oedd y frenhines yn byw, a dyma’r plas harddaf a welsai Pali erioed. Yrnbsp;oedd y llawr yn aur drosto, a dodrefn arian neu wydrnbsp;ymhob ystafell yno. Yr oedd y frenhines a’i babannbsp;mewn gwely hardd iawn a dillad cyn wynned è’r eiranbsp;arno.

Ond er ei syndod nid oedd Pali byth yn gweld neb yno ond y frenhines a’i baban bach. Yr oedd rhywunnbsp;yn gosod digon o fwyd ar fwrdd arian yn ymyl y gwelynbsp;bob dydd. Gosodid hefyd ifrwythau melys, dillad costus,nbsp;a llawer o degannau heirdd ar fwrdd arall. Ond nidnbsp;oedd Pali yn gwybod pwy oedd yn cludo’r pethau hynnbsp;yno bob dydd. Gwneid y cwbl yn ddistaw a dirgelnbsp;hollol.

-ocr page 53-

Pali Gian Teifi nbsp;nbsp;nbsp;49

Gwraig dyner, dawel, ac addfvvyn oedd y frenhines, ac yr oedd y baban hefyd yn dawel a diddig lawn. Nidnbsp;oedd baban bach tlysach na glanach i’w ganfod ynnbsp;unman. Nid oedd byth yn llefain, ac edrychai’n siriolnbsp;bob amser.

Bob nos a bore byddai Pali’n golchi’r baban, ac yn ei iro ag eli a gawsai gan y frenhines.

‘Rhaid i chwi beidio cyffwrdd a’r eli ond a’ch Haw,’ ebe’r frenhines wrthi y dydd cyntaf yr aeth hi yno.nbsp;‘ A chofiwch beidio rhoi dim o hono yn agos i’chnbsp;llygaid.’

A bu Pali yno am ddyddiau lawer yn gweini ar y frenhines a’r baban. Byddai’n gweld pethau rhyfeddnbsp;iawn yno weithiau, ond ni fyddai byth yn gofyn dim bydnbsp;yn eu cylch.

Un diwrnod wedi iddi orffen iro’r baban dechreuodcl ei llygaid gosi, a rhwbiodd hithau hwynt heb olchi ei dwylo.nbsp;Ond cyn gynted ag y gwnaeth hynny, gwelodd y rhy-feddodau mwyaf a welsai eidoed. Gwelai fod yno gann-oedd o wyr a gwragedd bychain yn cerdded yn ól a blaennbsp;drwy’r plas. Yr oedd pob un yn gweithio d’i holl egni,nbsp;a phob un yn symud drwy’r ystafell mor ysgafn ag awejnbsp;y bore.

Yr oedd llawer o honynt yn glanhau’r ystafell, ond y rhan fwyaf yn darparu pethau i’r frenhines a’r baban.nbsp;Ni welodd Pali neb erioed mor brysurnac mor ddeheuig,nbsp;a phob un am y goreu i wneud rhyw garedigrwydd i’rnbsp;frenhines a’i phlentyn. Deallai Pali’n awr pwy oedd ynnbsp;gosod y bwyd a’r tegannau ar y byrddau, A bu yn eunbsp;gvvylio am ddiwrnod cyfan heb yngan gair with y frenhines, ac yn rhyfeddu at bopeth a welai.

Yn yr hwyr y noson honno, heb feddwl dim drwg, dywedodd Pali wrth y frenhines:

270G nbsp;nbsp;nbsp;D

-ocr page 54-

50 Chwedlau Gwerin Cymru

‘Y mae llawer wedi galw yma i’ch gweled heddyw, onid oes ? ’

‘ Sut y gwyddoch chwi hynny ? ’ ebe hithau’n gyfifrous. ‘ A roesoch chwi’r eli ar eich llygaid? ’

Ac ar hynny neidiodd o’i gwely a chwythodd ar ei llygaid.

‘ Yn awr,’ ebe hi, ‘ ni welwch chwi ddim rhagor.’

Ac yn y fan diflannodd y cwbl o olwg Pali, ac ni welodd hi mo’r Tylwyth Teg byth ar ol hynny.

-ocr page 55-

XIII

SION SIENCYN

Yn yr hen amser byddai llawer iawn o’r Tylwyth Teg i’w gweld ym Mhant Sion Siencyn yn Sir Gaerfyrddin.nbsp;Un bore braf yn yr haf yr oedd dyn ieuanc yn cerddednbsp;drwy Bant Sion Siencyn ar ei ffordd at ei waith. Ac hebnbsp;fod ymhell o’i Iwybr yr oedd coeden fawr a dyfai ynonbsp;er’s oesau. A’r bore hwnnw clywai’r gwr ieuanc rywnbsp;aderyn yn canu’n swynol iawn yn yr hen goeden. Nidnbsp;oedd wedi clywed y fath fiwsig erioed, ac wedi gwrandonbsp;ychydig aeth at y goeden.

‘ Wei, wel,’ meddai wrtho’i hun, ‘ ni fu’r fath ganu a hwn erioed. Fe arhosaf yma nes iddo dewi beth bynnag.’

Ac wedi i’r aderyn orffen canu, cododd ac aeth yn ei flaen. Credai ef nad oedd wedi bod yno ond ychydignbsp;funudau. Ond pan edrychodd i fyny gwelai fod yr hennbsp;goeden wedi crino.

‘ Pan eisteddais i yma,’ meddai, ‘ yr oedd yn wyrdd ac yn Hawn o ddail. Beth sydd wedi digwydd iddi tybed?’

Ac yn lie mynd yn ei flaen penderfynodd fynd adref yn ol. Ond wedi cyrraedd y ty synnwyd ef yn fwy fyth.nbsp;Yn lle’r ty a adwaenai ef, gwelai hen dy yno wedi einbsp;orchuddio ag eiddew. O flaen y drws safai hen wrnbsp;crynedig, ac nid oedd ef yn ei adnabod.

‘Wel, beth sydd arnoch chwi eisiau heddyw,’ebe’r hen wr wrtho.

‘ Beth sydd arnaf eisiau yma! ’ ebe yntau’n ffromllyd. ‘ Pwy wyt ti i’m rhwystro i ddod i mewn i’m ty fynbsp;hun? ’

D a

-ocr page 56-

52 Chwedlaii Gwerin Cymru

‘ Dy djgt; dy him, wir,’ ebe’r Hall. ‘ Beth sy’n bod ? Yr wyt wedi colli dj' synnwyr neu rh}quot;\vbeth.’

‘ Ble niae fy nhad a mam ? ’ ebe yntau drachefn : ‘ Dim ond rhyw banner awr yn 61 y gadewais y ty. Bum ynnbsp;gwrando ar fiwsig peraidd o dan yr hen goeden favvr amnbsp;ryw ychydig. Ond pan godais i fynd yr oedd yr hennbsp;goeden wedi gwyvvo.’

‘ Wedi gwywo ! O dan y goeden! Miwsig!! ’ ebe’r Hall. ‘ Beth yvv dy envv ? O ble y deuthost ti yma ? ’

‘ Sion Siencyn yvv fy envv’, ebe yntau, ‘ ac yn y ty yma yr oeddwn yn byvv rhyw banner awr yn 61.’

‘ Wei, vvel ’, ebe’r Hall, ‘ a dyma chvvi wedi dychvvelyd o’r diwedd. Eich nai ydvvyf fi. Ble yn y byd mavvr yrnbsp;}'dych wedi bod. Dyvvedwch eich hanes.’

Edrychai Sion yn syn a gwelw, ac ni fedrai ddvveyd dim ond, — ‘ Miwsig! ’ ac ‘ O dan y goeden! ’

‘ Mi glywais fy nhaid yn són am danoch,’ ebe’r hen vvr wcdyn. ‘ Cwynai lawer ar eich 61. Chwiliwydnbsp;Havver am danoch, ond y cvvbl yn ofer. Wedi iddyntnbsp;eich colli aeth fy nhaid at yr hen Gadi Madog. Dyvved-odd yr hen Gadi eich bod wedi eich hudo gan y Tylwythnbsp;Teg, ac na chawsech ddod yn rhydd hyd nes y byddai’rnbsp;hen goeden favvr wedi gwywo.’

Yna gafaelodd yn ei law ac arweiniodd ef i’r ty. Ond wedi iddo gerdded cam neu ddau yn ci flaen, syrthioddnbsp;Sion i lavvr ar riniog y drws, a diflannodd o’i olwg felnbsp;cawod o Iwch.

-ocr page 57-

XIV

Y GIST AUR

Yn yr hen amser yr oedd gwehydd yn byw mewn 11e o’r enw Llun'g heb fod ymhell o Bentiefoelas. Dafyddnbsp;oedd ei enw, a Dafydd y Gwehydd fyddai pawb yn einbsp;alw.

Un tro wi th fynd dros y mynydd i’r Bala cyfarfu ddau o’r Tylwyth Teg, ac meddai un o honynt wrtho:

‘ Dilyn ni ac fe ddanghoswn i ti y Gist Aur, a thi fydd biau’r aur sydd ynddi, ond i ti ei chario adref.’

Dyn tlawd oedd Dafydd ac yr oedd yn awyddus iawn i gael yr aur, ac yn 11e mynd yn ei flaen i’r Balanbsp;aeth ar eu holau. Wedi cerdded ani rai milltiroeddnbsp;dros ochr y mynydd, deuthant i gwm cul mewn 11enbsp;dirgel yr ochr arall i’r mynydd.

Wedi cyrraedd pen draw y cwm deuthant at y gist, ac yr oedd ei Hond o aur. Nid oedd neb erioed wedinbsp;gweld hon o’r blaen, ac yr oedd Dafydd with ei foddnbsp;yn awr.

‘ Ni fydd raid i mi weu byth eto,’ meddai wrtho’i hun. Ond yr oedd mewn penbleth fawr sut i gario’rnbsp;aur adref. Yr oedd y gist yn rhy drom iddo fedrunbsp;ei chario ei hunan, ac yr oedd yn rhaid iddo gymrydnbsp;meddmnt o honi ar unwaith.

‘ Fe wn beth a wnaf,’ meddai, ‘ fe blannaf fy ffon yng nghanol yr aur,’ a gwthiodd ei ffon ar ei phen i’wnbsp;ganol.

Yna aeth adref i ddweyd yr hanes with ei wraig. Oud wedi gadael y gist edrychodd yn ól droeon ernbsp;mwyn bod yn sier ei bod yno o hyd. A chan gredu einbsp;bod yn hollol ddiogel, brysiodd adref gyda’r newydd da.

-ocr page 58- -ocr page 59-

Y Gist Aur nbsp;nbsp;nbsp;55

Wedi cyrraedd y ty adroddodd yr hanes wrth ei wraig, ac yr oedd hithau cyn falched ag yntau. Ondnbsp;yn anffodus yr oedd yn rhy hwyr i fynd yn 61 inbsp;gyrchu’r aur y noson honno.

‘ Fe awn i nol yr aur bore yfory,’ ebe Dafydd wrth ei wraig. ‘A chofia beidio yngan gair yn ei gylchnbsp;wrth neb heno. Os gwnei di, fe fyddwn yn sicr onbsp;ddigio’r Tylwyth Teg, a cholli’r aur.’

Ac addawodd hithau gadw’r peth yn ddistaw tan drannoeth. Ond er hynny i gyd yr oedd hi’n awyddusnbsp;iawn i ddweyd wrth wraig Sam y Felin am yr aurnbsp;oedd Dafydd wedi gael. A phan aeth Dafydd allannbsp;o’r ty, rhedodd i’r Felin, ac adroddodd yr hanes wrthnbsp;wraig y Felin. Yna aeth adre’n 61, ond ni sonioddnbsp;ddim gair wrth Dafydd iddi fod yn y Felin.

Bu’r ddau’n eistedd with y tan am oriau’r noson honno, yn siarad am y fifortiwn ac yn trafod eu dyfodol.nbsp;A chan iddynt fynd i’r gwely’n hwyr, yr oedd yn hwyrnbsp;cyn iddynt godi drannoeth. Ond wedi codi brysioddnbsp;y ddau i’r cwm lle’r oedd Dafydd wedi gadael y gistnbsp;aur, ac erbyn iddynt gyrraedd yno yr oedd y gist a'rnbsp;ffon wedi diflannu. A gorfu i’r ddau ddyfod adre’n 61nbsp;wedi eu siomi’n fawr.

Ni soniodd yr un o’r ddau ddim gair wrth Sam y Felin am hyn. Ond un cyfrwys oedd Sam, acnbsp;ymhen rhai wythnosau yr oedd yn amlwg i bawb mainbsp;i’r Felin yr oedd y Gist Aur wedi mynd. Yr oeddnbsp;gan Sam ddigon o arian yn awr.

Yr oedd ef a’i wraig wedi codi’n fore iawn ac wedi cario’r Gist Aur i’r Felin cyn i Dafydd a’i wraig gych-wyn o’r Llurig. Ac er na ddywedodd hi air byth am'nbsp;y peth, gwyddai gwraig Dafydd yn eithaf da mai hi oeddnbsp;yr achos iddynt golli’r Gist Aur.

-ocr page 60-

XV

HEN WRAIG HAFOD RUGOG

Ffermdy bychan oedd Hafod Rugog mewn cwm anial ac unig. Nid oedd yno ond rhyw ddvvsin o dai,nbsp;ond yn y creigiau ar lethrau’r cwm yr oedd amrywnbsp;o dyllau lie y byddai’r Tylwyth Teg yn byw.

Anaml iawn y byddai neb yn gweld y Tylwyth Teg, ond weithiau aent i’r tal i chwilio am fenthyg rhywbethnbsp;neu’i gilydd. Ambell dro benthyg blawd fyddai eisiau ;nbsp;dro arall, llaeth neu ymenyn. Yn aml iawn byddentnbsp;yn benthyca padell a graded i grasu bara, ac yn dèlnbsp;am gael benthyg fel hyn, byddent yn gadael arian arnbsp;y cerrig.

I Hafod Rugog y byddent yn mynd y rhan amlaf i fenthyca. Ac os byth y gwnai’r hen wraig nacau,nbsp;byddent yn sier o ladrata rhywbeth; neu ynte fyndnbsp;i’r cae a godro’r gwartheg yn lan erbyn y bore.

Un noson ym mis Mehefin deuthant i lawr i Hafod Rugog i fenthyca bara, ac meddai’r hen wraig wrthynt:

‘ Ceweh ar un waith, ond i chwi addaw dau beth i mi.’

‘ Beth yw hynny ? ’ ebe un o honynt.

‘ Fod i’r peth cyntaf y rhoddaf fy Ilaw arno wrth ddrws y ty, dorri; ac hefyd, fod i’r peth cyntaf a gyffyrddaf‘'gt;^i.,v.lt;nbsp;wedi mynd i’r ty', estyn banner IHth,’ ebe hithau.

Ac er mwyn cael y bara addawodd y Tylwyth Teg roddi iddi ei dymuniad,

Yn ymyl drws Hafod Rugog yr oedd carreg fawr ym mur y ty, a chan ei bod ar ei ffordd i fynd a dod i’rnbsp;ty yr oedd ar yr hen wraig eisiau ei symud. Ac ar

-ocr page 61-

Hen Wraig Hafod Rugog 57

y garreg honno yr oedd ganddi ddefnydd syrcyn gwlanen; a chan fod hwnnw banner Hath yn rhy fyr yr oedd am einbsp;estyn.

Y diwrnod hwnnw, wedi i’r Tylwyth Teg ymadael, aeth yr hen wraig yn 61 at ei gwaith. Cario mawnnbsp;i’r ty yr oedd, a chawell trwm ganddi ar ei chefn.nbsp;A phan oedd hi wrth ddrws y ty llithrodd ar y cerrig,nbsp;a bu bron iddi syrthio ar ei hyd. Ac er mwyn arbed ynbsp;cawell rhoddodd ei Haw ar ben ei chlun, ac yn y fannbsp;fe dorrodd ci chlun.

Yna Husgodd yn araf i’r ty mewn poen mawr. Ac wedi mynd i mewn, digwyddodd roddi ei Haw ar einbsp;thrwyn, ac yn y fan fe estynnodd ei thrwyn bannernbsp;Hath.

-ocr page 62-

XVI

Y GORS GOCH

Un noswaith, vvedi mynd i’w gwely, clywai teulu’r Gors Goch ryw swn rhyfedd o amgylch y ty. Yrnbsp;oedd pawb yn methu gwybod beth oedd yn gwneudnbsp;y fath swn a hithau mor hwyr. Defifrodd y gwr a’rnbsp;wraig, a chyn bo hir defifródd y plant hefyd. Ondnbsp;ni fedrent ddweyd yr un gair. Yr oedd eu tafodaunbsp;wedi glynu yn nhaflod eu genau.

O’r diwedd cododd y gwr a gwaeddodd :

‘ Pwy sydd yna ? Beth sydd arnoch eisiau ? ’

A dyna lais main oddiallan yn ateb:

‘ Eisiau 11e cynnes i wisgo am y plant.’

Agorodd yntau y drws, a dyna banner Hond y ty o Dylwyth Teg yn dyfod i mewn. A dechreuasantnbsp;chwilio am badell a dwr i olchi’r plant. Yna wedinbsp;gwisgo am danynt eilwaith, dechreuasant ganu a dawn-sio; ac yno y buont dan y bore. A phan dorroddnbsp;y wawr aethant ymaith gan adael swm o arian ar ynbsp;pentan.

Ar 61 hyn deuthant yno’n fynych iawn, a byddent bob amser yn gadael arian ar yr aelwyd yn ddl amnbsp;eu llety. Ond un tro yr oedd y wraig wedi gadaelnbsp;ei baban bach yn y ty yn ei grud. Yr oedd hwn ynnbsp;blentyn bach tlws a rhadlon, ac yn annwyl iawn gannbsp;ei fam. A chan nad oedd wedi ei fedyddio newidioddnbsp;y Tylwyth Teg ef, gan adael un o’u plant hwy yn ei le.nbsp;Creadur bach hyll ac anniddig oedd hwn, ac yr oedd

-ocr page 63-

Y Gors Goch nbsp;nbsp;nbsp;59

yn llefain ac yn ysgrechian drwy’r dydd. Ac er ei fod yn bwyta llawer nid oedd yn tyfu dim.

Yr oedd y fam druan bron a thorri ei chalon, ond yr oedd arni ofn dweyd dim wrth neb. Gwyddai pawbnbsp;er hynny fod rhywbeth wedi digwydd i blentyn y Gorsnbsp;Goch. Cyn hir bu’r fam druan farw o hiraeth am einbsp;phlentyn, ac yn fuan iawn bu farw’r plant eraill o hiraethnbsp;ar ei hól.

Yn awr nid oedd neb yn y Gors Goch ond y gwr a’r ellyll bychan. Yn fuan iawn wedi marw’r fam,nbsp;dechreuodd y Tylwyth Teg ddod yno eilwaith i wisgonbsp;am eu plant yn y nos. Ac yn awr yr oeddynt ynnbsp;gadael swm o aur yn 11e arian ar y pentan.

Ymhen amser daeth plentyn y Tylwyth Teg yn aer y Gors Goch ac yn gyfoethog iawn. Efe oedd unnbsp;o ffermwyr cyfoethocaf Gogledd Cymru. A thynanbsp;paham y dywedai’r hen bobl:

‘ Fe ddaw gwiddon yn fawr ond ei bedoli ag aur.’

-ocr page 64-

XVII

lANTO

Yr oedd lanto a’i wraig yn byw mewn bwthyn bychan ar ochr y mynydd yn Sir Benfro. Nid oedd lanto ynnbsp;hoff iawn o weithio, ac felly yr oedd yn bur dlawd.nbsp;Ond er hynny i gyd yr oedd yn hynod o garedig.

Ni fyddai byth yn diffodd y tin yn y nos, ond gadawai iddo gynneu er mwyn i’r Tylvvyth Teg gaelnbsp;ymdwymno wrtho. Ac yn y gaeaf, pan fyddai’n oernbsp;iawn, byddent yn mynd i gegin lanto wedi iddo efnbsp;a’i wraig fynd i gysgu.

Un noson oer iawn deuthant yno fel arfer, a chlywodd lanto un o honynt yn dweyd;

‘ O! fe hoffwn gael tamaid o fara a chaws i’w fwyta. Ond nid oes gan lanto druan ddim ond rhyw damaidnbsp;bach yn y cwpwrdd.’

A phan glywodd lanto hyn, gwaeddodd:

‘ Y mae croeso i chwi ar beth sydd yn y cwpwrdd.’

Ac yna aeth i gysgu.

Bore drannoeth, wedi iddo godi, aeth lanto i’r cwpwrdd i chwilio am grystyn. Ac wedi iddo ei agor gwelai ynonbsp;gosyn mawr crwn, a dwy dorth ar ei ben.

Yna tynnodd y bara a’r caws allan a dechreuodd wneud brecwast. A phan aeth i wneud tan gwelai swllt ar ynbsp;pentan.

‘ Wei, wel! ’ ebe lanto, ‘ dyma Iwc dda. Nid oes angen i mi fynd i weithio’n awr.’

A bore drannoeth wedyn, pan gododd, yr oedd swllt

-ocr page 65-

lanto nbsp;nbsp;nbsp;6i

ar y pentan. Ac yn awr gallai lanto fyw heb weithio dim.

Yr oedd ef a’i wraig yn cael digon o bopeth, ac yn byw’n hapus iavvn. Ond ni wyddai Beti ei wraig o ble’rnbsp;oedd yr arian yn dod, ac yr oedd hi’n ei bocni bob dyddnbsp;eisiau gwybod.

‘Os dywedaf wrthyt,’ ebe lanto, ‘ni chaf geiniog arall.’

‘O,’ ebe hithau, ‘Yr hen Dylwyth Teg sy’n rhoi’r sylltau i ti.’

‘ Wel, wel! ’ ebe lanto. ‘ Sut yr oeddit ti’n gwybod ? ’

Yna rhoddodd ei law yn ei boced, ac er ei syndod nid oedd yno ddim un swllt ynddi. Nid oedd y sylltau oeddnbsp;ganddo yn ddim ond darnau o bapur. Ac ni chafoddnbsp;lanto druan ddim arian gan y Tylwyth Teg byth wedyn.

-ocr page 66- -ocr page 67-

XVIII

MARCH AMHEIRCHION

Arglwydd Castellmarch yn Llyn ydoedd March Amheirchion. Yr oedd hefyd yn un o ryfelwyr y Breninnbsp;Arthur, ac yn wr cyfoethog iawn. Yr oedd yn berchennbsp;llawer o diroedd ac anifeiliaid, aur, arian, a thrysoraunbsp;gwerthfawr. Ond er hynny i gyd nid oedd yn hapus.nbsp;Yr oedd ganddo un peth oedd yn peri gofid mawr iddo,nbsp;ac ofnai beunydd i’w gyfeillion wybod am y peth. Yrnbsp;oedd ganddo glustiau ceffyl!

Gan nad oedd am i neb wybod am hyn, cuddiai ei glustiau rhag i neb eu gweld. Am amser maith Ilwydd-odd i gadw ei gyfrinach rhag pawb ond y sawl fyddai’nnbsp;toni ei wallt. A rhag i’r rheiny ddweyd y gyfrinachnbsp;wi th eraill, yr oedd yn lladd pob un fyddai’n mynd yno inbsp;dorri ei wallt. Yna claddai’r cyrff yn nhir Castellmarch,nbsp;ac ymhen amser tyfodd llwyn o gyrs cryfion yn y fannbsp;honno.

Un diwrnod yr oedd March wedi paratoi gwledd fawr yng Nghastellmarch, ac wedi gwahodd llawer o’i gyfeillion yno. Yr oedd hefyd wedi galw pibydd enwog ynonbsp;i ganu ei bib.

Ar ei ffordd i’r wledd sylwodd y pibydd ar y cyrs ardderchog oedd yn y llwyn, a thorrodd un o honynt inbsp;wneud pib. Ac erbyn cyrraedd yno yr oedd wedinbsp;gwneud pib newydd ardderchog.

Wedi i bawb orfifen bwyta ac yfed gorchmynnodd March i’r pibydd ddechreu canu. Ond pan ddechreuodd chwythunbsp;i’r bib, ni ddeuai dim swn o honi ond ;

‘ Y mae clustiau march gan March Amheirchion ! ’

-ocr page 68-

64 Chwedlau Gwerin Cymru

Pan glywodd March hyn tynnodd ei gleddyf i ladd y pibydd. Gwaeddodd yntau am drugaredd gan ofyn iddonbsp;chwythu i’r bib ei hun. Yna cymerodd March y bib,nbsp;ond ni ddeuai dim swn o honi ond;

‘ Y mae clustiau march gan March Amheirchion ! ’

‘ Pa le y cefaist ti’r bib yna ? ’ ebe March.

A dywedodd y pibydd fod ei hen bib wedi ei gwisgo allan, a’i fod yntau wedi gwneud un newydd gydanbsp;chorsen o’r llwyn a dyfai yng nghae Castellmarch.

A deallodd March mai un o’r cyrs oedd wedi tyfu ar feddau’r rhai oedd ef wedi ladd ydoedd. Yna maddeuoddnbsp;i’r pibydd, ac ni cheisiodd mwyach guddio ei glustiau.

-ocr page 69-

XIX

Y MARCHLYN MAWR

Yng Ngogledd Cymru, rhwng Llandegai a Llanddein-iolen y mac’r Marchlyn Mawr. Y mae creigiau uchel n amgylch y Hyn, ac yng nghanol y creigiau y maenbsp;ogof fawr.

Un tro yr oedd mab y Rhiwen wcdi colli dafad, ac wi th chwilio am dani ymysg y creigiau ar fin y llyn daethnbsp;i’r ogof. Ac wedi mynd i mewn iddi, darganfu ynonbsp;drysorau gwcrthfawr ac arfau heirdd. Pan gyrhaeddoddnbsp;y liane yno yr ocdcl yn dechreu tywyllu, ac yr oeddnbsp;dringo oddiyno yn waith anodd iawn hyd yn oed yn ynbsp;dydd.

‘ Mae’n well i mi fynd adref heno,’ ebe yntau, ‘ a dyfod yma eto bore yfory: fe fydd yn haws gweld y try.soraunbsp;liw dydd.’

Ac adref yr aeth, ond ni soniodd air wrth neb am yr ogof

Bore drannoeth. ar lasiad y dydd, cychwynnodd eilwaith i’r ogof; a daeth o hyd iddi heb lawer iawn o drafferth.nbsp;Ac wedi mynd i mewn, gwelai y trysorau fel o’r blaen.

Ar ganol yr ogof yr oedd bwrdd enfawr o aur pur, ac ar y bwrdd yr oedd coron o aur, a llawer o berlau gwerth-fawr. Deallodd y liane ar unwaith mai coron a thrysor-au’r Brenin Arthur oeddynt. Yna nesaodd at y bwrdd.nbsp;Ond pan estynnodd ei law i afael yn y goron hardd,nbsp;dyna drwst mawr megis mil o daranau’n rhwygo’r 11enbsp;uwch ei ben. Ac aeth yr ogof cyn dywylled a’r fagddu.

Yr oedd y liane wedi dychrynu’n awr, a rhedodd allan

-ocr page 70-

66 Chwedlau Gwerin Cymru

cyn gynted ag y medrai. Wedi iddo gynaedd i ben y creigiau edrychodd yn 61, ac wele, yr oedd y llyn ynnbsp;fervv drwyddo. Ac yr oedd y tonnau’n golchi’n W3^nnbsp;dros y creigiau hyd at ei draed.

Yna ar ganol y llyn gwelai gwrwgl, a thair o ferched hardd ynddo. Nid oedd erioed wedi gweld merched C3^nnbsp;hardded a’r rhain : yr oeddynt fel tair brenhines. Ondnbsp;yr oedd golvvg erchyll ac ofnadwy ar y gvvr a rw3quot;fai’rnbsp;cwrwgl. A phan welodd y llanc ef yn rhwyfo at enau’rnbsp;ogof, rhedodd adref am ei fywyd. Ni fu ei iechyd ynnbsp;dda byth ar ol hyn, a byddai hyd yn oed crybwyll enw’rnbsp;Marchlyn yn ddigon i’w yrru’n wallgof.

-ocr page 71-

/'

XX

RHITA GAWR

Unwaitii yr oedd dau frenin ym Mhrydain, a’u henwau oedd Nynio a Pheibio. Un noson oleu-leuad yroeddyntnbsp;yn mynd am dro gyda’i güydd, ac meddai Nynio withnbsp;Peibio:nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;ct,

Edrych ar y maes eang a theg sydd gennyf fi.’ nbsp;nbsp;nbsp;r.-

Ble mae ef ? ’ ebe Peibio.

‘ Dacw fe ebe Nynio, ‘ yr wybren glir i gyd.’

‘ A weli di’r miloedd o wartheg a defaid sydd gennyf fi’ii pori yn dy faes di ?' ebe Pheibio.

‘ Ble maent hwy?’ ebe Nynio.

‘Dacw hwynt,’ ebe Peibio, ‘y Hu ser disglair acw a weli di, a’r Hoer yn eu bugeilio.’

‘ Ni chant hwy ddim pori yn fy maes i,’ ebe Nynio.

‘ O, cant,’ ebe Peibio.

Ac fel hyn y dechreuodd y ddau ffraeo, nes o’r diwedd arwain i ryfel rhyngddynt. A lladdwyd llawer iawn o’unbsp;gwyr yn y rhyfel.

Clywodd Rhita Gawr, brenin Cymru, am y rhyfel a’r difrod, ac ymosododd arnynt. Ac wedi gorchfygu’r ddaunbsp;torrodd ymaith eu barfau. Yna clywodd yr wyth breninnbsp;ar hugain eraill am hyn, ac ymunodd y cwbl i ddial arnbsp;Rhita Gawr am dorri barfau’r ddau frenin. Ond gorch-fygodd Rhita y rhain hefyd, a thorrodd eu barfaunbsp;hwythau. Ac yn awr yr oedd barfau deg ar hugain onbsp;frenhinoedd ganddo.

Pan glywodd brenhinoedd y gwledydd cyfagos am hyn, casglasant eu byddinoedd at ei gilydd i ymosod ar

E a

-ocr page 72-

68 Chwedlau Gwerin Cymru

Rhita, i ddial y sarhad a wnaethai i’vv cyfetllion. Y tro hwn bu rhyfel erchyll iawn, ond gorchfygodd Rhitanbsp;Gawr drachefn.

‘ Dyma fy maes eang a theg innau,’ ebe Rhita. ‘ A dyma’r anifeiliaid a borai fy maes i; ond mi a’i gyrraisnbsp;hwynt allan oil, ac ni chant bori yno mwyach.’

Yna gorchmynnodd dorri barfau y rhain hefyd, ac a’r barfau hyn i gyd gvvnaeth fantell favvr iddo’i hun. Yrnbsp;oedd Rhita Gawr gymaint a dau ddyn cyffredin, ondnbsp;cyrhaeddai’r fantell o’i ben i’w sawdl.

Yna anfonodd Rhita gennad i lys Arthur i erchi iddo yntau hefyd dorri ei farf, a’i hanfon iddo i'w gosod ar ynbsp;fantell. Ond pan glywodd Arthur hyn yr oedd yn ddignbsp;iawn.

‘ Myn fy nghledd ! ’ ebe Arthur, ‘ fe gaiff Rhita farw am hyn.’ A chasglodd Arthur ei fyddin ynghyd, a bunbsp;brwydr fawr rhyngddo a Rhita Gawr.

Bu’r ddau’n ymladd law yn Haw am amser maith. Ond o’r diwedd, cododd Arthur ei gleddyf anferth anbsp;tharawodd Rhita ar ei ben nes ei hollti yn ei banner.nbsp;Ac felly y bu farw Rhita Gawr, a chladdwyd ef ar ben ynbsp;mynydd uchaf yn Eryri. Rhoddodd pob un o’i filwyrnbsp;garreg ar ei fedd, a galwyd y mynydd hwniiw ynnbsp;Wyddfa Rhita.

-ocr page 73-

GEIRFA

Addaw, to promise. addfivyn, gentle.nbsp;aer, heir.nbsp;age7t, deft.nbsp;angharedig, unkind.nbsp;anghojio, to forget.nbsp;alaw, air (in music).nbsp;ambell dro, sometimes.nbsp;amddifad, orphan.nbsp;ameu, to doubt.nbsp;amneidio, to beckon.nbsp;anferth, huge.nbsp;anffawd, misfortune.nbsp;anial, wild, uncultivated.nbsp;anniddig, peevish.nbsp;ardderchog, excellent.nbsp;arfau, armour.nbsp;arglivydd, lord.nbsp;arglwyddes, lady.nbsp;arwydd, sign.nbsp;astud, attentive.nbsp;awyddrts, eager.

Barf, beard.

bedv), birch.

bedyddio, to baptize.

benthyca, to borrow.

benthyg, loan.

berw; yn ferw, boiling.

beunydd, daily.

blwck, box.

bodlon, content.

boddhau, to please.

bdneddiges, lady.

boneddwr, gentleman.

bradychu, to betray.

breuddwydio, to dream.

brwynen; bf'ivyr, rash j rushes

brysio, to hasten.

huarth, farmyard.

bu^ail, shepherd.

bugeilio, to watch sheep.

bwa saeth, bow and arrow. bwndel, bundle.

brvriadu, to intend ; to purpose.

Caead, cover, lid. canfic, he saw.nbsp;cann, white, flour.nbsp;caniatdd, permission.nbsp;canllaw, hand rail.nbsp;cannwyll, candle.nbsp;carlani, gallop.nbsp;cawell, hamper, basket.nbsp;cawrj cewri, giant; giants.nbsp;cellwair, joke, fun.nbsp;cenhedlaeth, generation.nbsp;cennad, messenger.nbsp;cesail, arm-pit.nbsp;cilfach, nook, creek.nbsp;cist, chest.nbsp;dun, hip, thigh.nbsp;corlan, sheepfold.nbsp;corrach, dwarf.nbsp;cars, bog.

corsenj cyrs, reed ; reeds.

corun, crown of the head.

cosbi, to punish.

cosyn, a single cheese.

crafanc, talon, clutch.

creulon, cruel.

crib, comb.

crock, harsh, loud.

croeso, welcome.

crogi, to hang.

crud, cradle.

erwydro, to wander.

errvydryn, tramp.

crybwyll, to mention.

crystyn, crust.

cut, narrow.

ewrr, edge.

cwrrv, beer.

cwrwgl, coracle.


-ocr page 74-

diffodd, to extinguish. digalo7tni, to dishearten.nbsp;digwydd, to happen.nbsp;diniwed, innocent.nbsp;dirgel, secret.nbsp;dirmygus, contemptuous.nbsp;disglair, brilliant.nbsp;disgyn, to descend.nbsp;dodrefn, furniture.nbsp;dmchcfn, again.nbsp;drain, thorns.nbsp;drannoeth, the day after.nbsp;drysi, briars.nbsp;dychryn, terror.nbsp;dychrynu, to frighten.nbsp;dyclvwelyd, to return.nbsp;dychymyg, imagination.nbsp;dyfalte, to guess.nbsp;dyfeisio, to devise.nbsp;dyfodol, future.nbsp;dyrnaid, handful.

Rang, wide, immense. ebol, colt.

edmygu, to admire. efallai, perhaps.nbsp;egni, effort.nbsp;eiddew, ivy.nbsp;eiliad, a second.nbsp;eilhiti, furze.nbsp;eli, ointment.nbsp;ellyll, elf.nbsp;enfawr, huge.nbsp;en-wedig, especial.nbsp;eas, nightingale.nbsp;erchi, to ask.nbsp;erchyll, horrible.nbsp;erfyn, to request.nbsp;esgus, excuse.nbsp;esmwyth, smooth.nbsp;etifedd, heir.

Fagddu, utter darkness.

Ffidil, fiddle. fforchog, cloven, forked.nbsp;ffbrtiwn, fortune.nbsp;ffraeo, to quarrel.nbsp;ffromllyd, full of rage.

70 nbsp;nbsp;nbsp;Geirfa

cwyno, to complain. cyc/myn, to start.nbsp;cydio, to take hold of.nbsp;cydymdeimlo, to sympathize.

lt;^yf‘^SOs, near, neighbouring. cyfeiriad, direction.nbsp;cyfeirio, to direct.nbsp;cyjle, opportunity.nbsp;cyfleus, convenient.nbsp;cyflogi, to hire.nbsp;cyfraith, law.nbsp;cyfrinach, secret.nbsp;cyfrwys, cunning.nbsp;cyff’O, stir, commotion.nbsp;cyffrous, exciting.nbsp;cyffwrdd, to meet, to touch.nbsp;cyngor, advice.nbsp;cyhyd, as long.nbsp;cylch, ring, circle.nbsp;cymdogtot!, neighbours.nbsp;cynhyddu, to increase.nbsp;cynllunio, to plan.nbsp;cynnil, thrifty, saving.nbsp;cyrchH, to fetch.

Chwaith, neither. chwenv, bitter.nbsp;chwibanu, to whistle.nbsp;chwilen, beetle.nbsp;chwim, nimble.nbsp;chwith, left (hand).nbsp;chwythic, to blow.

Danteithion, dainties. darganfu, he discovered.nbsp;darllaw, to brew.nbsp;darparu, to prepare.nbsp;deduydd, happy.nbsp;defnydd, use.nbsp;defnyddio, to use.nbsp;deffro, to wake.nbsp;dcheuig, skilful.nbsp;del, pretty, neat.nbsp;denu, to attract.nbsp;dial, vengeance.nbsp;diddig, contented.nbsp;difetha, to destroy.nbsp;diflannti, to disappear.nbsp;difrod, waste, desolation.

-ocr page 75-

71

71

Geirfa

hyll, ugly.

Iro, to anoint, to rub.

ffrwyn, bridle.

ff'Hnud,yr un ffunud a, exactly like.

ffurjio, tq form.

Gafael, to hold. gufr; geifr, goat; goats.nbsp;gefell, gefeilliaid, twins.nbsp;genau, mouth.nbsp;genedigaeth, birth.nbsp;glasiad, arlasiady dydd, at daybreak.

gloyw., bright. godidflg, excellent.nbsp;gorchfygu, to overcome.nbsp;gorchudd, cover, veil.nbsp;gorchymyn, to command.nbsp;gorfodi, to compel.nbsp;gorthrymu, to oppress.nbsp;gradell, iron plate to bake breadnbsp;upon.

grudd, cheek. gwaedd, cry, shout.nbsp;gwaelod, bottom.nbsp;gwallgojy mad, insane.nbsp;gwdihixj, owl.nbsp;givehydd, weaver.nbsp;givelw, pale.nbsp;gwiddon, witch.nbsp;gwledd, feast.nbsp;gTvnïad, seam.nbsp;gwraidd, roots.nbsp;gwr cyfanvydd, wizard.nbsp;givrych, hedge-row.nbsp;gwylltineb, rage, fury.nbsp;gwywo, to wither.nbsp;gyrru, to drive.

Hagr, ugly. hela, to hunt.

hehvriaeth, game, hunting. hiraeth, longing.nbsp;hofran, to hover.nbsp;holi, to question.nbsp;hoUt, cleft.nbsp;holm, to cleave.nbsp;hudlath, magician’s wand.nbsp;hudfl, to allure.nbsp;hwsmofi, farm-bailiff.

Llamu, to leap. llanc, youth.nbsp;llannerch, open space.nbsp;llawenydd, joy.nbsp;lleddf, gentle, soft.nbsp;lleihrau, slopes.nbsp;lliain, linen, cloth.nbsp;llinyn, string.nbsp;llithro, to slide; to slip.nbsp;llofruddio, to murder.nbsp;lludtv, ashes.nbsp;llusgo, to drag.nbsp;llwch, dust.nbsp;llwybr, path.nbsp;llwyn, grove.nbsp;llwynog, fox.nbsp;llwyr, utter, complete.

Madden, to forgive. mantell, mantle.nbsp;inarch, horse.nbsp;melUith, curse.nbsp;mesen, acorn.nbsp;inodrwyog, ringed, curly.nbsp;mor-fonvyn, mermaid.nbsp;inwmian, to hum.nbsp;mymryn, bit, particle.

Mynfy Nghledd! IJymy Sword!

Neuadd, hall. niwl, mist.

Oesau, ages. offeryn, instrument.nbsp;ogof, cave.

P adel I, pan. pastwn, cudgel.nbsp;pedoli, to shoe.nbsp;pelydrau, rays.nbsp;penhleth, perplexity.nbsp;pencerdd, chief musician.nbsp;pentan, hob.nbsp;peniwr, heap.nbsp;peraidd, sweet.


-ocr page 76-

72

petr-uso, to hesitate. pib, pipe.nbsp;pibydd, piper.nbsp;plisgyn, shell.nbsp;pntnpren, plank bridge.nbsp;prydtru, to be anxious.nbsp;pryf inn, glow-worm.nbsp;pwyth, stitch.

Khadloti, genial, kind. rhieni, parents.nbsp;rhiniog, threshold.nbsp;rhuo, to roar.nbsp;rhuthro, to rush.nbsp;rhivbio, to rub.nbsp;rhnvyd, net.nbsp;rhwygo, to tear. .nbsp;rhwystro, to hinder.nbsp;rhybuddio, to warn.

Sawdl, heel. selog, zealous.nbsp;sibrivd, whisper.nbsp;siomi, to disappoint.nbsp;siriol, cheerful.nbsp;sisial, to whisper.nbsp;sSn, rumour.nbsp;soniodd, he mentioned.nbsp;swta, curt.nbsp;s7vyno, to charm.nbsp;sytlu, to gaze.nbsp;symudiadan, movements.nbsp;syndod, amazement.nbsp;synnu, to be amazed.nbsp;synnwyT, sense.

Geirfa

syrcyn, jerkin.

Taer, importunate. iaflod eu genau, palate.nbsp;taken, forehead.nbsp;taldra, tallness.nbsp;tamaid, morsel.nbsp;tegan, toy.

traddodiad, tradition. trafod, to discuss.nbsp;trafferth, trouble.nbsp;treiglo, to roll.nbsp;ireulio, to wear; to spend.nbsp;troedfeddi, inches.nbsp;trngaredd, mercy.nbsp;trwst, noise.nbsp;twyUo, to deceive.nbsp;iycio, to avail.nbsp;tynged, destiny.

Tylwyth Teg, Fairies. tyrau, towers.nbsp;tystio, to testify.nbsp;tywarchen, sod; turf.

Ufuddhau, to obey.

Weithiau, sometimes. itybren, sky.

Ymdivymtio, to warm oneself. ymgripiodd, he crawled.nbsp;ysbaid, space (of time).nbsp;ysga/n, light (in weight).nbsp;ysgrechian, to scream.nbsp;ystyr, meaning.

Printed in England at the Oxford University Press

-ocr page 77- -ocr page 78-

0.


-ocr page 79- -ocr page 80-