(Anthropos)
CAERNARFON:
CYHOEDDWYD GAN GWMNI’r WASG GENEDLAETHOL GYMREIG (CYF,).
-ocr page 6- -ocr page 7-CYFLWYNEDIG
I
AELODAU
“ B W R. D D Y L L E N 0 B , ” ER COFnbsp;AM
GYMDEITHAS A DYDDANYVCH Y
DYDDIAU FU.
-ocr page 8-TUDALEN.
5
II i6nbsp;20nbsp;22nbsp;25nbsp;32nbsp;36nbsp;41
44
55
Gair o’r Gadair Dadblygiad y Gadair ...nbsp;Cadair Crefyddnbsp;Gadair Gwleidyddiaethnbsp;Cadair y '' Llefarydd ' ’nbsp;Cadair y Barddnbsp;Cadair y Golygyddnbsp;Cadair yr Awdwrnbsp;Y Gadair Wagnbsp;Cadair yr Aelwyd
Cadair Angel
TÜDALEN. |
TUDALEN. | |||
Cadair Goldsmith |
— 5 |
Cadair Bunyan |
37 | |
Cadair Tennyson |
... II |
Cadair Charles |
Dickens |
42 |
Cadair Dr. Watts |
... 16 |
Cadair Longfellow |
44 | |
Cadair y Coroniad |
... 20 |
Cadair Robert |
Roberts, | |
Cadair Shakspeare |
... 24 |
Clynnog |
59 |
Abaut the oak that framed this chair, of old,
The seasons danced their round : delighted wings Brought music to its boughs ; shy woodland thingsnbsp;Shared its broad roof, ’neath whose green gloomsnbsp;grown bold.
Lovers, more shy than they, their secret told : The-resurrection of a thousand Springsnbsp;Swelled in its veins.
Enw un o ddarnau barddonol Cowpernbsp;ydyw “Y Dasg.” Caf-odd ei awgrymu gannbsp;un o gyfeillesau ynbsp;bardd. “ Paham nadnbsp;ydych yn cyfansoddi ?”nbsp;ebai Lady Austen.nbsp;“Nid oes genyf des-tyn,” ydoedd ateb Cowper. “Mi a roddaf i
-ocr page 10-CADEIRIAU ENWOG.
chwi destyn,” ebai hithau, “os ydych yn addaw canu arno.” Ac fel y geilid disgwyl i fardd,nbsp;addawodd yntau wneyd, a hynny cyn gwybodnbsp;beth ydoedd. “ Wei, o’r goreu, cyfansoddwchnbsp;bryddest ddiodl i’r—sofa.” Testyn digon an-farddonol, ynddo ei hun, ond ymaflodd Cowpernbsp;yn y dasg, a chyfansoddodd farddoniaeth ar-dderchog—un o gynyrchion goreu ei awen.
“ I sing the sofa,” meddai, ac wrth wneyd hynny y mae yn talu gwarogaeth i’r testyn syddnbsp;yn cael ei drafod ar ddalennau y llyfr hwn—ynbsp;gadair. Dywed fod gwneuthuriad y gadairnbsp;gyntaf yn gyfystyr a dydd geni Dyfais—“ thenbsp;birthday of Invention.” Ar y dechreu, nid oeddnbsp;ond dernyn digon anolygus o gelfyddyd—
quot; weak at first,
Dull in design, and clumsy to perform.quot;
Ond er fod y dechreu yn syml ac amherffaith, aeth y ddyfais rhagddi nes y daeth y gadair ynnbsp;ddodrefnyn esmwyth, hylaw a chelfydd. Ac os
-ocr page 11-CADEIRIAU ENWOG.
cafodd Cowper ddefnyddiau barddoniaeth yn y sofa, yr ydym ninnau yn credu y gellir caelnbsp;defnydd ychydig sylwadau ymarferol mewnnbsp;cadair. Dyna ein hesgusawd dros alw sylw ynbsp;darllenydd at “ Gadeiriau Enwog,” gyda’rnbsp;amcan o olrhain rhyw gymaint ar eu banes a’unbsp;dylanwad. Nid ydym yn cadw masnachdynbsp;dodrefn, ac nid ydyw dirgelion celfyddyd ynbsp;cabinet-maker wedi eu meistroli genym. Ac nidnbsp;cadeiriau Eisteddfodol sydd yn benaf o flaen einnbsp;meddwl, er fod y rhai hynny yn cael eu cyd-nabod, yn eu tro, yn mysg y Iluaws. Yr ydym,nbsp;yn hytrach, yn edrych ar gadeiriau yn eunbsp;cysylltiad a phersonau, ac a bywyd cymdeith-asol.
Y mae “ cadair ” yn ymadrodd ehang: def-nyddir ef am' bethau tra gwahanol o ran ffurf a maint—cadair y Gymanfa, Cader Idris, amp;c. Anbsp;ydyw “ cadair ” a “ chader ” yn eiriau cyfystyr ?nbsp;Dywed Dr. Owain Puw nad ydynt. Y mae
CADEIRIAU ENWOG.
cader, meddai ef, yn golygu amddiffynfa, neu gaer, megis Cader Idris, cader Bronwen, amp;c.nbsp;Os ydyw yr esboniad hwn yn gywir, y mae ynnbsp;eglur nas gallwn ddodi “ Cader Idris ” ar ynbsp;rhestr sydd yn canlyn ; oblegyd a’r “ gadair ”nbsp;fel eisteddle, ac nid y “gader” fel amddiffynfanbsp;filwrol y mae a wnelom yn bresennol. Fodnbsp;cader Idris yn un o’r “cadeiriau enwog” syddnbsp;anwadadwy, ac y mae Dr. Cynddylan Jones ynnbsp;ei lyfr divveddar ar quot; Primeval Revelation ” ynnbsp;rhoddi esboniad tra gwahanol arni i’r eiddo Dr.nbsp;Puw. Yn ol ei dyb ef, yr oedd Idris yn gyf-ystyr ag Enoch, y “ seithfed o Adda.” Ac yrnbsp;oedd y patriarch hyglod hwnnw, fe ymddengys,nbsp;yn astronomydd,—yn un o rag-redegwyr astro-nomyddion Caldea. Ac yn gymaint ag nadnbsp;ydoedd y telescope wedi ei ddyfeisio ar y pryd,nbsp;yr oedd Enoch a’i gyd-efrydwyr yn cyflenwi ynbsp;diffyg drw'y ddringo y mynyddau, esgyn mornbsp;agos i’r nefoedd wybrenol ag oedd yn bosibl.
-ocr page 13-CADEIRIAU ENWOG.
Ac yn ystod yr ymdeithiau hyn, daeth y patriarch rywfodd i Gymru, a chafodd fod y mynydd sydd gerllaw Dolgellau yn 11e tra manteisiol inbsp;astudio y planedau. Dyna y rheswm iddo gaelnbsp;ei alw, gan oesau dilynol, yn “ Gader Idris.”nbsp;Nid amddiffynfa filwrol j'doedd, ond arsyllfanbsp;seryddol yn moreu’r byd! Yr ydym yn dweydnbsp;hyn ar awdurdod y “Davies Lecture” am 1896.
A chan i mi grybwyll am gader Idris, y mae yn weddus dweyd fod yna gader arall llawernbsp;uwch na honno. Yr enw a roddir ar un o’rnbsp;cydser (constellations) sydd ar gyffiniau y Llwybrnbsp;Llaethog ydyw “ Cassopeia,” yr hyn o’i gyf-ieithu ydyw,—“cader y foneddiges.” Dywednbsp;chwedloniaeth mai un o frenhinesau Ethiopianbsp;ydoedd y foneddiges anturiaethus hon, a osod-odd ei chader yn mysg ser y nef. Dylai hynnbsp;weinyddu C5'sur i amddiffynwyr y “ Newnbsp;Woman.” Dyweded doctoriaid Rhydychain anbsp;Chaergrawnt y peth a fynont ar y pwnc o roddi
-ocr page 14-10
CADEIRIAU ENWOG.
“graddau” i’r rhyw fenywaidd, y mae y “ ser yn eu graddau ” yn cydnabod eu rhagoriaeth.nbsp;“ Cader y foneddiges ” ydyw yr uwchaf drwynbsp;boll derfynnau Natur fawr !
Ond cadeiriau Natur ydyw y rhai’n, ac am hynny rhaid eu gadael, gyda moesgrymiadnbsp;gwylaidd, o’r byd isel a ffwdanus hwn.
Gadawn y “gader” i rywun arall, a cheis-iwn draethu ein dameg am gadeiriau, hen a diweddar.
Nid oes dim yn athronyddol nac yn ddyfn-ddysg yn y sylwadau; ond yr ydym yn dychymygu am ambell ddarllenydd, ar ddiweddnbsp;goruchwylion y dydd, yn eistedd yn ei gadairnbsp;ddewisol, wrth y ffenestr, neu yn ochr y tin, acnbsp;yn mwynhau awr neu ddwy mewn dystawrwyddnbsp;a boddhad, yn nghwmni y cadeiriau hyn, a’rnbsp;cymeriadau sydd wedi eu gwneyd yn enwog acnbsp;yn anfarwol.
YR AWDWR.
-ocr page 15-DADBLYGIAD Y GADAIR.
Dro yn ol, ym-ddangosodd ysgrif yn un o’r cyhoedd-iadau hynny syddnbsp;wedi eu bwriadunbsp;yn a r b e n i g arnbsp;gyfer gweithwyrnbsp;a chrefftwyr einnbsp;gwlad, yn dwyn ynbsp;penawd uchod,—nbsp;dadblygiad ynbsp;gadair. Honai yr awdwr nad oes odid ddim
-ocr page 16-12
CADEIRIAU ENWOG.
sydd yn dangos gweithrediad deddf dadblygiad yn fwy eglur na’r dodrefnyn cyffredin ac adna-byddus hwn—y gadair. O ran defnydd a ffurfnbsp;y mae wedi mynd drwy gyfnewidiadau lawer.nbsp;Arall yw cadair y gegin, ac arall yw cadair ynbsp;parlwr: arall yw cadair y plentyn, ac arall ywnbsp;cadair yr henafgwr. Y fath wahaniaeth syddnbsp;rhwng cadair galed, gefn-uchel yr amser fu, anbsp;chadair esmwyth, glustogaidd, y dyddiau di-weddaf hyn. Yr oedd y naill yn syml anbsp;diaddurn, a’r Hall yn gynyrch celfyddyd ddi-wylliedig.
Y mae yr ysgrif y cyfeiriwyd ati yn olrhain y gadair yn ol i’w ffurfiau cyntefig, ac y maenbsp;y cwestiwn yn ymgynyg,—Pvvy a luniodd ynbsp;gadair gyntaf erioed ? Pwy ydoedd tad ynbsp;drychfeddwl ? Y mae’n eithaf amlwg y dylidnbsp;ei ystyried yn gymwynasydd i wareiddiad.nbsp;Yr ydym yn ddyledwyr iddo am un o gysuronnbsp;penaf ein bywyd tenluaidd a chymdeithaso}.
-ocr page 17-13
CADEIRIAU ENWOG.
Byd rhyfedd i ni, heddyw, fuasai byd heb gadair. Y mae yn un o anhebgorion bywyd.nbsp;Nis gellir gwneyd hebddi mewa bwthyn nanbsp;phalas. Ond ymddengys fod enw a banes yrnbsp;hwn a roddes fod i’r drychfeddwl, fel llawernbsp;dyfais arall, yn gorwedd mewn dirgelwch.
Nid oes neb yn gwybod yn mha gyfnod, neu yn mha wlad yr oedd yn byw. Hyn sydd sicr,nbsp;—yr oedd yn byw yn lied gynar yn oes y byd,nbsp;ac yn un o rag-redegwyr ein gwareiddiad. Ynbsp;mae gwledydd sydd eto heb agor eu llygaid arnbsp;y drychfeddwl: nid ydywcadair yn adnabyddusnbsp;ynddynt. Ond yn mysg cenedloedd gwareidd-iedig y mae y gadair yn bod, ac wedi bod, er’snbsp;llawer dydd. Sonir am dani mewn llenydd-iaeth henafol, ac fe ddywedir fod Plato yn cyfrifnbsp;y gadair yn mysg y “ drychfeddyliau ”—yr idealnbsp;state. Y mae yn cyflawni rhan bwysig ynnbsp;mywyd dyn a chymdeithas. Ac yn yr ystyrnbsp;yna y bwriedir trafod y testyn ar y dalennau
3
-ocr page 18-14
CADEIRIAU ENWOG.
sydd yn canlyn. Nid ydym yn abl i draethu ar gelfyddyd y pwnc. Gwyddom fod i gadeiriaunbsp;eu hanes yn yr ystyr hwn. Y mae llawer onbsp;honynt yn gywreinwaith o’r fath ragoraf; ac ynbsp;mae pobl sydd yn medru porthi eu chwaeth atnbsp;y cywrain yn rhoddi eu bryd, yn mysg pethaunbsp;eraill, ar gasglu cadeiriau o wneuthuriad hynod,nbsp;a hynny am eu bod yn fynegiad, mewn unnbsp;wedd, o athrylith gywrain a chelfydd.
Ond ein hamcan syml ni yn bresennol, ydyw son am gadeiriau fel y maent yn del-weddu gwahanol agweddau ar fywyd personol anbsp;chymdeithasol. Nid y gadair fel dodrefnyn ynnbsp;gymaint, ond y gadair fel drychfeddwl. Yn yrnbsp;ystyr hwn, y mae iddi hanes a dylanwad diam-heuol, ac ni fu y dylanwad hwnnw un amser ynnbsp;gryfach nag ydyw yn y dyddiau presennol.nbsp;Gellir dweyd fod bywyd gwareiddiad yn canol-bwyntio mewn cadair. Os sonir am allunbsp;meddyliol, y mae hwnnw yn ymgorphori mewn
-ocr page 19-15
CADEIRIAU ENWOG.
cadair. Os sonir am awdurdod,—y drych-feddwl o lywodraeth a threfn—y mae hwnnw yn cyfarfod yn yr arwyddlun yma—awdurdod ynbsp;gadair. Os meddylir am anwyldeb a serehnbsp;teuluaidd, y mae hwnnw, hefyd, yn cronni onbsp;gwmpas cadair,—cadair mam a thad, cadairnbsp;oedd yn orsedd, yn allor, yn esmwythfainc yrnbsp;un pryd.
Y mae y drychfeddyliau hyn, a llawer mwy, yn cyniwair o gwmpas y testyn. Bellach,nbsp;rhoddwn dro yn mysg y cadeiriau, gan edrychnbsp;arnynt fel delweddau o fyd y meddwl, felnbsp;arwydd gweledig o ryw ddrychfeddwl ac y maenbsp;dyn a chymdeithas yn ei werthfawrogi. Ernbsp;mwyn rhoddi “ terfyn ar y diderfyn,” ni a’unbsp;dosbarthwn fel hyn:—
1. Cadair Crefydd.
11. Cadair Gwladwriaeth.
III. nbsp;nbsp;nbsp;Cadair Llenyddiaeth.
IV. nbsp;nbsp;nbsp;Cadair yr Aelwyd.
-ocr page 20-CADAIR CREFYDD.
Y MAE a wnelo y gadair' a chrefydd er yn fore.nbsp;Nid awn i olrhain ynbsp;crefyddau paganaidd:nbsp;digon ydyw crybwyll amnbsp;grefydd y Beibl,—nbsp;©r-watU luddewiaeth a Christion-ogaeth, yr Hen Oruchwyliaeth a’r Newydd.nbsp;Yr oedd yn y synagog, yn nyddiau yr lesu, yrnbsp;hyn a elwid yn “ gadair Moses,” a mawr oeddnbsp;y dyhead am dani. “Yn nghadair Moses yrnbsp;eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid.” Nidnbsp;oes cyfeiriad tmiongyrchol ati yn yr Hen Des-tament. Derbyniodd ei henw drwy draddod-
-ocr page 21-17
CADEIRIAU ENWOG.
iad, am mai Moses ydoedd deddf-roddwr mawr y genedl. Dyna gadair y Rabbi luddewig.nbsp;Ond yn ol tystiolaeth yr lesu, yr oedd einbsp;hawdurdod wedi diflannu. Cadair wag ydoedd.nbsp;Nis gallai cadair Moses, fel arwydd gweledig,nbsp;wneuthur dim.
Wedi hyn daeth Cristionogaeth fel anadl bywyd i fysg yr esgyrn sychion. Ar y cyntafnbsp;nid oedd yn perthyn iddi arwyddluniau allanol.nbsp;Ysbryd a bywyd ydoedd; ond y mae’n rhaid inbsp;bob ysbryd wrth ryw gymaint o gorph yn y bydnbsp;hwn. Ymwisgodd ysbryd Cristionogaeth mewnnbsp;corph o gymdeithasau, sefydliadau, a swyddog-aethau. Ac yn mysg y swyddogaethau hynny,nbsp;daeth eiddo yr esgob i feddu uwchafiaeth—nbsp;esgob Rhufain, Carthage, Alexandria, amp;c.nbsp;Perthynai i’r swydd honno ei chadair,—cadairnbsp;yr esgob; ac mewn canlyniad, daeth yr eglwysinbsp;oeddynt yn ganolbwynt mewn talaeth, i gael eunbsp;hadnabod fel eglwysi cadeiriol—cathedrals—ac y
-ocr page 22-i8
CADEIRIAU ENWOG.
mae yr enw yn aros hyd y dydd hwn. Yn y rhai’n y mae cadeiriaju crefydd yn nglyn a’rnbsp;Eglwys Sefydledig.
Ond nid ydyw y gadair yn gyfyngedig i Eglwys Loegr. Y mae gan grefydd, yn rhengaunbsp;yr Anghydffurfwyr, ei chadeiriau lawer. Y maenbsp;anrhydedd ac awdurdod y Cyfundebau Ym-neilldnol yn ymgrynhoi o ddeutu yr arwyddlunnbsp;hwn. Dyna gadair yr Undeb gan yr Annibyn-wyr a’r Bedyddwyr; cadair y Conference gan ynbsp;Wesleyaid ; cadair y Gymanfa gan y Presby-teriaid a’r Methodistiaid. Teimlir dyddordebnbsp;nid bychan yn yr etholiadau hyn, ac y mae yrnbsp;anerchiad o’r gadair yn cael edrych arno felnbsp;mynegiad o feddwl aeddfed y cyfundeb y bo ynnbsp;perthyn iddo ar bynciau duwinyddol a chym-deithasol. Ond er mai yr uchod ydyw prif-gadeiriau crefydd, yn y Cyfundebau Ymneill-duol, y mae yn weddus crybwyll am gadeiriaunbsp;eraill sydd yn meddu cryn ddylanwad a swyn.
-ocr page 23-19
CADEIRIAU ENWOG.
Dyna gadair y Gymdeithasfa Chwarterol, cadair y Cwrdd Talaethol, amp;c. A chadair leol dranbsp;pharchus, gydag un enwad, ydyw cadair ynbsp;Cyfarfod Misol. Gwelir ar unwaith nad ydywnbsp;Ymneillduaeth mwy na’r Eglwys Sefydledig,nbsp;yn brin mewn cadeiriau, ac yn ol yr hynnbsp;ellid gasglu ar adeg ethol llywyddion, nid oesnbsp;brinder dynion i’w llenwi. O’r hyn lleiaf, ynbsp;mae yr awyddfryd am anrhydedd y gadair,nbsp;boed fechan neu fawr, yn cymeryd meddiantnbsp;llwyr 0 lawer.
Dichon y geilid dweyd am rai o’r cadeiriau uchod mai “Treiswyr sydd yn ei chipio hi,”nbsp;ond y maent o fantais, hefyd, i anrhydeddu ynbsp;sawl sydd wedi gwasanaethu crefydd mewnnbsp;modd amlwg a helaeth, ac y mae Ileygwyr, ynnbsp;ogystal a gweinidogion, yn etholadwy ac inbsp;raddau, yn etholedig i’r naill a’r Hall o honynt.
-ocr page 24- -ocr page 25-21
CADEIRIAU ENWOG.
Nhy yr Arglwyddi; ond y mae cadair arall sydd yn meddu ar lawn cymaint o ddyddordeb,—nbsp;CADAIR Y CORONIAD.
Y mae wedi ei lleoli yn monachlog hybarch
Westminster. Nid ydyw y coronation chair ond
dernyn digon caled a diaddurn yr olwg arni,
ond y mae ei hanes yn gydblethedig a banes
a chynydd Prydain Fawr. Yn y gadair honno,
yn y flwyddyn 1837, y derbyniodd ein grasusaf
Frenhines ei choron a’i theyrnwialen. Mewn
gweriniaeth fel eiddo Ffrainc, a’r Unol Dal-
eithiau y mae y deyrngadair yn absennol.
Cadair yr arlywydd ydyw pinacl anrhydedd.
Y mae yr Unol Daleithiau yn ymferwi drwy-
ddynt yn nglyn amp;g etholiad arlywydd. Y
mae y cyffro enfawr, a’r draul anferth yr eir
iddi bob pedair blynedd yn cydgrynhoi mewn
cadair. Ac er fod llawer o ddylanwadau am-
heus ar waith, yn amser etholiad, y mae prif
gadair gweriniaeth yn gadair agored. Gall 3
-ocr page 26-22
CADEIRIAU ENWOG.
bechgyn o’r dosbarth gweithiol, fel Lincoln, Garfield, a Cleveland weithio eu ffordd ymlaennbsp;o’r bwthyn coed i’r Ty Gwyn,—i brif gadairnbsp;eu gwlad.
Ond i ddod yn nes adref. Y mae cadair arall yn nglyn è’r byd gwleidyddol sydd ynnbsp;meddu urddas ac awdurdod mawr. Adwaenirnbsp;hi fel
“cadair y llefarydd,” neu, cadair Ty y Cyffredin. Nid oes cadair ynnbsp;Nhy yr Arglwyddi. Esmwythfainc sydd yno,nbsp;ac y mae y brif eisteddfa yn cael ei galw ynnbsp;“ sach wlan.” Onid yw y geiriau hyn yn dranbsp;nodweddiadol o’r 11e ac o’i breswylwyr ? Cyn-rychiolwyr y bywyd esmwyth, di-ofalon, y rhainbsp;nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu, sydd ynnbsp;cyfarfod yn y Ty hwnnw. Ond y mae awdurdod Ty y Cyffredin,—gweithdy y Wladwriaeth,nbsp;—yn canolbwyntio mewn cadair. Cadair fawr,nbsp;uchel, ydyw; y mae digon o Ie ynddi i banner
-ocr page 27-23
CADEIRIAU ENWOG.
dwsin o bobl gyffredin. Ac yn y gadair bon, mewn gwisgoedd swyddogol, gyda pherwignbsp;urddasol am ei ben, y mae y gwr a adwaenirnbsp;fel “ Mr. Speaker.” Eistedda yn llonydd felnbsp;delw, ond y mae ei lygaid yn craffu ar bobnbsp;ysgogiad. Y mae rheolaeth y Ty wedi ym-gorphori ynddo. A phan gyfyd teimladau ynnbsp;uchel, pan boetha y ddadl, clywir y gairnbsp;“chair” yn dygyfor o’r gwaelodion. Dynanbsp;breswylydd y gadair yn codi, yn mynegi ynbsp;ddeddf, a bu tawelwch mawr. Nis gellir treulionbsp;noson o’r braidd yn oriel Ty y Gyffredin hebnbsp;dderbyn argraff ddigamsyniol o’r gallu dystaw,nbsp;yr awdurdod oruchel sydd wedi eu personoli ynnbsp;y Gadair.
-ocr page 28-CADAIR LLENYDDIAETH.
Gellir dweyd fod yn perthyn i lenyddiaethnbsp;amryw gadeiriau, ynnbsp;amrywio mewn graddnbsp;a gwerth. Ynnbsp;Nghymru, dichonnbsp;mai y brif gadairnbsp;ydyw cadair yr Eisteddfod.
I. CADAIR Y BARDD.
leare
phenol fod yn
Yn unol a thra-ddodiadau y g o r -y mae honno, o ran ei gwneuthuriad, i gadair dderw,—
Cadeiriwyd mewn coed derwen, y Bardd a farnwyd yn ben.
-ocr page 29-25
CADEIRIAU ENWOG.
Nis gellir dweyd gyda sicrwydd beth ydyw oedran y ddefod o gadeirio. Gwyddis fod yrnbsp;Athraw J. Morris Jones, wedi taflu amheuaeth,nbsp;os nad rhywbeth mwy, ar henafiaeth honedig yrnbsp;Orsedd a’i gwasanaeth. Dichon y gwnelai yrnbsp;un peth a’r ddefod o gadeirio. Ond y mae hynnbsp;yn arferiad, bellach, er’s llawer dydd, ac y maenbsp;y dyddordeb a deimlir yn y seremoni gan ynbsp;Iluaws yn anwadadwy.
Y mae “ Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain,” yn trafod pwnc y cadeiriau Eisteddfodol, ac ynnbsp;dadleu dros eu hawdurdod a’u henafiaeth.nbsp;Sonia am Gadair Morgannwg, Cadair Tir larll,nbsp;Cadair y Ford Gron, amp;c.:—
“ Gwedi cwymp Arthur aeth celfyddyd a gwybodaeth dan orchudd, herwydd difrod acnbsp;anrhaith rhyfeloedd gwaedlyd : heb braidd llen-lewyrch yn tywynu i ddeffroi ymgais. Tuanbsp;dechreu y nawfed ganrif ymddangosodd awen-ydd athrylithlawn, goleufyw,—Ceraint Fardd
-ocr page 30-26
CADEIRIAU ENWOG.
Glas o’r Gadair, yr hwn a gododd Gadair ad-gywair wrth gerdd, yn LIandaf, a’r gair cysswyn, ‘ Duw a Phob Daioni.’ A thymanbsp;ddechreu Gadair Morgannwg, yn ymrafael arnbsp;Gadair Beirdd Ynys Prydain, sef, un Caerlleonnbsp;ar Wysg, er mai blynyddau ar ol hynny ynbsp;galwyd hi yn Gadair Morgannwg.”
“ Einion ap Collwyn a ddodes y Gadair gyntaf yn Nhir larll, 11e ei gelwid Gadairnbsp;Einion.”
“Gadair Taliesin, Bardd Urien Rheged yn Llanllychwr a elwid Gadair Fedydd am nasnbsp;geilid Braint Athraw ynddi ond a fyddai dannbsp;fedydd ac adduned y ffydd yn Nghrist; a’r gairnbsp;cysswyn, ‘ Da’r maen gyda’r Efengyl,’ a’rnbsp;gair hynny a fu hyd amser Rhobert, larll Gaer-loyw. A dodi ar gadair Tir larll chwilionbsp;yn maes hen wybodau Barddas; a chwedirnbsp;chwiliaw, a’r caffael, a’r cadarnhad,—dwynnbsp;adwaedd Prif Gadair a Gorsedd, amp;c.” Ond y
-ocr page 31-27
CADEIRIAU ENWOG.
mae ysgrif arall yn rhoddi y flaenoriaeth i’r Ford Gron. “ A goreuon o’r hen ddefodau ynbsp;cafwyd dosbarth y Ford Gron. .nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;.nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;. Ag un
y Ford Gron oedd honno, yn amgen ei threfn na Thir larll .nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;.nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;. A’r ddegfed flwyddyn
cynal ail Eisteddfod Fawr Caerfyrddin, 11e ennillodd Dafydd ap Edmwnt y Gadair Ariannbsp;am ei orchestion a fernid yn oferbwyll celfyddydnbsp;gan feirdd Morgannwg; a Llawdden, yn Ben-cerdd Cadeiriog, a gafodd y Fwyall Aur am einbsp;wellhad ar y cynganeddion, ac ni bu achosnbsp;gwellhau arnynt ymhellach fyth wedi hynny!nbsp;Ac yn yr Eisteddfod honno Beirdd Morgannwgnbsp;a ddodasant eu gwrthneu yn erbyn Dosbarthnbsp;Pedwar Pennill ar Hugain Dafydd ap Edmwntnbsp;.nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;.nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;.nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;. ac o hynny allan aeth Cadair Mor
gannwg ar ei phen ei hunan yn mraint Beirdd Ynys Prydain, ag yn ei chesail Dosparth ynbsp;Ford Gron, fal ag a’i cadarnhaed yno gannbsp;Rhobert, larll Caerloyw, a Mabli ei wraig, y
-ocr page 32-28
CADEIRIAU ENWOG.
dydd y priodasant yn Nghastell Caerdydd.”
Gorchwyl digon cymhwys i’w wneyd ar ddydd priodas, gallwn dybied, oedd cadarnhaunbsp;gwasanaeth gwerthfawr y Ford Gron !
Yn y dyddiau fu, ychydig ydoedd rhif y beirdd cadeiriol, ac nid ydoedd yr un bardd ynnbsp;ennill mwy nac un neu ddwy o gadeiriau mewnnbsp;oes. Erbyn beddyw, y mae genym feirdd ynbsp;pum’ cadair; ac yn gymaint a bod eisteddfodaunbsp;lleol yn cysylltu cadair a’u testynau barddonol,nbsp;y mae gan rai brodyr diwyd ddigon o gadeiriau,nbsp;ysgatfydd, i gychwyn masnachdy dodrefn !nbsp;Ond gydag eithriad neu ddwy, y mae cadairnbsp;yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod ynnbsp;gyfyngedig i’r mesurau caethion—i’r awdl. Ynbsp;canlyniad ydoedd, fod nifer o brif feirdd Cymru,nbsp;yn yr amser aeth heibio, heb eu hanrhydeddunbsp;yn y ffordd hon. Un ohonynt ydoedd Ceiriog,nbsp;un arall ydoedd Islwyn. Ystyrir y ddau, bellach,nbsp;yn mysg awenyddion penaf ein gwlad, ac y mae
-ocr page 33-29
CADEIRIAU ENWOG.
gwyr cymhwys i farnu yn cyfrif rhai o ganeuon Ceiriog, a rhai o bryddestau Islwyn, yn geinionnbsp;ein llenyddiaeth farddonol. Ond yn herwyddnbsp;caethder y mesurau gwarantedig — “ porthnbsp;cyfyng ” y pedwar mesur ar hugain, cawsantnbsp;eu hamddifadu o anrhydedd y gadair. Yrnbsp;oedd darlithydd poblogaidd, yn ddiweddar, ynnbsp;“ diolch i’r nefoedd ” nad ydoedd Islwyn wedinbsp;ennill cadair yr Eisteddfod. Prin y gallwnnbsp;ddodi ein Hamen wrth y gosodiad. Yr ydymnbsp;yn hytrach yn gofidio fod yr Eisteddfod,nbsp;oherwydd culni ei rheolau, wedi colli y cyflenbsp;i roddi parch i’r sawl yr oedd, ac y mae parchnbsp;yn ddyledus. Yr un pryd, parod ydym inbsp;gyffesu fod Cymru wedi ei breintio a darnaunbsp;godidog o farddoniaeth dan oruchwyliaethnbsp;gyfyng y gynganedd, er na chafodd yr oil,nbsp;hwyrach y goreuon o honynt, ddim eu hanrhyd-eddu a chlod y gadair. Y mae “ Elusengarwch ”
Dewi Wyn ; “Dinystr Jerusalem” Eben Fardd;
4
-ocr page 34-30
CADEIRIAU ENWOG.
“ Creadigaeth ” Etnrys; “ Rothsay Castle ” Caledfryn ; “ Heddwch ” Hiraethog; “ Rhag-luniaeth ” Tafolog, amp;c., i’w rhestru yn mysgnbsp;gemau yr iaith.
Golygfa ddyddorol, gofiadwy, fel rheol, ydyw cadeiriad y bardd. Y rnae mor onbsp;wynebau yn amgylchynu y llwyfan. Y maenbsp;y pryder yn dwyshau fel y mae y feirniadaethnbsp;yn mynd rhagddi. Dywedir fod yna bedwar—nbsp;tri—dau—yn rhagori. Y mae y glorian ynnbsp;ysgwyd yn betrusgar am enyd ; ond, dyna ynbsp;fantol yn troi, a ffugenw y buddugol yn caelnbsp;ei floeddio uwch ben y dorf. Dyna rywun ynnbsp;codi yn y seddau cefn, clywir mil o leisiau ynnbsp;ymholi—Pwy ydyw ? Y mae y seindorf ynnbsp;chwareu ymdeithgan y concwerwr. Dyna’rnbsp;bardd ar y llwyfan. Arweinir ef yn ofalus inbsp;ymyl y gadair. Noethir y cledd uwch ei ben,nbsp;a gofynnir y cwestiwn holl-bwysig,—“A oesnbsp;heddwch ? ” Ac wedi cael atebiad boddhaol
-ocr page 35-31
CADEIRIAU ENWOG.
gan y gwyddfodolion, gweinir y cledd, caniateir i’r cystadleuydd ffodus eistedd yn ei gadair,nbsp;a chyhoeddir ef yn brif-fardd y flwyddyn.
Ond y mae wedi digwydd cyn hyn fod y bardd buddugol wedi gado y byd cyn inbsp;ddiwrnod y cadeirio ddod. Felly y bu ynnbsp;nglyn ê,g Eisteddfod Gwrecsam,—yr hon anbsp;gofir fel Eisteddfod Y Gadair Ddu. Nis gallnbsp;neb oedd yn bresennol anghofio’r olygfa.nbsp;Darllenwyd y feirni adaeth fel arferol. Cyhoedd-wyd ffugenw yr ymgeisydd llwyddiannus,nbsp;ond nid oedd yno lef na neb yn ateb.nbsp;Hysbyswyd yn mhen enyd mai y buddugolnbsp;ydoedd Taliesin o Eifion,—yntau fardd gloewnbsp;yn farw’n ei fedd! Dodwyd amlen o frethynnbsp;du ar y gadair; galwyd ar Edith Wynne inbsp;ganu un o alawon wylofus Cymru. Daethnbsp;hithau ymlaen ar y llwyfan, a dechreuodd ganunbsp;nodau lleddfol, hiraethus, “ Dafydd y Garregnbsp;Wen.” Meddiannwyd y dyrfa gan ryw deimlad
-ocr page 36-32
CADEIRIAU ENWOG.
dystaw, dwys; llifai deigryn dros lawer grudd; gorchfygwyd y gantores enwog ei hun, a gorfunbsp;iddi eistedd ar ganol y gan. Y mae yna lawernbsp;adgof, dyddan a phrudd, yn gysylltiedig anbsp;chadair y bardd.
II. CADAIR Y GOLYGYDD.
Cadair anweledig i’r cyhoedd ydyw hon, ond y mae ei dylanwad yn fawr a chynyddol.nbsp;Ychydig mewn cydmariaeth sydd yn gwybodnbsp;nemawr am ochr fewnol bywyd newyddiadurolnbsp;ein teyrnas. Mae’n hysbys fod swyddfanbsp;newyddiadur yn lie rhyfedd. Yn mysg pethau
eraill, y mae yno fod a adwaenir fel d--1 y
wasg. Efe sydd yn cyflawni pob drwg; yn cymysgu llythyrenau, yn torfynyglu ysgrifau,nbsp;ac yn gwneyd troion angharedig a gohebwyrnbsp;diniwaid. Y mae yno wr arall a elwir ynnbsp;foesgar wrth yr enw “ Mr. Gol.” Credir fodnbsp;ganddo dri pheth yn amgylchynu ei bersonol-iaeth ddirgeledig, nid amgen, bwrdd, basged, a
-ocr page 37-33
CADEIRIAU ENWOG.
chadair. Un o’r pethau cyntaf y daw gohebydd i wybod am dano ydyw y bwrdd,—nbsp;bwrdd y golygydd. Y mae bwnw yn llawn, felnbsp;rbeol, nid o drugareddau, ond o ysgrifau o bobnbsp;rbyw fatb. O dan y bwrdd y mae basged—ynbsp;Fasged, ac y mae yna ryw gymundeb dirgel-aidd cyd-rbwng y naill a’r Hall. Y mae ynbsp;fasged ddidostur bon wedi bod yn feddrodnbsp;anamserol i lawer can ac ysgrif fuasent, ondnbsp;cael cbwareu teg, wedi dod yn anfarwol.
Ond y petb penaf ydyw y gadair,—cadair y Golygydd. Dyna ganolbwynt awdurdod; ynbsp;mae gair y gadair bon yn derfynol. Oddiymanbsp;y mae y newyddiadur yn derbyn ei gyfeiriad a’inbsp;nod. Ac i bawb sydd yn ymsyniol o ddylan-wad y wasg, fe gydnabyddir ei fod o’r pwysnbsp;mwyaf i’r gadair bon gael ei llanw gan wyrnbsp;egwyddorol a cbraff. Y mae erthyglau ynbsp;“papyr newydd,” lief ddystaw fain y wasgnbsp;ddyddiol ac wythnosol, yn meddu dylanwad
-ocr page 38-34
CADEIRIAU ENWOG.
aruthrol. Dyna un peth sydd yn cysylltu difrifwch a chadair y golygydd. Dylan wadnbsp;amhersonol ydyw, i raddau pell, ond y maenbsp;yn ddylanwad er hyny. Y mae y gynulleidfanbsp;sydd yn darllen ac yn astudio y bregeth ynnbsp;fwy, lawer pryd, nac eiddo y darlithyddnbsp;cyhoeddus mwyaf poblogaidd. Ac y maenbsp;temtasiynau y swydd yn gryfion ac yn danbaid.nbsp;Hud-ddenir y newyddiadurwr, drwy gyfrwngnbsp;aur ac arian, i ddarn-geln ffeithiau, ac i werthunbsp;ei gydwybod er mwyn gwobr. Ond y maenbsp;genym wyr wrth lyw y wasg nas gellir eunbsp;prynu yn y modd hwn. Y mae Mr. Fred.nbsp;A. Atkins, yn un o’i lyfrau dyddorus, yn adroddnbsp;banes George Jones, perchenog y New Yorknbsp;Times. Yr oedd yn gyfaill i Horace Greeley,nbsp;yr oedd y ddau yn cychwyn eu prentisiaethnbsp;tua’r un adeg. Argraffwyr oeddynt, ac ym-laddasant frwydr galed ag anffodion boreu oes.nbsp;Daeth y ddau i New York, a gwnaethant
-ocr page 39-35
CADEIRIAU ENWOG.
iddynt eu hunain enw arhosol ar faes newydd-iaduriaeth Americanaidd. Daeth George Jones, yn olygydd a pherchen y Tribune, a phrofoddnbsp;ei hun yn wr egwyddorol a diofn. Yr oeddnbsp;twyll masnachol yn cael ei ddwyn ymlaen ynnbsp;ddirgelaidd yn y blynyddau hyny dan yr enwnbsp;“Tweed ring.quot; Daeth y ffeithiau i ddwylawnbsp;George Jones, a phenderfynodd eu dadlenu gernbsp;bron y byd. Yn y cyfamser, anfonwyd un onbsp;swyddogion cudd y ring at y newyddiadurwr,nbsp;a chynygiodd iddo filiwn o ddoleri, ar yrnbsp;amod iddo beidio cyhoeddi y ffeithiau oeddnbsp;yn ei feddiant. Miliwn o ddoleri, ddarllenydd.nbsp;Dyna y bribe fwyaf y mae hanes am dani,nbsp;ond cafodd ei gwrthod, gyda diystyrwch, anbsp;chyhoeddwyd y dadleniad cywilyddus yn ynbsp;Tribune fore drannoeth. Well done, Georgenbsp;Jones. A oedd yn Gymro nis gwyddom.nbsp;Gobeithiwn ei fod. Gwyddom am wr arallnbsp;sydd wedi aberthu swydd golygydd, oedd yn
-ocr page 40-36
CADEIRIAU ENWOG.
cynwys cyflog o ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn yn hytrach na chefnogi llenyddiaeth ynbsp;“ gamblo ” yn y newyddiadur oedd o dannbsp;ei ofal. Dynion o’r egwyddorion hyn ddylainbsp;fod yn llanw cadair y golygydd yn nabobnbsp;swyddfa newyddiadurol o fewn y deyrnas.nbsp;Pe ceid hynny, deuai y newyddiadur ar bobnbsp;achlysur, yn bregethwr cyfiawnder, ac ynnbsp;apostol purdeb.
in. CADAIR YR AWDWR.
Nid ydyw hon yn gadair swyddogol. Y mae yn haeddu ei hanrhydeddu ar gyfri’rnbsp;ffaith fod rhywun wedi bod yn ei defnyddionbsp;i ysgrifenu yr hyn nad a i dir anghof; rhywnbsp;ddernyn llenyddol sydd yn cael ei ddarllen,nbsp;eilwaith a thrachefn, gyda mwynhad. Dynanbsp;gadair John Bunyan, lie yr ysgrifennwyd ynbsp;breuddwyd anfarwol; cadair Walter Scott, lienbsp;yr ysgrifennwyd rhamantau cynhyrfiol y canol-oesoedd; cadair Carlyle, lie y bu efe yn
-ocr page 41-37
CADEIRIAU ENWOG.
chwysu ei ymenydd gyda’r traethodau cawraidd hynny sydd wedi cynhyrfu ac angerddoli cynifernbsp;o feddyliau eraill. A oeddynt yn gadeiriaunbsp;drudfawr ac addurniadol ? Nac oeddynt.nbsp;Cadeiriau celyd, plaen, oeddynt, wedi ennbsp;bwriadu nid i helpunbsp;dyn i gysgu, ond i’wnbsp;gadw yn effro. Yrnbsp;ydym yn f a 1 c h onbsp;gael ymollwng i’r
gadair esmwyth ar III ' nbsp;nbsp;nbsp;Mfeï?
ddiwedd y dydd, pan wedi blino, ac ynnbsp;11 u d d e d i g gan ynbsp;daith. Ond nid oes neb hyd yma wedi llwyddonbsp;i wneyd gwaith bywyd oddiar ea%y chair.
Yn nghofiant y diweddar Stowell Brown,
ceir y cynghor a ganlyn:—“ Gochelwch yr
esmwythfainc.” I efrydydd y rhoddwyd y
cynghor ar y dechreu, ac y mae yn anhawdd 5
-ocr page 42-cael ei well. Anfantais i ddyn astudio ydyw presenoldeb y sofa a’r gadair esmwyth. Inbsp;amcanion meddyliol y mae y bwrdd plaen a’rnbsp;gadair galed yn llawer mwy pwrpasol. Osnbsp;trown ein golwg i’r gorphenol, ni a gawn fodnbsp;y Ilyfrau hynny sydd wedi gadael eu hargraffnbsp;ar y byd,—y Ilyfrau na byddant feirw,—wedinbsp;eu cyfansoddi o dan amgylchiadau digon celyd.nbsp;Nid oddiar sofa yr ysgrifenwyd Epistolau Paul;nbsp;yn nghell oer a diaddurn y carchar y rhoddwydnbsp;ffurf i amryw o honynt. Cyfansoddodd Luthernbsp;luaws o’i lyfrau tra yn garcharor yn nghastellnbsp;y Wartburg. Dywedir mai mewn ystafellnbsp;syml, heb ddim braidd ynddi ond bwrdd noethnbsp;a chadair dderw galed, y bu Jonathan Edwardsnbsp;yn Ilunio ei draethawd dyfnddysg ar “ Ryddidnbsp;yr Ewyllys.” Gwyr pawb mai yn ngharcharnbsp;Bedford, heb un esmwythfainc yn agos ato,nbsp;y bu Bunyan yn ysgrifenu ei freuddwyd an-farwol. Mae yn dra thebyg pe cawsai athrylith
-ocr page 43-CADEIRIAU ENWOG. 39
y tincer ei suo i gysgu ar lythau y palas, y buasai y byd heb “ Daith y Pererin.” Mae yn hysbysnbsp;ddigon mai ysgrifenydd diflin ydoedd Johnnbsp;Wesley, eithr nid mewn easy chair yr oedd ynnbsp;cyfansoddi, ond yn hytrach na cholli mynydnbsp;o amser, fe ysgrifenai ei feddyliau tra ynnbsp;marchogaeth o’r naill dref a dinas i’r Hall inbsp;bregethu efengyl y deyrnas. Nid oddiarnbsp;esmwythfainc yr ysgrifenwyd banes teithiaunbsp;dyddorus Livingstone a Stanley, a Hu o lyfraunbsp;eraill y geilid eu henwi. Mev^^n gair, y maenbsp;moethau yn angeuol i bob gorchest feddyliol.nbsp;Rhaid cosbi y corff a’i ddwyn yn gaeth, os ywnbsp;y deall a’r rheswm i gael chwareu teg. Pannbsp;yn myned i fyfyrgell ambell frawd, a gwelednbsp;y sofa harddwych un ochr i’r ystafell, a’r gadairnbsp;fraich ddofn, esmwyth, o flaen y tan, nis gallwnnbsp;lai na meddwl am gynghor Stowell Brown,—nbsp;Gochelwch yr esmwythfainc! I efrydydd, ynbsp;mae honno fel Dalilah yn ei demtio i dreulio
-ocr page 44-40
CADEIRIAU ENWOG.
ei amser mewn oferedd, a pha beth bynnag oedd ei allu neu ei ragoriaethau yn y gorphenol, dawnbsp;yn fuan fel “gwrarall.” Nis gall “ymysgwyd”nbsp;o flaen y cyhoedd megys cynt, a daw astudionbsp;yn faich ac nid yn fwynhad. Ac wrth ynbsp;bechgyn diwyd hynny sydd yn ymroi i ddarllennbsp;a meddwl dan anfantais, y dywedwn,—Nanbsp;chwenychwch yr esmwythfainc. Y mae yrnbsp;awr a ysbeilir oddiar y duw dwl cwsg yn ynbsp;boreu cyn myned at orchwylion y dydd, neunbsp;y seibiant a dreulir mewn ystafell ddiaddurnnbsp;wedi i waith y diwrnod fyned drosodd, ynnbsp;ddysgyblaeth feddyliol o’r fath oreu. Y maenbsp;amser a brynir yn ddrud fel yna yn sier onbsp;ddwyn ffrwyth ar ei ganfed, Clywais aml inbsp;fachgen meddylgar o weithiwr yn dweyd;—nbsp;“ Beth pe cawn ddiwrnod cyfan i ddarllennbsp;Ilyfr ? Beth pe buasai gennyf ystafell harddnbsp;a Ilyfrgell helaeth i mi fy hun! ” Credai nanbsp;fuasai dim yn sefyll o’i flaen; mai darllen a
i
-ocr page 45-41
CADEIRIAU ENWOG.
myfyrio a wnaethai yn ddibaid. Ond, yn fynych, y mae dwy awr neu dair a gysegrirnbsp;i astudiaeth o ganol gorchwylion bywyd, ynnbsp;llawer mwy bendithiol i ddyn na meddu ynbsp;pethau y mae llu o bobl ieuainc yn tybiednbsp;mai hwy ydynt anhebgorion llwyddiant medd-yliol. Gwell o lawer, fy nghyfaill ieuanc, i tinbsp;yn yr ystyr uchaf, ydyw yr ystafell gyffredin, ynbsp;bwrdd bach, y ganwyll ddimai, y gadair galed,nbsp;a’r ychydig lyfrau a ddarllennir gennyt yn awr,nbsp;na phe y dodid di mewn ystafell wech, o flaennbsp;bwrdd mahogany, ac ar y sofa fwyaf melfedaiddnbsp;y geilid meddwl am dani. Cred a chofianbsp;gynghor y dyn doeth a da a nodwyd yn barod.nbsp;Melldith llu o efrydwyr yn y dyddiau hyn ydywnbsp;esmwythfeinciau.
Y Gadair Wag. — Y mae yna ddarlun adnabyddus yn dwyn yr enw uchod,—“ Ynbsp;gadair wag.” Gadair Charles Dickens ydyw, ynnbsp;Gad’s Hill. Nid oes dim yn hynod ynddi fel
-ocr page 46-42
CADEIRIAU ENWOG,
dodrefnyn, heblaw y ffaith mai ynddi hi yr ysgrifennwyd y gweithiau hynny sydd wedinbsp;creu gwenau a thynu dagrau o lygaid myrdd.
Yn y gadair honno y cyfansoddwyd “David Copperfield,” a “ Bleak House.” Yno y saer-nïwyd cymeriadau dihafal Pickwick, Weller,
-ocr page 47-43
CADEIRIAU ENWOG.
Micawber, Oliver Twist, a Little Nell. Y mae oriel cymeriadau Dickens yn cynnwys cyd-gasgliad rhyfedd ac amrywiaethol, ac nid enwaunbsp;dychymygol ydyw y rhan fwyaf ohonynt. Yrnbsp;ydys yn teimlo eu bod yn sylweddau byw, acnbsp;yn dod i’w earn, neu eu cashau yn angerddol.nbsp;Onid oes amryw o’r cymeriadau hyn, bellach,nbsp;wedi dod yn enwau ystrydebol ar y dosbarth anbsp;gynrychiolid ganddynt ? Do, bu cadair Dickensnbsp;yn ganol-bwynt i ysbrydion drwg a da i gyd-grynhoi, a chafodd amryw ohonynt enw a nodnbsp;a erys am lawer oes.
Ciliodd yr awdwr ohoni ryw brydnawn,— byth i ddod yn ol. Ac nid oedd neb fedrainbsp;lanw ei le. Cadair wag ydyw, ac a fydd ynbsp;gadair honno mwy.
-ocr page 48-CADAIR YR AELWYD.
Prif nodwedd y gad-1/ /ƒ /ƒ // /ƒ \ nbsp;nbsp;nbsp;air hon ydyw anwyl-
deb a sereh. Y mae yn perthyn iddinbsp;awdurdod, ond nidnbsp;awdurdod noethnbsp;ydyw; awdurdod wedinbsp;ei wisgo a hyfrydwch. Nid athrylith, nid talent,nbsp;sydd yn llywodraethu y gadair hon. Einbsp;harwyddair ydyw tiriondeb a hynawsedd. Ynbsp;mae adgofion boren oes yn blethedig am daninbsp;fel yr eiddew am y pren. Cadair mam a thad,nbsp;brawd a chwaer,—gymaint o stori bywyd syddnbsp;wedi derbyn ei hystyr o’r mannan hyn! Y
-ocr page 49-45
CADEIRIAU ENWOG.
mae Eliza Cook wedi canu llawer dernyn a lithra i dir angof, ond y mae ganddi un gan,nbsp;o leiaf, sydd i fyw,—“ Hen Gadair Fraich fynbsp;Mam.”
I love it, I love it; and who shall dare
To chide me for loving that old arm-chair ?
I’ve treasured it long as a sainted prize;
I’ve bedewed it with tears, and embalmed it with sighs;
’Tis bound by a thousand ties to my heart ;
Not a tie will break, not a link will start.
Would ye learn the spell ? a mother sat there ;
And a sacred thing is that old arm-chair.
Nid oes odid yr un bardd wedi canu ei adgofion, heb fynd i’r gongl wrth y tan, lie yrnbsp;oedd cadair yr aelwyd yn disgwyl rhywun adrefnbsp;gyda’r nos. Mor naturiol ydyw y desgrifiadnbsp;canlynol gan Gian Alun :—
Mi wela nhad mewn cadair freichiau fawr,
(Mae’r gadair hon yn arcs hyd yn awr)
A’i goesau ’mhleth, a’i bibell yn ei law,
Yn swyno pob gofalon blinion draw.
6
-ocr page 50-46
CADEIRIAU ENWOG.
Yn m\vg y bibell bêr yn ddigon peil,
Tra sugnai drwy ei phig feddyliau gwell. Eisteddai mam i wnio o flaen y tdn,
Neu ynte i olrhain yr Ysgrythyr Lan.
Ac ambell air i nhad, neu sèn i mi Am guro cefn y gath, neu dynu clust y ci;
Fy mrawd a'm chwaer ar fainc, a rhwng y ddau
Y nbsp;nbsp;nbsp;forwyn henaf oedd yn prysur wau,
Ychydig o’r naill du 'roedd llencyn brèc Yn dysgu y forwyn fach yr A B C ;
A minnau ar fy stol yn ddigon siwr Rhwng mam a nhad, nid y distadlaf wr;
Y nbsp;nbsp;nbsp;tanüwyth mawr yn taflu siriol wres,
Nes oeddwn bron a mygu gan ei dês.
O maes fe glywir storm, gauafaidd swn,
Plith oeraidd fref y fuwch, ac udiad cwn ; Ffenestri a drysau gan y gwynt a gryn ;
Yn ngw^Il y nos fe welir eira gwyn,
A gwlaw a chenllysg mawr heb drugarhau O bryd i bryd yn curo'r gwydr brau.
Ni wna y gwynt a’r gwlaw ac oil yn nghyd Ond gwneyd teimladau’r teulu yn fwy clyd ;
Ar ol pob rhuthr fe grynhoa y rhes,
Yn nes yn nghyd, ac at y tan yn nes.
Yn fuan dygir yr hen Feibl mawr
A’i amgudd gwyrdd oddiar y silfE i lawr ;
Fy nhad a’i gadach dj^n y man-lwch draw Oddiar ei spectol, yna gyda Ilaw
-ocr page 51-47
CADEIRIAU ENWOG.
Ofalus, try ddalenau’r Beibl cu Sy braidd yn waeth o’r mynych droi a fu.
Ac wedi darllen rhan o’r Dwyfol Air,
A sylw bychan arno, plygu wnair;
A nhad ddyrchafa ei grynedig lef,
Mewn gweddi a mawl teuluaidd tua'r nef.
Mi glywais fwy hyawdledd lawer tró,
Ond neb ni cherais ddilyn fel y fó;
Yn fyr, ond yn gynwysfawr, ac yn llawn,
O buraidd ysbryd, os nid mawredd dawn.
Ond o’r holl böetau, nid oes neb wedi
ymdroi gyda’r aelwyd yn fwy na Longfellow.
Bardd yr aelwyd ydyw ef; ac nid oes hyfrytach
cwmni ar hirnos gauaf, pan y byddo dyn yn
gweled gweledigaethau yn y fflam, ac yn
clywed anthem yr ystorm yn ymdaith yn aml-
der ei grym. Yr aelwyd, ebai Longfellow,
ydyw y Garreg Filldir Aur, a chanolbwynt
sereh ydyw y gadair ger y tan :—
Ar yr aelwyd yr eistedd henafgwyr methedig,
A gwelant adfeilion dinasoedd, yn Iludw y marwor ;
Gofynnant yn brudd,
I’r gorphenol am yr hyn na ddychwela.
-ocr page 52-48
CADEIRIAU ENWOG.
Ar yr aelwyd yr eistedd breuddwydwyr ieuengaidd,
A gwelant gastelU aml-dyrog, ac euraidd binaclau, Gofynnant yn syn,
I'r dyfodol am yr hyn na fedd iddynt.
Yr aelwyd yw'r aur garreg filldir,
Oddiyno mae dynion yn mesur Pellderoedd y daith,
A throion maith bywyd o’u deutu.
Ar ymdaith bellenig mae dyn yn ei chanfod,
Mae’n clywed y gwynt yn rhuo’n y simddai,
Yn clywed yr ymgom,
Fel bu lawer cyfnos, sydd wedi diflannu,
Gallwn godi anneddau mwy gwych a godidog,
Gallwn lanw’r ystafell a dodrefn mwy costfawr ;
Ond nid oes un golud AU brynu dedwyddyd,
AU adfer adgofion claerwynion ein mebyd,
Tan gastanwydden eang, saif Yr quot; efail gofquot; pentrefol;
Y gof, grymus ol wr yw ef,
A dwylaw mawr gewynol,—
Cyhyrau’i freichiau cryf sydd fel Ffunenau heyrn o nerthol.
-ocr page 53-CADEIRIAU ENWOG. nbsp;nbsp;nbsp;49
Week in, week out, from morn till night.
You can hear his bellows blow ;
You can hear him swing his heavy sledge,
With measured beat and slow,
Like a sexton ringing the village bell.
When the evening sun is low.
Desgrifia y plant yn dychwelyd o’r ysgol ar brydnawn, yn cil-edrych drwy ddrws yr efail,nbsp;ac yn ymddigrifo gyda’r gwreichion,—
And children coming home from school Look in at the open door ;
They love to see the flaming forge.
And hear the bellows roar.
And catch the burning sparks that fly Like chaff from a threshing floor.
Ac yn mhen blynyddau lawer, pan oedd y bardd wedi croesi trothwy deg a thriugain oed,nbsp;y mae plant y “pentref” hwnnw yn ei anrhegunbsp;a chadair wedi ei llunio o goed y pren,^—ynbsp;chestnut tree—3. anfarwolwyd yn y gan. Y maenbsp;yntau yn ei derbyn, yn eistedd ynddi, ac amnbsp;enyd y mae llanw Amser yn troi yn ol er mwyn
-ocr page 54-50
CADEIRIAU ENWOG.
iddo weled golygfeydd y dyddiau gynt. Dyma ei brofiad ar y pryd, pan yn eistedd yn y gadairnbsp;a anfonwyd iddo fel arwydd o sereh y plant: —
i. I
I see again, as one in vision sees,
The blossoms and the bees.
And hear the children’s voices shout and Call, And the brown chestnuts fall.
I see the smithy with its fires aglow,
I hear the bellows blow;
And the shrill hammers on the anvil beat The iron white with heat.
And thus, my children, have you made for me. This day a jubilee.
And to my more than three-score years and ten. Brought back my youth again.
Y fath ydyw swyn cadair yr ael'wyd yn mhob gwlad. Y mae’n dod, rywfodd, yn thannbsp;o’n bywyd. Nid ydym yn teimlo yr un moddnbsp;gydag unrhyw ddodrefnyn arall. Ond os byddnbsp;dyn yn trigiannu am ysbaid yn yr un ystafell,nbsp;ond odid na fydd iddo gysylltu ei bun é. rhywnbsp;gadair arbenig. Ei gadair ef ydyw. Nid ydyw
-ocr page 55-51
CADEIRIAU ENWOG.
mor gysurus yn yr un arall. Y mae y gadair ac yntau yn ffurfio cyfathrach, yn dod i ddeallnbsp;eu gilydd ! Y mae yn ei chynyg, ambell waith,nbsp;i ryw gyfaill fo yn galw, ond nid yw yn meddwlnbsp;iddo ei chymeryd, ac os yn ddyn doeth nidnbsp;ydyw yn debyg o wneyd hynny. Y mae ynanbsp;ryw berthynas gyfrin yn ymffurfio rhwng dynnbsp;a’i gadair, sydd yn mynd yn gryfach, ac ynnbsp;anwylach o hyd. “Nerth arferiad,” meddir;nbsp;eithaf posibl, ond fod yna ryw nerth ar waithnbsp;sydd yn eglur i bawb. At hyn yr oedd ynbsp;diweddar Fynyddog yn cyfeirio yn ei gan hapusnbsp;i “ Gartref.” Yr oedd wedi bod ar grwydr,nbsp;ond o’r diwedd, y mae yn dychwelyd i’r hennbsp;gynefin. Ac y mae yn credu fod pobpeth yn einbsp;roesawu yn ei ffordd ei hun, y ci a’r gath, ie,nbsp;a’r gadair lie yr eisteddai fin nos,—
Mae’r hen gadair hithau,
Yn estyn ei breichiau,
A bron a dweyd geiriau o gariad.
I %
-ocr page 56-52
CADEIRIAU ENWOG.
Gosodwn werth ar y gadair hon, —cadair yr aelwyd, cadair anwyldeb a sereh. Ceisiwn einbsp;llanw a’i phriodoleddau dymunol ei hun.nbsp;Dichon fod yna lawer o gadeiriau na chawn ynbsp;fraint o eistedd ynddynt. Ychydig sydd ynnbsp;llwyddo i esgyn i gadair anrhydedd ac enwog-rwydd, ond y mae cadair yr aelwyd yn agosnbsp;atom, ac yn gyfleusdra rhagorol i ddadblygu yrnbsp;ochr oreu i gymeriad, rhinweddau y galon,nbsp;tiriondeb, a sereh. Os gwneir hynny yn ynbsp;blynyddau sydd yn dod, fe gedwir dylanwadaunbsp;bywiol a phur yn ein gwlad.
Y mae llwyddiant y gyfundrefn addysgawl sydd wedi ei sefydlu yn ein plith yn dibynu inbsp;fesur mawr ar nodwedd yr addysg a gyfrennirnbsp;o gadair mam a thad. Y mae rhyw ddylan-wad, da neu ddrwg, sydd ymron yn annileadwy,nbsp;yn cael ei gyfrannu yn y llanerch gysegredignbsp;hon. Pan y mae blagur sereh ac edmygedd ynnbsp;dechreu ymagor, pan y mae y meddwl yn
-ocr page 57-CADEIRIAU ENWOG. 53
dyner ac iraidd,—dyna’r pryd y mae gwersi’r aelwyd yn diferu eu balm neu eu wermod ar ynbsp;galon a’r cóf. Os bydd addysg tad yn yr adegnbsp;hon yn “ addysg dda; ” os bydd deddf yr aelwyd yn “ gyfraith trugaredd a gwirionedd,” ynanbsp;gellir disgwyl i’r sawl a feithrinir dan ei dylan-wad ddod i garu doethineb, ac i ymhyfrydu ynnbsp;llwybrau deall. Y mae cadair mam yn seddnbsp;frenhinol; y mae’n perthyn iddi deyrnwialen anbsp;choron. Teyrnwialen aur cariad a hynawsedd,nbsp;ac nid gwialen haiarn gorfodaeth a gerwindeb.nbsp;Tra y cedwir y gadair deuluaidd yn gysegredignbsp;i burdeb a rhinwedd, yna bydd awdurdod ynbsp;“goron”yn ddiogel. Coronir ymdrechion yrnbsp;aelwyd ag nfudd-dod a pharchedigaeth, ac nisnbsp;gall ysbryd yr oes ddenu y Cymro ieuanc inbsp;wadu addysg tad, nac i ymado ê, chyfraith einbsp;fam.
Ac yn yr ystyr hwn, cadair yr aelwyd ydyw
yr uwchaf, yr ardderchocaf o’r oil. Hon yw y 7
-ocr page 58-54
CADEIRIAU ENWOG.
gadair bennaf. Y mae anrhydedd, awdurdod, ac anwyldeb yn cyd-ymgrymu uwch ei phennbsp;fel y cerubiaid uwchben y drugareddfa. Acnbsp;wedi i’r anwyliaid fuont yn eistedd ynddinbsp;gael eu galw i wlad yr angel a’r delyn, y maenbsp;rhyw ysbryd gwyn yn sibrwd am danynt, fel ynbsp;dywed Islwyn am ei fam :—
Ai breuddwyd mawr ei rin,
A gefais wrthyf f'hun,
Ai rhyw gerübiaidd lun A welais fry ?
Un fraich o dan fy mhen,
A’r Hall fyth tua’r nen Yn gofyn bendith wennbsp;A rhad i mi.
Arhosed cadair yr aelwyd yn Nghymru, megis y mae wedi bod mewn cannoedd onbsp;gartrefi cyffredin a diaddurn, —arhosed eto ynnbsp;orsedd, yn allor, ac yn ffynhonell mwynhad.nbsp;Yna, gellir cymhwyso llinellau Dewi Wyn atnbsp;y rhai a fegir o’i deutu,—
Uwch, uwch, uwchach yr êl,
Dringed i gadair angel,
-ocr page 59-CADAIR ANGEL.
-ocr page 60- -ocr page 61-CADAIR ANGEL.
quot; Ar ei ol, cyfododd Robert Roberts. Yr oedd difrifoldeb ofnadwy ar ei wynebpryd. Darllenodd ei destyn. Ym-ddangosai ar y cyntaf braidd yn bryderus, Siaradai yn Ilainbsp;manwl nag y byddai yn arfer gwneyd. Yn raddol, y mae einbsp;ddawn yn rhwyddhau, ei lais yn clirio, a’r olwg arno ynnbsp;dyfod yn fwy-fwy difrifol. Y mae yn myned rhagddo,nbsp;ac yn cymeryd gafael yn enaid yr boll gynulleidfa,—ynbsp;mae rhai yn llewygu, y Ileill yn gwaeddi, ac yntau a’inbsp;lais fel udgorn Duw yn treiddio drwy y 11e. Ar hyn, neunbsp;rywbryd yn ystod yr oedfa, dyna y bachgen arall yn troinbsp;at Elias Parry, ac yn gofyn iddo, a’i wynebpryd yn welwnbsp;fel corph marw,—‘ Dyn ydi o, fachgen, ynte angel ? ’ ‘ Ondnbsp;angel, fachgen, wyddet ti ddim ? ’ 'Na wyddwn i, yn wir ;nbsp;bobl anwyl, ond ydi angel yn well pregethwr o lawer nanbsp;dyn ! ’ ”—0. Thomas, D.D.
quot; Fel angel yn rhodio dros fwa y cwmwl,
A’i fys yn cyfeirio yn union i’r nef,
A'i fantell fel boreu o aur ar y nifwl,
A nerthoedd y nefoedd i gyd wrth ei lef :
Fel hyny y rhodiai y pennaf areithydd Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed,
A coed i rychwantu y duon wybrennydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed.quot;—Islwyn.
Dro yn ol, ymddangosodd hanes haf-daith i Glynnog mewn cyhoeddiad misol. Adolyg-wyd yr ysgrif gan henafgwr o Arfon, a dywedainbsp;ei fod wedi ei daro a syndod oherwydd nad oedd
-ocr page 62-58
CADEIRIAU ENWOG.
ynddi un crybwylliad am “ Robert Roberts,” y seraph-bregethwr a roddodd fawredd anniflan-edig ar bentref tawel Clynnog. Yr oedd y sylwnbsp;yn cynwys beirniadaeth deg, er mai pwrpasnbsp;llenyddol yn fwyaf neillduol oedd i’r ysgrif,nbsp;Ac eto nid “Clynnog” yr ymdeithydd dam-weiniol hwnnw ydoedd “Clynnog” Robertnbsp;Roberts, yn ystyr fanwl y gair. Mae’n wir fodnbsp;ei farwol ran yn gorwedd yn mynwent Beuno,nbsp;ond treuliodd ei yrfa fer, hynodlawn, ar un onbsp;lechweddau y fro, yn y fangre wledig anbsp;adwaenir fel “Capel Uchaf;” ac yno y cedwirnbsp;y relic sydd yn cael ei gyfleu mewn darlun ger-bron y darllenydd ar y dalennau hyn,—
CADAIR ROBERT ROBERTS.
Cyn gwneyd dim sylw pellach ar y dod-refnyn oedranus, ond dyddorol hwn, manteisiol fyddai crybwyll ychydig o ffeithiau cysylltiedignbsp;a banes y gwr fu unwaith yn berchen y gadair,nbsp;a osododd y fath fri arni, fel y mae caredigion
-ocr page 63-t V
- nbsp;nbsp;nbsp;\ «fc
CADAIR Y PARCH. ROBERT ROBERTS, CLYNNOG darlun qan R, O Roberts, Cyfreithiwr, Caernarfon).
-ocr page 64-6o
CADEIRIAU ENWOG.
yr achos wedi ei chadw yn barchus er’s yn agos i gan’ mlynedd, er cof am dano.
Ganwyd ef yn mis Medi, 1762, yn Ffridd-bala-deulyn, annedd ddiaddurn yn un o gym-oedd Nantlle. Yr oedd yn un o dri-ar-ddeg o blant. Chwarelwr oedd ei dad, ac yn gynarnbsp;iawn ar ei oes, gorfu i’r bachgen ddechreu ennillnbsp;ei fywioliaeth yn nghloddfa y Cilgwyn. Cafoddnbsp;hyfforddiant crefyddol da ar aelwyd ei nain,nbsp;ond wedi tyfu’n liane collodd y dylanwadau hynnbsp;eu gafael, am ysbaid, ar ei feddwl. Ymollyng-odd i fywyd penrydd ac anystyriol. Ni phar-haodd y cyfnod hwn yn hir. Yn y flwyddynnbsp;1779, daeth yr efengylydd pereiddfwyn “Jonesnbsp;o Langan ” i bregethu i Frynrodyn, ar nawn-gwaith yn yr haf. Pregethai ar destyn tranbsp;nodweddiadol o’i ysbryd a’u ddawn.—“Trowchnbsp;i’r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol.”nbsp;Yr oedd Robert Roberts, wedi dod i’r oedfa,nbsp;trwy berswad ei frawd, John (y Parch. John
-ocr page 65-6l
CADEIRIAU ENWOG.
Roberts, Llangwtn, wedi hyny). Aeth saeth oddiar fwa gwirionedd i’w galon. Bu am wyth-nosau yn mhangfeydd argyhoeddiad, ond fenbsp;droes i'r “ amddiffynfa,” a gwawriodd cyfnodnbsp;newydd ar ei fywyd. Cefnodd ar y chwarel,nbsp;ac ymsefydlodd fel gwas fferm yn Eifionydd.nbsp;Ymaelododd yn Eglwys Brynengan. Nid oeddnbsp;wedi cael dim manteision addysgawl, ond ynnbsp;y blynyddau hyn ymroddodd i ddiwyllio einbsp;feddwl, ac i gymhwyso ei hun, yn ddiarvvybod,nbsp;ar gyfer y dyfodol dysglaerwych oedd yn einbsp;aros. “ Yr oedd yn ymroddi i ddarllen; ynnbsp;hoff iawn o wrando pregethau ; yn arfer ysgrif-ennu y pregethau a wrandewid ganddo, o’inbsp;gof, yn fanwl ar ol myned adref; ynnbsp;myned yn gyson, ddwywaith neu dair neunbsp;bedair yn y flwyddyn, i Langeitho, gydanbsp;hen grefyddwyr eraill o gymydogaeth Brynengan, i wrando Mr. Rowland, ac i’r
cymun sanctaidd; ac yn cofio, yn ysgrif-8
-ocr page 66-62
CADEIRIAU ENWOG.
ennu, ac yn adrodd ei bregethau braidd yn gyflawn.”
O ran ei ddyn oddiallan, yr ydoedd, yn yr adeg bon, yn -wr ieuanc tal, Iluniaidd, ystwyth-gryf, a dysglaerdeb athrylith yn pelydru yn einbsp;lygaid. Ond daeth cyfnewidiad drosto,—cyf-newidiad a effeithiodd ar ei ymddangosiad drosnbsp;weddill ei oes. Gostyngwyd ei nerth ar ynbsp;ffordd. Yn nghanol ei ireidd-dra a’i nerth,nbsp;ymaflwyd ynddo gan afiechyd blin. Bu ynnbsp;dihoeni, rhwng bywyd a bedd, am fisoedd, anbsp;phan ddaeth yn abl i symud o’i orweddfa, prinnbsp;y gallai ei gydnabod gredu mai yr un gwrnbsp;ydoedd. “ Yr oedd golwg ryfedd arno; yr oeddnbsp;rhyw grebychiad ar ei ewynau, ac ar amwydynnbsp;ei gefn, nes ei wneyd yn grwcca hollol o ran einbsp;gorph ; ac felly y bu holl ystod ei weinidogaeth,nbsp;ac hyd ddiwedd ei ddyddiau.”
Ond er Ilygru y dyn oddiallan, ac er colli yr addurn a feddai gynt, yr oedd llewyrch ei
-ocr page 67-63
CADEIRIAU ENWOG.
athrylith eneiniedig, i wedd-newid y tabernacl daearol i’r fath raddau, nes y byddai dynion, arnbsp;brydiau, yn meddwl mai angel Duw oedd ynnbsp;llefaru wrthynt. Wedi ei wisgo a’r nerth o’rnbsp;uchelder, byddai rhyw ogoniant anghydmarolnbsp;yn disglaerio yn ei wynebpryd, ac yn trydanunbsp;ei ymadroddion.
Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1787, pan ydoedd yn 25 mlwydd oed, yn nghanolnbsp;gwres diwygiad. Yn ystod blynyddau cyntafnbsp;ei weinidogaeth, bu yn cadw ysgol Gymraegnbsp;mewn amryw barthau yn Eifionydd, ond ynnbsp;herwydd y galwadau Iluosog oedd yn y wladnbsp;am dano, rhoddes yr ysgol i fyny, ac ym-sefydlodd yn nhy’r capel, — Capel Uchaf,nbsp;Clynnog, ac yno y bu hyd derfyn ei oes.nbsp;“ Fe dynodd ei weinidogaeth, braidd ar un-waith, sylw cyffredinol, a daeth yn fuan ynbsp;pregethwr mwyaf poblogaidd yn Nghymru.nbsp;Yr oedd rhywbeth ynddo fel pregethwr ag y
-ocr page 68-64
CADEIRIAU ENWOG.
mae yn amhosibl ei ddarlunio, a rhywbeth
nas gallwn ni.....ffurfio prin un
dychymyg am dano. Tystiolaeth pawb ar ai clywsant yw, na chlywsant neb cyffelyb iddo.nbsp;Yr oedd y fath rwyddineb yn ei ddawn, y fathnbsp;angerddoldeb yn ei deimlad, y fath fywiog-rwydd a nerth yn ei ddychymyg, y fath amryw-iaeth yn ei lais, a’r fath allu ganddo i’w daflu einbsp;hunan yn gwbl i’r mater a fyddai ganddo dannbsp;sylw, nes y byddai yr effeithiau ar y cynulleid-faoedd yn hollol drydanol. Ar adegau felly,nbsp;byddai golwg ryfedd arno ef ei hunan,—byddainbsp;dan gynhyrfiadau ofnadwy. Weithiau byddainbsp;ei lygaid yn melltenu nes gwneyd braidd ynnbsp;amhosibl edrych arno; weithiau fe’i canfyddidnbsp;yn sirioli nes rhoddi gwên ar bob wyneb; ac,nbsp;yn amlach, byddent yn ffynonau o ddagrau, nesnbsp;cynyrchu wylo cyffredinol drwy y gynulleidfa.nbsp;Pa beth bynag fyddai pwnc y bregeth, fe’i dat-guddiai ei hunan yn agweddau ei wynebpryd.
-ocr page 69-65
CADEIRIAU ENWOG.
yn ysgogiadeu ei gorph, yn nhón ei lais, yn gystal ag yn netholiad ei eiriau, a ffurfiad einbsp;frawddegau, nes peri i’r gwrandawyr nid ynnbsp;unig ei ddeall, ond ei deimlo.”
Dywed yr un awdwr yn mhellach, wrth symio i fyny ei ddesgrifiad godidog o “ seraph-bregethwr ” Cymru,—“ Pymtheg mlynedd a funbsp;parhad ei dymhor gweinidogaethol; ac yn yrnbsp;ysbaid byr hwnnw, er holl anfanteision am-gylchiadau isel, amddifadrwydd hollol onbsp;ddysgeidiaeth athrofaol, ac ymddangosiadnbsp;allanol eiddil ac anolygus, fe adawodd ar-graph mor ddwfn ar feddwl ei genedl,nbsp;fel y mae ei enw yn air teuluaidd hollolnbsp;gan filoedd lawer ohonynt, yn mhen 70 mlyneddnbsp;[95 mlynedd, bellachj, wedi ei gladdu. Yn ynbsp;bywyd, y teimlad, y grym,—ac yn enwedig yn ynbsp;dull drychebol, neu pa air Cymraeg a gawn amnbsp;dano {dramatic), tra effeithiol, ag sydd i fesur ynnbsp;hynodi y Pulpud Cymreig eto, yr oedd arbenig-
-ocr page 70-66
CADEIRIAU ENWOG.
rwydd neillduol yn ngweinidogaeth Robert Roberts, Clynnog.”
lë, dim ond pymtheg mlynedd o fywyd cyhoeddus, ac eto i gyd, wedi cerfio ei enw ynnbsp;anileadwy ar hanes pulpud a chrefydd Cymru.nbsp;Bu farw yn misTachwedd, 1802, yn 40 mlwyddnbsp;oed. Nid oes ond careg las, seml, ar ei feddrodnbsp;yn mynwent y plwy’, ond y mae’n gerfiedignbsp;arni bedair llinell gynwysfawr o eiddo Ebennbsp;Fardd,—llinellau sydd yn grynhodeb o nod-weddion y gwr y bydd Cymru am lawer oes ynnbsp;chwenych ei anrhydeddu :—
Yn noniau yr eneiniad,—rhagorol Fu'r gwr mewn dylanwad ;
Seraph, o'r nef yn siarad,
Oedd ei lun yn ngwydd y wlad.
Dichon y daw ton o frwdfrydedd cyn bo hir, yn nglyn ag enwogion Arfon, ac y codir cof-golofn hardd i fytholi hanes Robert Roberts,nbsp;megis y gwnaed eisoes d rhai o’i gyd-oeswyr.
-ocr page 71-67
CADEIRIAU ENWOG.
? -IP
Yn y cyfamser, boed i bobl dda Clynnog gadw gwyliadwriaeth serchog ar ei orweddfa. Nanbsp;chaffed adfeiliad nac esgeulusdra hacru beddrodnbsp;gwr Duw.
Ond er mai yn Nghlynnog y gorphwys ei weddillion, nid yno yr oedd ei gartref, eithrnbsp;mewn ardal lonydd ar y bryniau cyfagos, anbsp;adwaenir fel Capel Uchaf. Y mae yn agos inbsp;ganrif er hynny, ac nid ydyw Capel Uchaf ynbsp;dyddiau diweddaf hyn yn debyg i’r hyn ydoeddnbsp;yn ei amser ef. Nid oes yno ddim o’r braiddnbsp;yn tystiolaethu am dano,—dim cof-len ar y mur,nbsp;dim llyfr nac ysgrif—dim ond y dodrefnyn yrnbsp;ydym eisioes wedi crybwyll am dano,—cadair ynbsp;prophwyd. Nis gwyddom am ba hyd y bu yn einbsp;feddiant, na pha faint 0 ddefnydd a wnaeth efenbsp;ohoni. Yr ydoedd yn treulio llawer o amsernbsp;oddicartref, ar deithiau pregethwrol, ond pannbsp;yn ei gynefin, yn darllen ac yn parotoi ar gyfernbsp;y pulpud, deallwn mai dyna ei gadair ddewisol
-ocr page 72-68
CADEIRIAU ENWOG.
ar yr aelwyd. Ar y cyfrif hwn, y mae yn grair (relic) gwerthfawr. Y mae amryw o enwogionnbsp;Cymru, o bryd i bryd, wedi bod yn ei gweled,nbsp;ac nid oes un amheuaeth am ei dilysrwydd.nbsp;Dilynwn eu hesiampl, a cheisiwn gynorthwynbsp;gwerthfawr y camera i’w dodi, fel y mae, gerbronnbsp;y darllenydd.
Cyrhaeddasom bentref Clynnog ar foreu tyner yn Medi, 1897. Yr oedd gwenau yrnbsp;“ haf bach ” yn sirioli y llechweddau. Cawsomnbsp;gwmni a hyfforddiant “esgob” presennol Capelnbsp;Uchaf, a dechreuasom ddringo’r bryn. Yrnbsp;oedd y mwyar duon yn dryfrith ar ochrau ynbsp;clawdd, ac anhawdd oedd gwrthsefyll y dem-tasiwn i wledda arnynt, yn hytrach nac ym-Iwybro ymlaen. Wedi dringo encyd, ar hydnbsp;fïordd gul, a’r hin yn frwd, daethom i bennbsp;y bryn, ac yr oedd yr awel mor falmaidd, fel yrnbsp;oedd yn rhaid gorphwys, oherwydd yr oedd
-ocr page 73-69
CADEIRIAU ENWOG.
yr esgob eisioes yn Iluddedig gan y daith. Aethom ymlaen eilwaith, ac wedi pasio rhainbsp;amaethdai bychain, taclus, daethom i olwg ynbsp;“ Capel.” Saif ar fin y ffordd, ac y mae nifer onbsp;dai annedd gerllaw. Dyma’r trydydd addoldynbsp;er adeg dechreuad yr achos yn yr ardalnbsp;neillduedig bon. Adeiladwyd y capel cyntafnbsp;yn 1761—blwyddyn cyn geni Robert Roberts.nbsp;Nid oes dim o’r addoldy hwnnw yn aros er’snbsp;llawer dydd. Ond dywed traddodiad yr ardalnbsp;fod y capel hwnnw a’r ty capel yn un adeilad—nbsp;yr un muriau oedd i’r oil. Cynwysai y ty capelnbsp;ddwy ystafell—un yn gegin ac yn barlwr, a’rnbsp;Hall yn )?stafell wely. Yr oedd y ddwy ar yr unnbsp;llawr, ac uwchben yr oedd math o oriel perth-ynol i’r capel. Fr ty capel hwn y daeth Robertnbsp;Roberts i fyw yn gynar ar ei oes weinidogaethol.nbsp;Yma y bu hyd y diwedd. Nid ydoedd ondnbsp;11e digon cyffredin a diaddurn—dim ond dwy
ystafell ar lawr. Pa Ie yr oedd y study, tybed ?
9
-ocr page 74-70
CADEIRIAU ENWOG.
Hawdd credu mai y capel ei hun oedd llyfrgell ac efrydfa y pregethwr seraphaidd. Yno yrnbsp;ydoedd yn gallu galw y gyaulleidfa ger ei fron,nbsp;pan y mynnai, ac yr oedd ei fyfyrdodau wedi eunbsp;bwriadu, nid i’w hysgrifenu yn gymaint, ondnbsp;i’w traethu, i’w tywallt yn rhaiadrau crychwyn arnbsp;gydwybodau y gwrandawyr. Gwelwyd llawernbsp;golygfa gofiadwy yn yr hen gapel, gyda’i feinciaunbsp;celyd, a’i lawr pridd. Clybuwyd yno lais gor-foledd a chan,—swn diwygiadau grymus ynbsp;ganrif o’r blaen. Adgofiai yr hen wrandawyrnbsp;am Robert Roberts, fwy nac unwaith, yn cael einbsp;OTchfygu gan yr olygfa, yn disgyn o’r pulpud,nbsp;yn gorfoleddu ar lawr y capel, ac yn cael einbsp;gludo, mewn haner llesmair i’r gadair fraich ynnbsp;nhy’r capel. Bn y babell gyntaf yn sefyll amnbsp;banner canrif, pryd y gwelwyd yn anghenrheid-iol i estyn y cortynau. Adeiladwyd yr ailnbsp;deml yn i8ii, yn mhen naw mlynedd wedi marwnbsp;Robert Roberts. Yr oedd i8ii yn un o flyn-
-ocr page 75-71
CADEIRIAU ENWOG.
yddau mawr y Cyfundeb Methodistaidd. Dyna flwyddyn yr ordeinio cyntaf yn y Bala. Ninbsp;chafodd seraph Clynnog weled gwawr y cyfnodnbsp;hwn yn hanes ei enwad. “Pregethwr” yrnbsp;Efengyl, ac nid “gweinidog” sydd ar gareg einbsp;fedd. Cafodd efe ei urddo, nid drwy osodiadnbsp;dwylaw, ond drwy north y Bywyd anherfynolnbsp;oedd ganddo i’w gyhoeddi i’r byd. “ Yn noniaunbsp;yr Eneiniad ” y cafodd efe ei arwisgo, a’i wneydnbsp;yn weinidog cymhwys y Testament Newydd.nbsp;Ond son yr oeddym am yr ail addoldy. Bunbsp;y saint yn mynd a dyfod i hwnnw am yrnbsp;ysbaid o 69 mlynedd, hyd 1870, pan y cod-wyd y capel presennol. Ond ni chafodd yrnbsp;ail deml ei chwalu fel y gyntaf. Y mae ynnbsp;aros hyd y dydd hwn, ac wedi ei gwneydnbsp;yn “ dy capel.” Mewn parlwr bychan, onbsp;fewn y ty hwn, y cedwir y “ gadair,” felnbsp;yr “ arch ” yn nhy Obededom gynt, ac ynbsp;mae pob pregethwr—bydded fach neu fawr.
-ocr page 76-72
CADEIRIAU ENWOG.
yn cael y fraint o eistedd yn nghadair Robert Roberts.
Tra byddo ein cyfaill “ Zenas, y cyfreith-iwr ” yn gwneyd trefniadau i ddod a’r gadair i’r awyr agored, ac yn gosod y camera yn ei Ie, awnnbsp;allan i fwynhau yr olygfa. Y mae’r nawn ynnbsp;deg, a’r awyr yn glir. O un cyfeiriad yr ydymnbsp;yn gweld y mynyddau,—cadwen yr Eryri. Ynbsp;mae’r Wyddfa’n ddiorchudd, a mwg yr ager-beiriant yn cyrlio ar hyd ei hystlysau, ac uwch-ben ei cheunentydd. Anhawdd meddwl amnbsp;lecyn mwy manteisiol i weid y Wyddfa, pan ynbsp;bo yn ddigon graslawn i ddatguddio ei hun.nbsp;Yn y pellder y mae Moei Siabod fel pyramidnbsp;pigfain. Gorwedda y Mynyddfawr ar yr aswy.nbsp;Ar y dde, y mae y Migneint, ac onibae am y Foeinbsp;sydd yn codi ei hysgwyddau o’n blaen, buasemnbsp;yn canfod Dyffryn Nantlle. O gyfeiriad arallnbsp;yr ydym yn gweled ardal boblog Penygroes, a
-ocr page 77-73
CADEIRIAU ENWOG.
gwastadeddau coediog Llandwrog, yn nghyda darn glasliw o gulfor Menai. Golygfa gyfoethog,nbsp;amrywiaetho], mewn gwirionedd, — golygfanbsp;fuasai’n ysbrydoli unrhyv; un allai deimlo oddi-wrth ddylanwadau Anian. Ac y mae hon ynnbsp;arcs fel yr oedd 3?n nyddiau Robert Roberts,—nbsp;“ aros mae’r mj^nyddau mawr.” Os mai cyff-redin oedd annedd y seraph-bregethwr, er nadnbsp;oedd ganddo nemawr ddim o foethau celfyddyd,nbsp;—dim darluniau costfawr ar furiau ei ystafell-oedd — dim cywreinion o wledydd pell, — panbsp;wahaniaeth ? Nid oedd raid iddo ond ym-Iwybro ychydig o’i fyfyrgell i weled golygfa nadnbsp;yw byth yn heneiddio. Gwelai ardduneddnbsp;crëad lor. Edrychai ar y wawr yn tori ar gribnbsp;y mynydd, ac yn ymwasgaru i’r dyffrynoedd.nbsp;Gwelai ogoniant machlud haul yn goreuro ynbsp;weilgi, a ser y cyfnos yn pefrio ar y gorwelionnbsp;pell. Hawdd yw son am gyfleusderau y dref, anbsp;manteision y llyfrgelloedd cyhoeddus, ond fel
-ocr page 78-74
CADEIRIAU ENWOG.
mangre y gryfhau egnion corph a meddwl, ac fel lie i weled gweledigaethau Duw, anhawddnbsp;fuasai synio am le mwy cymwys na’r llanerchnbsp;fu un adeg, yn gartref Robert Roberts.
Y mae mynwent, ar lecyn heulog, gerllaw y capel. Bellach, y mae llu o bererinion yr ardal-oedd yn gorphwys o dan ei phriddellau. Tyfnbsp;blodau gwylltion yn mysg y beddau, tywyna yrnbsp;haul yn danbaid ar y meini, nes y mae’nnbsp;anhawdd credu ambell funud ein bod yn rhan-dir angeu. Yn mysg y bedd-rodau gwelsomnbsp;eiddo y Parch. William Roberts, Hendrenbsp;bach,—William Roberts, Clynnog. Esbonioddnbsp;lawer ar y prophwydoliaethau, a bu yn dadleu’nnbsp;gryf ar Fedydd, gyda’r diweddar Barch.nbsp;Robert Jones, Llanllyfni. Bu farw yn ynbsp;flwyddyn 1857, yn 84 mlwydd oed, wedi bodnbsp;yn pregethu am dros haner canrif. Cerfiwydnbsp;englyn o eiddo Eben Fardd ar ei fedd.nbsp;Dyma fe :—
-ocr page 79-75
CADEIRIAU ENWOG.
Pregethwr, awdwr ydoedd,—agorwr,
Geiriau glan y nefoedd ;
Pur hoff yw dweyd,—proffwyd oedd,
Yn llewyrch ei alluoedd.
Yn 1863, bu farw John Owen, Henbant bach, yn 93 oed. Yr oedd yn gyd-weithiwr a Mr.nbsp;Charles o’r Bala, ac yn sylfaenydd yr Ysgolnbsp;Sabbothol yn yr ardaloedd. Dyna’r dystiol-aeth sydd ar ei fedd, wedi ei saern'io gan Dewinbsp;Arfon :—
Y Selyf hwn fu’n sylfaenu,—yn ein bro Gyda'r brawd Charles fwyngu,
Yr Ysgol Sabothol: bu Enaid hon wedi hynny.
Yma hefyd, y gorphwys y ffraethbert a’r gwreidd-iol Owen Owens, o Gorsywlad, Bwlch Derwyn. Y mae ngeiniau o’i ddywediadau yn aros ar gofnbsp;gwlad. Bu farw yn 1877—yr un oed a’r ganrifnbsp;—wedi gwasanaethu y swydd o ddiacon amnbsp;haner cant o flynyddoedd. Cyfansoddwyd einbsp;feddargraph gan Tudwal, felycanlyn:—
-ocr page 80-76
CADEIRIAU ENWOG.
Gwas gwiw lesu gwsg isod,—ef oedd wr,
Feddai eiriau parod;
Gwres ei ddawii wnai'r quot; Gors ” ddinod,
Yn amlwg mewn gloew glod.
Y mae y golofn wenlliw sydd yn nghwr uchaf y fynvvent yn bytholi coffadwriaeth gwraignbsp;garedig,—diweddar briod y Parch. J. Jones,nbsp;Bryn’rodyn. Nid oes beddfaen eto ar orweddfanbsp;Hugh Jones, Bronyrerw, ond ceir yr englynnbsp;canlynol, o eiddo Hywel Tudur, ar y garreg lienbsp;yr huna dan oh feibion :—
O Fron-yr-erw i Fryn-hir-aros,—aethant I fan bythol ddiddos:
O waelni a hir wylnos,
I le gwycli, di-nych, di-nos.
*• nbsp;nbsp;nbsp;#nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;¦»nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;*nbsp;nbsp;nbsp;nbsp;¦X-
Ond y mae y “ gwawl-arlunydd ” yn barod. Gosodwn y gadair yn nghyntedd yr addoldy,nbsp;a chaiff yr “ esgob ” sefyll fel gwyliedyddnbsp;gerllaw i sicrhau dilysrwydd y drafodaeth!nbsp;Dyma hi. Cadair ddwyfraich ydyw, wedi ei
-ocr page 81-77
CADEIRIAU ENWOG.
gwneyd o dderw du Cymreig. Ysgafn, yn
hytrach, ydyw ei gwneuthuriad, ac y mae ol
Ilaw gelfydd ar y cefn, y breichiau, a’r traed.
Rhaid ei bod dros gant oed, ac eto nid ydyw
arwyddion henaint wedi ymaflyd ynddi. Erys
yn gadam a hardd; nid oes pryf na phydrédd
wedi cyffwrdd a’i choed. Gall y duwinydd
trymaf yn Arfon eistedd ynddi yn ddiberygl; ac
i bob golwg gall ddal am ganrif eto heb fod
nemawr gwaeth. Onid yw yn haeddu caeltynu
ei llün ? Gofidia edmygwyr Robert Roberts
nad oes darlun ohono ef ar gael yn un man.
Tra y mae genym ddarluniau gweddol o’r
Tadau Methodistaidd—Howell Harris, Daniel
Rowland, Williams Pantycelyn, Jones Edeyrn,
Charles o’r Bala, amp;c., nid oes cymaint
a lied Haw ar len na maen i ddynodi ffurf
gorphorol, na mynegiant gwynebpryd y seraph
o Glynnog. Rhaid i arlunydd y dyfodol ddibynu
ar ddesgrifiadau yr “ hen bobl,” fel y maent 10
-ocr page 82-78
CADEIRIAU ENWOG.
wedi eu corphori yn ysgrifau Michael Roberts, Eben Fardd, Dr. Owen Thomas, a Dr. Griffithnbsp;Parry, yr hwn sydd yn un o ddisgynyddionnbsp;Robert Roberts.
Dan yr amgylchiadau hyn, pan y mae y creiriau mor brinion, yr ydym yn dirgel feddwlnbsp;y bydd yn ddymunol gan y darllenydd gaelnbsp;darlun o “gadair” y prophwyd, ac os metha ynbsp;darlun a llwyr foddhau ei gywreinrwydd, yrnbsp;ydym yn gwbl foddlawn iddo fynd ar bererin-dod i Gapel Uchaf, Clynnog, a cheisio gwneydnbsp;ei well!
Yno y mae y “ gadair ” hanesyddol wedi cael llety hyd yn hyn. Nid ydyw wedi mudonbsp;ond ychydig latheni o’r llecyn lie y defnyddidnbsp;hi gan ei pherchen hyglod, ac yr ydym ynnbsp;hyderu mai yno y cedwir hi yn y dyfodol.nbsp;Cawsom ar deall fod ymgais wedi ei wneyd i’wnbsp;phrynu, a’i chymeryd i le arall. Na foed i’rnbsp;frawdoliaeth yn Capel Uchaf ildio i’r demta-
-ocr page 83-79
CADEIRIAU ENWOG.
siwn. Nis gellir ei phrynu. Y mae yn rhan o hanes yr achos yn y lie. Gall ei phresenoldebnbsp;yno fod yn fendith i lawer. Rhaid i ddyn fodnbsp;yn gwbl ddi-farddoniaeth os na theimla ryw iasnbsp;o gysegredigrwydd yn ymgripio drosto ynnbsp;ymyl “cadair ” y gvvr fu yn ysgwyd cenedl a’inbsp;hyawdledd, ac a barodd i’w wlad ei gofio felnbsp;pregethwr “hynotaf” ei ddydd.
Y mae “ cadeiriau enwog Cymru wedi lluosogi er ei amser ef. Er y pryd hwnnw, ynbsp;mae cadair llenyddiaeth wedi ymgodi i uchelfri,nbsp;a gallwn ymffrostio yn nghadair yr athrofa a’rnbsp;brif-ysgol. Ond er amledd cadeiriau an-rhydedd ac awdurdod drwy Ogledd a De, yrnbsp;ydym yn credu y bydd lie arhosol yn nhemlnbsp;crefydd Cymru Fydd i’r gadair yr ydym wedinbsp;ceisio ei darlunio, ac adrodd ei hanes,—
CADAIR ROBERT ROBERTS, CLYNNOG.
-ocr page 84- -ocr page 85- -ocr page 86- -ocr page 87- -ocr page 88-